Diweddariad misol ar addysgeg ac ymarfer ym maes dysgu sylfaen Tachwedd 2026: datblygiad plant
Mae deall sut mae plant yn datblygu yn helpu ymarferwyr i sylwi ar yr hyn sy'n bwysig, ymateb yn feddylgar a chreu profiadau sy'n adeiladu ar ddiddordebau, cryfderau ac anghenion pob plentyn.
Mae diweddariad y mis hwn yn tynnu ynghyd syniadau ymarferol i gefnogi ymarfer a phrosesau dadansoddi bob dydd. Gellir defnyddio'r adnoddau yn unigol, eu rhannu yn ystod cyfarfodydd tîm neu eu hystyried fel rhan o sesiwn dysgu proffesiynol a gwaith cynllunio ar sail dadansoddi.
Datblygiad plant ar waith
Mae'r adnoddau hyn yn archwilio sut mae arsylwi, cydberthnasau a diddordebau plant yn cyfrannu at ddysgu a datblygiad:
Astudiaeth achos llwybrau datblygu 0 i 3: defnyddio llwybrau datblygu i lywio ymarfer.
Pwysigrwydd cysylltiadau: ystyried cydberthnasau a dysgu.
Manteisio i'r eithaf ar ddiddordebau plant: astudiaeth achos Estyn ar chwilfrydedd ac ymgysylltu.
Trwy lygaid plentyn: ystyried profiadau o safbwynt plentyn.
Plant tawel, swil a phryderus yn y blynyddoedd cynnar: cefnogi cyfranogiad a lles.
Meithrin gwybodaeth broffesiynol
Cryfhau dealltwriaeth o ddatblygiad plant drwy ddysgu proffesiynol a dadansoddi:
Modiwl hunangyfeiriedig Dysgu proffesiynol: datblygiad plant.
Sesiynau hyfforddi Mudiad Meithrin wedi'u recordio, sy'n ymdrin ag ystod o bynciau'r blynyddoedd cynnar.
Astudiaethau achos o arfer effeithiol: datblygiad plant i hwyluso trafodaethau a gwaith dadansoddi fel tîm.
Ewch yn ôl at Llwybrau Datblygu 0 i 3 a'i ddefnyddio fel sail i'ch cynllunio a'ch ymarfer.
Sylwi ar batrymau drwy chwarae
Archwilio adnoddau ar sgemâu, deunyddiau penagored, profiadau synhwyraidd a'r cysyniad o symud, i gefnogi plant wrth iddynt archwilio ac ymgysylltu:
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL)
Mae'r ffenest geisiadau ar agor ar gyfer Cyfres Arweinyddiaeth Uwch DARPL Ionawr 2027 ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr yn y sector gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Darllenwch yr amlinelliad o'r rhaglen.
Cyfle i glywed gan gyfranogwyr blaenorol drwy fideos DARPL ar Ofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar.
Arolwg Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwahodd ymarferwyr, rheolwyr a gwarchodwyr plant i gwblhau Arolwg Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant 2026.
Mae'r arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau, mae'n ddienw, ac yn cau ar 30 Tachwedd 2026.
Gwybodaeth ac adborth
A fyddech cystal â rhannu'r diweddariad hwn â'ch cydweithwyr? I ymuno â'r rhestr bostio neu i roi adborth, anfonwch e-bost at dysgusylfaen@gov.wales.