Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Hwb yw’r platfform addysg dwyieithog ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Mae'n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae Hwb yn helpu ysgolion a gynhelir yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol. Mae'n darparu mynediad at offer, adnoddau a gwasanaethau dwyieithog i gefnogi dysgu ac addysgu.

Ers ei lansio yn 2012, mae Hwb wedi tyfu i fod yn llwyfan cenedlaethol ar gyfer addysg yng Nghymru.

Mae Hwb yn helpu ysgolion i ddarparu profiadau dysgu diddorol, cynhwysol a hygyrch i bob dysgwr. Drwy gyfrif ar Hwb, gall dysgwyr ac ymarferwyr gael mynediad at ystod o wasanaethau digidol am ddim, gan gynnwys:

  • Microsoft 365

  • Google Workspace for Education

  • Adobe Creative Cloud Express

  • Just2easy

  • adnoddau ystafell ddosbarth

Mae Hwb hefyd yn darparu:

  • dysgu proffesiynol i ymarferwyr

  • canllawiau ac adnoddau i helpu dysgwyr i gadw'n ddiogel ar-lein

  • cefnogaeth ar gyfer dysgu ac addysgu digidol

  • mynediad at wybodaeth a chanllawiau dibynadwy

  • adnoddau dysgu ac addysgu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Rydym yn adolygu cynnwys a gwasanaethau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir, yn hygyrch ac yn berthnasol.

Rydym yn cydweithio ag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid addysg ledled Cymru i sicrhau bod Hwb yn parhau i ddiwallu anghenion ein dysgwyr, ymarferwyr a'r gymuned addysg ehangach.


Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026