Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Fframweithiau sgiliau trawsgwricwlaidd

Trosolwg

Mae llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Cyfrifoldeb yr ymarferwyr, ar draws pob maes y cwricwlwm, fydd datblygu a sicrhau cynnydd yn y sgiliau hyn. Mater i’w benderfynu arno ar lefel leol yw sut y bydd sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael eu datblygu o fewn y cwricwlwm, a rhaid i hynny weddu hefyd i ddulliau gweithredu’r ysgolion unigol.

Er mwyn helpu ysgolion ac ymarferwyr i ddarparu cyfleoedd i ddatblygu, ymestyn a chymhwyso’r sgiliau hyn, mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi eu diweddaru ac yn parhau i fod ar gael fel canllawiau cynorthwyol anstatudol.