Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cystadleuaeth Ysgolion Flynyddol MiSAC 2027

Cymerwch ran yng Nghystadleuaeth Ysgolion MiSAC 2027 ac archwilio clefydau marwol a brechu mewn her i ddysgwyr 11 i 16 oed.
17 Tachwedd 2026

Gwahoddir ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ysgolion Flynyddol MiSAC 2027, sy'n cefnogi dysgu drwy bynciau byd go iawn sy'n gysylltiedig â’r Cwricwlwm i Gymru.

Thema eleni yw Dychweliad Clefydau Marwol, sy'n annog dysgwyr 11 i 16 oed (Camau cynnydd 4 a 5) i archwilio dychweliad clefydau megis y frech goch, y pâs a difftheria, a'r cysylltiadau rhwng hyn a'r gostyngiad mewn brechiadau plant.

Tasg y dysgwyr yw creu taflen wybodaeth ar gyfer meddygfa er mwyn esbonio pwysigrwydd manteisio ar y rhaglen frechu lawn i unigolion ac i'r gymuned, gan ddatblygu eu sgiliau ymchwil, digidol a chyfathrebu.

Mae'r pwnc yn cefnogi'r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, gan helpu dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o Iechyd a Lles a rhaglenni iechyd cyhoeddus swyddogol.

Cymerwch ran yn y gystadleuaeth

Mae'r gystadleuaeth yn rhad ac am ddim i ymuno ac mae £1,200 o wobrau ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mawrth 2027.

Mae manylion llawn a ffurflenni cais ar gael ar wefan MiSAC.

Mae hon yn gystadleuaeth ledled y DU a gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf