Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Telerau ac amodau a pholisi defnydd derbyniol ar gyfer defnyddio Platfform Gwe Hwb (y "Telerau")

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio Platfform Gwe Hwb. Rydych yn derbyn y Telerau canlynol pan fyddwch yn defnyddio Platfform Gwe Hwb

Diolch am ymweld â Phlatfform Gwe Hwb a geir yn https://hwb.gov.wales/

Mae'r Telerau hyn yn dweud beth yw’r rheolau ar gyfer defnyddio a chael mynediad at dudalennau gwe https://hwb.gov.wales a https://hwb.llyw.cymru ("Platfform Gwe Hwb"). Maent yn diffinio'r defnydd priodol o Blatfform Gwe Hwb.

Nid yw'r Telerau hyn yn berthnasol i ddefnyddio a chael mynediad i Amgylchedd Cwmwl Hwb. Bwriad Platfform Gwe Hwb yw cefnogi dysgwyr, athrawon, rhieni a gofalwyr, ysgolion, awdurdodau lleol ac eraill sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru.

Os ydych yn ddysgwr neu'n berson ifanc ac yn cael trafferth deall y Telerau hyn, gofynnwch am eglurhad gan athro, rhiant, gofalwr neu oedolyn dibynadwy arall.

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Mae Platfform Gwe Hwb yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ("ni").

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at cymorth@hwbcymru.net neu ysgrifennwch atom yn: Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful CF48 1UZ.

Rydych yn derbyn y Telerau canlynol pan fyddwch yn defnyddio Platfform Gwe Hwb

Pan fyddwch yn defnyddio Platfform Gwe Hwb, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Telerau hyn ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy.

Os nad ydych yn cytuno i’r telerau hyn, peidiwch â defnyddio Platfform Gwe Hwb.

Gallai rhai telerau eraill fod yn berthnasol i chi

Mae'r telerau canlynol hefyd yn berthnasol pan fyddwch yn defnyddio Platfform Gwe Hwb:

  • Ein Hysbysiad Preifatrwydd

    • Mae hwn yn egluro sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol ac yn darparu manylion am eich hawliau mewn perthynas â'r data a gasglwn amdanoch.

  • Ein Polisi Cwcis

    • Mae hwn ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ac mae'n nodi gwybodaeth am y cwcis a ddefnyddiwn ar Blatfform Gwe Hwb.

  • Telerau Gwasanaeth YouTube:

    • Caiff eich defnydd o YouTube ei lywodraethu gan Delerau Gwasanaeth YouTube (mae'r Cleient API yn defnyddio Gwasanaethau API YouTube).

  • I gael mynediad at ddetholiad o recordiadau oddi-ar-yr-awyr o Repertoire yr Asiantaeth Recordio Addysgol (ERA) drwy Blatfform Gwe Hwb, rhaid cytuno i’r canlynol:

    • Rydych yn cynrychioli sefydliad addysgol perthnasol sydd â Thrwydded ERA gyfredol.

    • Rydych yn derbyn ein bod yn gweithredu fel trydydd parti enwebedig at ddibenion Cymal 2.2 Trwydded ERA eich sefydliad addysg, ac rydych yn cytuno i gydymffurfio â thelerau'r Drwydded ERA (Atodlen y Drwydded ERA).

Pwrpas Platfform Gwe Hwb

Bwriad Platfform Gwe Hwb yw rhoi cymorth addysgu a chynnig ffordd i sefydliadau addysgol Cymru gael mynediad at dechnoleg sydd ar y we drwy un porth i ysgolion.

Mae Platfform Gwe Hwb wedi'i ddylunio ar gyfer ysgolion a gynhelir a phobl sy'n byw yng Nghymru. Os byddwch yn defnyddio Platfform Gwe Hwb o'r tu allan i Gymru, efallai na fydd y cynnwys yn briodol i chi. 

Mae Platfform Gwe Hwb hefyd yn galluogi unigolion i gofrestru ar gyfer digwyddiadau rydym ni ac eraill yn eu creu a’u rheoli. Mae gwybodaeth am sut caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin i’w chael ar y wefan berthnasol ar gyfer archebu’r digwyddiad.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i Blatfform Gwe Hwb a'r Telerau hyn

Rydym yn diweddaru Platfform Gwe Hwb yn rheolaidd i wella'r cynnwys ac i adlewyrchu newidiadau i'n gwasanaethau. Gallwn hefyd ddiweddaru'r Telerau hyn o bryd i'w gilydd, felly dewch yn ôl i edrych yn rheolaidd.

Gallwn atal Platfform Gwe Hwb neu ei dynnu'n ôl

Mae Platfform Gwe Hwb ar gael am ddim. Ni allwn warantu y bydd Platfform Gwe Hwb, na’r cynnwys sydd arno, ar gael trwy’r amser ac yn ddi-dor. Gallwn atal neu gyfyngu mynediad at Blatfform Gwe Hwb, neu unrhyw ran ohono.

Mae cynnwys Platfform Gwe Hwb at ddibenion addysgol yn unig

Mae’r cynnwys sy’n cael ei ddarparu ar Blatfform Gwe Hwb at ddibenion addysgol yn unig.

Er ein bod yn gwneud ymdrechion rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar Blatfform Gwe Hwb, ni allwn warantu bod yr holl gynnwys yn gywir, yn gyflawn neu'n gyfredol.

Nid ydym yn gyfrifol am wefannau ac adnoddau eraill yr ydym yn cysylltu â nhw

Pan fo Platfform Gwe Hwb yn cynnwys neu’n ymgorffori dolenni i wefannau ac adnoddau eraill gan drydydd parti, mae’r dolenni er gwybodaeth yn unig. Nid ydym wedi adolygu’r gwefannau allanol hyn, nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo eu cynnwys, nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys, ac nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys.

Sut y gallem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd.

Hawliau Eiddo Deallusol

Mae Platfform Gwe Hwb, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) y testun, cynnwys, postiadau, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, ffotograffau, darluniau, gwaith celf, ffotograffau, enwau, logos, nodau masnach a deunydd arall (y "Cynnwys") wedi'i warchod gan hawlfraint, cronfeydd data, hawliau mewn dyluniadau, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae'r Cynnwys un ai’n eiddo i ni neu’n cael ei reoli gennym ni, neu dan drwydded i ni ac yn eiddo i drydydd parti neu'n cael ei reoli gan drydydd parti.

Mae'r holl gynnwys sy'n ffurfio Platfform Gwe Hwb yn cael ei warchod gan hawliau eiddo deallusol. Rydych yn cytuno mai ni neu’r trydydd parti perthnasol sydd berchen ar y Cynnwys ac rydych yn cydnabod nad oes gennych hawliau perchnogaeth ar y Cynnwys hwnnw.  Rydych yn cytuno i gydymffurfio â'r holl hysbysiadau neu gyfyngiadau hawlfraint ychwanegol sydd wedi’u cynnwys ym Mhlatfform Gwe Hwb.

Oni rown ganiatâd ysgrifenedig, ni chewch ddefnyddio yr un o'n nodau masnach neu enwau masnach heb ein caniatâd, ac rydych yn cydnabod nad oes gennych hawliau perchnogaeth ar yr enwau na'r marciau hynny. Rydych yn cytuno i roi hysbysiad ysgrifenedig a phrydlon i ni os byddwch yn canfod bod parti wedi defnyddio Platfform Gwe Hwb neu wedi cael mynediad ato heb awdurdod, neu os bydd honiad bod Platfform Gwe Hwb neu unrhyw ran o’i Gynnwys yn torri hawlfraint, nod masnach, neu hawliau cytundebol, statudol neu gyfraith gyffredin parti arall.

Nid ydym yn gyfrifol am firysau ac ni ddylech gyflwyno firysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd Platfform Gwe Hwb yn ddiogel rhag namau neu firysau nac yn rhydd ohonynt.

Rydych yn gyfrifol am ffurfweddu eich TG, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch platfform i gael mynediad at Blatfform Gwe Hwb. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i’ch amddiffyn rhag firysau.

Peidiwch â chyflwyno firysau i'r Platfform Gwe Hwb.

Defnydd gwaharddedig

Dim ond at ddibenion cyfreithlon y cewch ddefnyddio Platfform Gwe Hwb. Ni ddylech ddefnyddio Platfform Gwe Hwb:

  • mewn ffordd sy'n torri cyfraith neu reoliad perthnasol

  • mewn ffordd sy'n anghyfreithlon

  • at ddibenion masnachol heb ein caniatâd i wneud hynny (neu gan ein trwyddedwyr, fel y bo'n berthnasol), gan gynnwys cloddio data neu we-grafu

  • i niweidio neu geisio niweidio person (gan gynnwys plant ifanc yn enwedig) mewn unrhyw ffordd

  • i fwlio, sarhau, dychryn neu ddarostwng person

  • i drosglwyddo, anfon neu lwytho deunydd neu ddata sy'n cynnwys firysau, ceffyl pren Troeaidd, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysell, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg sydd wedi'i gynllunio i gael effaith andwyol ar weithrediad meddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol

  • i adeiladu cronfa ddata o unrhyw fath, neu i storio Platfform Gwe Hwb (yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol) o fewn cronfeydd data, er mwyn i chi neu drydydd parti gael mynediad ato, neu i ddosbarthu unrhyw wefannau cronfeydd data sy'n cynnwys Platfform Gwe Hwb yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol

  • mewn unrhyw ffordd sy'n cynnwys:

    • gamblo

    • terfysgaeth

    • camfanteisio neu gam-drin plant yn rhywiol (gan gynnwys grŵmio a deunydd cam-drin plant yn rhywiol)

    • annog neu gynorthwyo hunanladdiad (neu annog rhywun i geisio hunanladdiad) neu hunan-niweidio

    • aflonyddu, stelcio, gwneud bygythiadau neu gam-drin

    • casineb

    • ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol

    • cyffuriau neu sylweddau seicoweithredol

    • arfau tanio neu arfau eraill

    • mewnfudo anghyfreithlon neu fasnachu mewn pobl

    • camfanteisio'n rhywiol ar oedolion

    • pornograffi

    • cam-drin delweddau personol

    • enillion troseddol

    • twyll a gwasanaethau ariannol

    • troseddau ymyrraeth dramor

Rydych hefyd yn cytuno i’r canlynol:

  • i beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu rhan o Blatfform Gwe Hwb yn groes i ddarpariaethau'r Telerau hyn

  • i beidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd, difrodi neu darfu ar:

    • unrhyw ran o Blatfform Gwe Hwb

    • unrhyw offer neu rwydwaith y mae Platfform Gwe Hwb wedi'i storio arno

    • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu Platfform Gwe Hwb

    • unrhyw offer neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo i drydydd parti neu a ddefnyddir gan drydydd parti

Trwy dorri darpariaethau'r adran hon, efallai y byddwch yn cyflawni troseddau o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn hysbysu’r awdurdodau perthnasol sy’n gorfodi'r gyfraith am doriad o'r fath a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych chi. Os bydd tor rheol o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio Platfform Gwe Hwb yn dod i ben ar unwaith.

Diogelu ac amddiffyn dysgwyr

Peidiwch â defnyddio Platfform Gwe Hwb mewn ffordd a allai arwain at niweidio dysgwyr, plant neu bobl ifanc. Os clywn am gynnwys, cyfathrebiadau neu weithgaredd sy'n codi pryderon diogelu, efallai y byddwn yn hysbysu’r ysgol, yr awdurdod lleol, y corff diogelu neu'r asiantaeth gorfodi'r gyfraith berthnasol am hyn pan fo hynny'n briodol.

Sut y cewch ddefnyddio’r deunydd ar Blatfform Gwe Hwb

Mae mynediad at Blatfform Gwe Hwb yn cael ei ddarparu dros dro, ac rydych yn cydnabod nad ydych yn cael unrhyw hawliau na thrwyddedau sy’n ymwneud â Phlatfform Gwe Hwb a/neu'r cynnwys, ac eithrio'r hawl gyfyngedig i ddefnyddio'r wefan yn unol â'r polisi hwn (neu'r Telerau Defnyddio) ac i lawrlwytho yn ôl telerau’r adran hon.

Gallwch lawrlwytho tudalennau oddi ar Blatfform Gwe Hwb ar yr amod:

  • mai dim ond at ddibenion addysgol y byddwch yn lawrlwytho a/neu argraffu copïau o Blatfform Gwe Hwb neu ei Gynnwys, ac mai dim ond mewn perthynas â sefydliadau addysgol yng Nghymru y defnyddir deunydd sydd wedi’i lawrlwytho neu gopïau printiedig ohonynt (ac nad yw cynnwys o'r fath yn cael ei ddefnyddio at ddefnydd masnachol)

  • bod yr hysbysiad hawlfraint neu nod masnach yn cael ei gadw ar bob copi sy’n cael ei lawrlwytho a/neu argraffu a’ch bod yn parhau i fod yn ddarostyngedig i delerau’r geiriad a’r hysbysiadau o'r fath

  • nad ydych yn addasu'r copïau papur neu ddigidol o ddeunyddiau rydych wedi'u hargraffu neu wedi'u lawrlwytho, ac nad ydych yn defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, fideo, sain na graffeg ar wahân i’w destun cysylltiedig a

  • bod ein statws ni (neu unrhyw gyfrannwr a nodwyd) fel awduron y cynnwys ar Blatfform Gwe Hwb yn cael ei gydnabod

Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho rhan o Blatfform Gwe Hwb yn groes i'r Telerau hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio Platfform Gwe Hwb yn dod i ben ar unwaith a bydd yn rhaid i chi, yn ôl ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio pob copi o'r deunyddiau rydych wedi'u gwneud.

Rheolau ynglŷn â rhoi dolen i Blatfform Gwe Hwb

Gallwch ddefnyddio dolenni i'n tudalen gartref, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.  Rydym yn cadw'r hawl i ddileu’r caniatâd i osod dolen heb rybudd.

Fodd bynnag, rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol o dan unrhyw amgylchiadau:

  • gosod dolen mewn ffordd sy'n awgrymu cyswllt masnachol â ni neu gymeradwyaeth gennym pan nad yw’r fath beth yn bodoli

  • fframio Platfform Gwe Hwb o fewn gwefan arall, ac ni chewch greu dolen i ran o Blatfform Gwe Hwb ac eithrio'r dudalen gartref

Os hoffech gysylltu â chynnwys ar blatfform Hwb neu ei ddefnyddio y tu hwnt i’r hyn a ganiateir uchod, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net.

Ceisiadau i ddileu cynnwys

Gallwch ofyn i gynnwys gael ei ddileu oddi ar Blatfform Gwe Hwb. Efallai y byddwn yn dileu cynnwys yn ôl ein disgresiwn.

Os hoffech ofyn am ddileu'r cynnwys, cysylltwch â cymorth@hwbcymru.net. Dylech gynnwys cyfeiriad (URL) y cynnwys yn ogystal ag eglurhad o’ch rheswm dros geisio ei ddileu. Cewch ateb i ddweud a fyddwn ni'n ei ddileu ai peidio.

Hygyrchedd y Wefan

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiynau 2.1 a 2.2 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad hygyrchedd.

Os oes gennych sylwadau am hygyrchedd Platfform Gwe Hwb, helpwch ni i’w wella drwy e-bostio eich awgrymiadau i cymorth@hwbcymru.net

Fersiynau Cymraeg a Saesneg

Mae’r Telerau hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Dylid trin y ddwy fersiwn iaith yn gyson a chyda’r un parch. Os oes anghysondeb rhwng y fersiynau iaith, cysylltwch â ni er mwyn i ni egluro'r sefyllfa.

Dibyniaeth ar wybodaeth

Mae’r cynnwys ar Blatfform Gwe Hwb wedi’i ddarparu 'fel y mae' at ddefnydd addysgol a gwybodaeth gyffredinol yn unig. Oni fydd y cynnwys yn ganllawiau statudol neu bolisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, nid ddylech ddibynnu ar y cyngor a roddir yma. Er ein bod yn ceisio sicrhau bod cynnwys yn gywir ac yn gyfredol, nid ydym yn cyflwyno achos, gwarant na sicrwydd (boed benodol neu ymhlyg) bod y cynnwys yn gyfredol, yn gywir, yn gyflawn neu'n addas at unrhyw ddiben.

Nid ydym yn cyflwyno achos na gwarant o unrhyw fath, boed benodol neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, o addasrwydd at bwrpas penodol, o beidio â thorri rheolau, o gydnawsedd, o ddiogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau o fewn deunydd Platfform Gwe Hwb ar gael yn ddi-dor a heb wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu nad yw’r wefan hon neu'r gweinydd sy'n ei chynnal yn cynnwys firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ein cyfrifoldeb os byddwch yn dioddef colled neu ddifrod

Ni fyddwn yn cyfyngu ar ein cyfrifoldebau cyfreithiol os yw’r gyfraith yn ein hatal rhag gwneud hynny.

Os byddwch yn dioddef niwed, colled neu ddifrod oherwydd Platfform Gwe Hwb neu'r Cynnwys, ni fyddwn yn atebol (yn gyfrifol) mewn unrhyw ffordd. Ni fydd yr un ysgol nac awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol chwaith. Yn ddarostyngedig i'r paragraff uchod, nid ydym yn gyfrifol am golled neu ddifrod sy'n deillio o'ch defnydd o Blatfform Gwe Hwb neu'r Cynnwys neu’ch dibyniaeth arno, ac eithrio lle na ellir eithrio cyfrifoldeb o'r fath yn gyfreithlon. Ni fydd yr un ysgol nac awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am eich defnydd o Blatfform Gwe Hwb neu'r Cynnwys oni fyddant wedi cytuno gyda chi ar wahân.

Os nad ydych yn hapus â Phlatfform Gwe Hwb, y Telerau hyn, neu unrhyw ran o’r Cynnwys, rhaid i chi roi'r gorau i ddefnyddio Platfform Gwe Hwb. Dyma'r unig ddatrysiad cyfreithiol sydd ar gael i chi. Os nad ydych yn hapus â Phlatfform Gwe Hwb, y Telerau hyn, neu unrhyw ran o’r Cynnwys, dylech roi'r gorau i ddefnyddio Platfform Gwe Hwb a gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawliau a allai fod gennych o dan y gyfraith berthnasol.

Sylwch mai dim ond at ddibenion addysgol yr ydym yn darparu Platfform Gwe Hwb. Peidiwch â defnyddio Platfform Gwe Hwb at ddibenion masnachol neu fusnes, ac, os gwnewch hynny, ni fyddwn yn atebol am golli elw, colli busnes, tarfu ar fusnes, na cholli cyfle busnes.

Torri'r Telerau hyn

Pan fyddwn o'r farn bod y Telerau hyn wedi’u torri neu fod angen gweithredu am resymau diogelu, diogelwch, cyfreithiol, gweithredol neu bolisi, mae modd i ni gymryd camau a ystyriwn yn briodol. Gallai hyn arwain at atal neu ddiddymu mynediad at Blatfform Gwe Hwb (naill ai dros dro neu'n barhaol).

Pan fo tor amod yn cynnwys mater diogelu, diogelwch, ymddygiad anghyfreithlon, mynediad anawdurdodedig, cynnwys niweidiol neu risg i ddefnyddwyr, gellir cymryd camau brys heb rybudd ymlaen llaw.

Gall Llywodraeth Cymru gydweithredu ag ysgolion, awdurdodau lleol, sefydliadau, darparwyr gwasanaethau, rheoleiddwyr ac awdurdodau gorfodi'r gyfraith mewn perthynas â thor amod gwirioneddol neu os bydd amheuaeth o dor amod.

Rydym yn eithrio ein hatebolrwydd am bob cam y gallwn ddewis eu cymryd mewn ymateb i dorri'r Telerau hyn. Nid yw'r camau y gallwn eu cymryd wedi'u cyfyngu i'r rhai a ddisgrifir uchod, ac efallai y byddwn yn cymryd camau eraill os byddwn yn ystyried eu bod yn briodol.

Cyfreithiau pa wlad sy’n berthnasol i anghydfodau?

Caiff y Telerau Defnydd, eu cynnwys a'u ffurf, eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr fel y'u cymhwysir yng Nghymru.

Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr yng Nghymru awdurdodaeth unigryw i setlo anghydfodau neu hawliadau sy'n deillio o'r Telerau hyn neu sy’n gysylltiedig â hwy.

Cyhoeddwyd gyntaf 27 Ebrill 2026

Diweddarwyd ddiwethaf 27 Hydref 2026