Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn rhan o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith). Mae’r Fframwaith hwn yn cael ei bennu’n genedlaethol ac mae’n cynnwys gofynion i gwricwlwm, a fydd yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth, ynghyd ag ystod o ganllawiau ategol.
Mae’n cynnwys y canlynol:
Cyflwyniad i ganllawiau Cwricwlwm i Gymru
Cynllunio eich cwricwlwm: canllaw cyffredinol ar ddatblygu cwricwlwm ar draws pob maes dysgu a phrofiad [Maes/Meysydd]
Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu
Ymlaen â’r daith: disgwyliadau o ran y broses barhaus o gynllunio, adolygu a diwygio cwricwlwm
Cyflwyniad i bob Maes dysgu a phrofiad
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig: y ‘syniadau mawr ac egwyddorion allweddol ymhob Maes
Egwyddorion cynnydd: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd eu dysgu ar draws y cwricwlwm
Disgrifiadau dysgu: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig
Cynllunio eich cwricwlwm: egwyddorion ar gyfer pob Maes – mwy o arweiniad Maes-benodol ar ddatblygu cwricwlwm