Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Paratoi ar gyfer rhaglenni brechu mewn ysgolion

Gwybodaeth ac adnoddau i helpu ysgolion i baratoi a chefnogi timau nyrsio mewn ysgolion i ddarparu gwasanaethau brechu i blant oedran ysgol.
28 Medi 2026

Canllawiau

Gan weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a nyrsys ysgol, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau i gynorthwyo gyda'r gwaith o weinyddu a rheoli'r rhaglenni brechu plant mewn ysgolion.

Nod y canllawiau hyn yw egluro sut y gall penaethiaid a staff ysgolion helpu timau nyrsio i frechu plant oed ysgol, a hynny er mwyn sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael eu hamddiffyn rhag clefydau y gellir eu hatal.

Gweminar

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol a’r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg wedi cyfrannu ar y cyd at weminar wedi’i recordio ymlaen llaw i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y rhaglenni brechu mewn ysgolion.

Gyda diweddariadau gan gyfranwyr darparu a pholisi allweddol ar draws y sectorau iechyd ac addysg, bydd y weminar yn helpu i dynnu sylw at fanteision cydweithio agos rhwng iechyd ac addysg, pwysigrwydd brechu, a darparu enghraifft ymarferol o sut y gall perthynas gadarnhaol rhwng ysgolion a thimau nyrsio mewn ysgolion arwain at weithgarwch brechu llwyddiannus a chanlyniadau iechyd cadarnhaol.

Byddem yn annog holl benaethiaid a staff ysgolion i wylio'r weminar.

Adnoddau ychwanegol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau i gynorthwyo ysgolion, pobl ifanc a’u rhieni neu eu gofalwyr. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dogfennau briffio i benaethiaid a staff ysgolion ar bob un o’r rhaglenni brechu mewn ysgolion, yn ogystal ag adnoddau brechu sy’n benodol i ysgolion.

Llythyr at Gyfarwyddwyr Addysg

Darllenwch lythyr Llywodraeth Cymru at Gyfarwyddwyr Addysg, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi rhaglenni imiwneiddio mewn ysgolion.

Pecyn cymorth rhanddeiliaid ffliw ar gyfer plant oedran ysgol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu pecyn cymorth cyfathrebu er mwyn helpu ysgolion i annog plant oedran ysgol i gael y brechlyn ffliw. Cynigir y brechlyn ffliw am ddim i bob plentyn, o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11. Mae'n helpu i'w hamddiffyn rhag y ffliw a lleihau ei ledaeniad mewn ysgolion a chymunedau.

Cyrchwch y pecyn cymorth o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu lawrlwythwch trwy eu platfform Brand Kit.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf