Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Cynulleidfa

Mae Digidol mewn ysgolion yn amlinellu ymrwymiad a rennir gan Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) a Llywodraeth Cymru i rymuso dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn drwy gwricwlwm cadarn ac ysgogol, addysgeg eithriadol a phŵer trawsnewidiol arloesedd digidol.

Fe'i bwriedir ar gyfer awdurdodau lleol a phartneriaid ym maes ehangach gwella ysgolion. Bydd hefyd yn rhoi dealltwriaeth ehangach i arweinwyr ysgolion, athrawon ac ymarferwyr eraill mewn ysgolion a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion (PRUs) a lleoliadau addysg heblaw mewn ysgol (EOTAS).

Ein gweledigaeth

Cyflwyno dull cenedlaethol o ymdrin â’r byd digidol mewn addysg sy'n galluogi ysgolion i fanteisio ar gyfleoedd technolegau digidol a thechnolegau datblygol, gan baratoi dysgwyr i ffynnu mewn cymdeithas ddigidol fyd-eang.

Ein huchelgais a rennir

Rydym am i bob dysgwr yng Nghymru elwa o'r cyfleoedd y mae technoleg ddigidol yn eu cynnig. Trwy fynediad teg at offer, gwasanaethau ac adnoddau digidol dwyieithog o ansawdd uchel, bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy'n dod yn fwyfwy digidol ac i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ddigidol ddwyieithog.

Byddwn yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio technoleg yn hyderus, yn ddiogel ac yn bwrpasol i wella addysgu a dysgu a helpu i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Ein huchelgais yw creu system addysg lle mae technoleg ddigidol yn cryfhau addysgu a dysgu, yn cefnogi cyfranogiad, ac yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a'r profiadau digidol y mae dysgwyr eu hangen i lwyddo mewn addysg bellach ac uwch, gyrfaoedd yn y dyfodol a bywyd mewn byd sy'n newid yn gyflym, gan gynnwys drwy ddefnyddio technoleg yn hyderus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Sylfeini ac egwyddorion

Mae ein hymagwedd at y byd digidol mewn ysgolion yn seiliedig ar ymrwymiad i degwch, cynhwysiant a chynnydd dysgwyr.

Dylai pob dysgwr allu elwa ar dechnoleg ddigidol, waeth beth fo'u cefndir, eu lleoliad daearyddol na'u hamgylchiadau. Gall technoleg ddigidol chwarae rhan bwysig wrth greu amgylcheddau dysgu cynhwysol a hygyrch, gan helpu i leihau rhwystrau i gyfranogi a chefnogi mynediad teg i addysg. Mae hyn yn cynnwys diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), a galluogi mwy o hygyrchedd, cyfathrebu ac annibyniaeth fel y gall pob dysgwr gymryd rhan lawn mewn addysg a gwireddu eu potensial.

Dylai technoleg hefyd gefnogi dysgwyr i gael mynediad at addysg trwy'r Gymraeg neu'r Saesneg, gan roi cyfleoedd teg i ddysgu, i gyfathrebu ac i lwyddo. Dylai dysgwyr allu elwa o brofiadau digidol dwyieithog o ansawdd uchel sy'n cefnogi datblygiad a defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg mewn dysgu a bywyd bob dydd. Dylai technoleg ddigidol hefyd gefnogi twf a defnydd parhaus o'r Gymraeg, gan helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymdeithas ddigidol ddwyieithog a chymryd rhan ynddi’n hyderus.

Dylai digidol wella, yn hytrach na disodli, addysgu, dysgu a pherthnasoedd dynol effeithiol. Mae technoleg yn fwyaf effeithiol pan fydd yn cefnogi addysgeg o ansawdd uchel, yn galluogi cydweithredu ac yn gwella mynediad at ddysgu. Dylai penderfyniadau ynghylch gweithredu a defnyddio technoleg fod yn seiliedig ar dystiolaeth, arbenigedd proffesiynol a gwerth addysgol, gan sicrhau bod arloesedd yn ymateb i anghenion addysgol gwirioneddol ac yn gwella canlyniadau i ddysgwyr.

Byddwn yn hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol a moesegol o dechnolegau digidol. Rhaid i ddiogelu, preifatrwydd, diogelwch a lles barhau i fod yn greiddiol i’n gwaith. Rydym eisiau i ddysgwyr ac ymarferwyr ddod yn ddinasyddion digidol hyderus a gwydn sy'n gallu defnyddio technoleg yn feirniadol, yn deall ei chyfleoedd a'i heriau, a'i defnyddio'n ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol. Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, dylid cefnogi ysgolion i ddeall ac ymateb i gyfleoedd a risgiau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial.

Bydd cydweithredu yn hanfodol i'n llwyddiant cyfunol. Mae cynnydd yn dibynnu ar bartneriaethau cryf ar draws ysgolion, awdurdodau lleol, partneriaid cenedlaethol, y byd academaidd a diwydiant. Trwy ddull cenedlaethol cyffredin, byddwn yn creu'r amodau sy'n galluogi ysgolion i elwa o dechnoleg ddigidol tra'n cadw'r hyblygrwydd i ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.

Ymgorffori digidol ar draws y cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi dysgwyr wrth wraidd dysgu ac yn rhoi'r hyblygrwydd i ysgolion ddylunio cwricwlwm sy'n adlewyrchu eu cyd-destunau lleol ac anghenion eu dysgwyr. Wrth i dechnoleg barhau i lunio cymdeithas, addysg a chyflogaeth, dylid ystyried digidol yn rhan annatod o gynllunio, addysgu, dysgu ac asesu’r cwricwlwm. Dylid cefnogi ysgolion i ymateb yn hyderus i dechnolegau sy'n newid a thechnoleg datblygol fel bod dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.

Mae cymhwysedd digidol yn mynd yn fwyfwy hanfodol i gyfranogiad mewn dysgu, cyflogaeth a chymdeithas. Ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, mae'n galluogi dysgwyr i:

  • gael mynediad at wybodaeth

  • cyfathrebu'n effeithiol

  • cydweithio ag eraill

  • ymdrin â gwybodaeth a data yn feirniadol

  • defnyddio technoleg yn greadigol

  • cymryd rhan yn hyderus mewn byd sy'n dod yn fwyfwy digidol a dwyieithog

Dylai dysgwyr gael cyfleoedd rheolaidd i ddatblygu a defnyddio cymhwysedd digidol trwy brofiadau ystyrlon a dilys ar draws y cwricwlwm, gyda chefnogaeth y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ac yn seiliedig ar bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

Bydd angen i ddysgwyr ddeall fwy am:

  • ddiogelwch ar-lein

  • seiberddiogelwch a seiberwydnwch

  • camwybodaeth, diffyg gwybodaeth a manipiwleiddio ar-lein

  • dibynadwyedd, rhagfarn a hygrededd

  • lles digidol

  • diogelwch a phreifatrwydd data

  • dylanwad technolegau datblygol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), ar sut mae gwybodaeth yn cael ei chreu, ei rhannu a'i defnyddio

Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae cymhwysedd digidol yn cynnwys y gallu i ymdrin yn feirniadol â gwybodaeth, data a thechnolegau datblygol fwyfwy. Mae'r sgiliau hyn hefyd yn hanfodol wrth gefnogi dilyniant dysgwyr drwy eu haddysg a'u paratoi ar gyfer addysg bellach ac uwch, gyrfaoedd yn y dyfodol a dysgu gydol oes, gan gynnwys mewn economi ddigidol lle mae sgiliau yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cefnogi cyfleoedd yn y dyfodol.

Gall technoleg ddigidol chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd a chyflawniad dysgwyr. Gall technolegau cynorthwyol, offer hygyrchedd ac atebion digidol eraill helpu i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a galluogi dulliau mwy personol sy'n ymateb i anghenion unigol. Ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gall technoleg ddigidol ddarparu cymorth wedi'i dargedu sy'n helpu ysgolion i ymateb i ystod ehangach o anghenion dysgu ac yn galluogi dysgwyr i gael mynediad at eu dysgu, ymgysylltu â’u dysgu a dangos eu dysgu ar draws y cwricwlwm.

Gall technoleg ddigidol gyfoethogi addysgu a dysgu trwy gynyddu ymgysylltiad, cryfhau cydweithredu, gwella hygyrchedd a chefnogi dulliau mwy personol o ddysgu. Mae gan dechnolegau datblygol, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a thechnolegau trochi, y potensial i ymestyn y manteision hyn ac i greu cyfleoedd newydd i ddysgwyr ac ymarferwyr. Fodd bynnag, dylai eu mabwysiadu bob amser gael ei arwain gan bwrpas addysgol clir, gan sicrhau bod technoleg yn gwella addysgu a dysgu ac yn ymateb i anghenion addysgol gwirioneddol. Dylai technoleg barhau i fod yn offeryn sy'n cefnogi addysgu a dysgu rhagorol, nid yn nod ynddo'i hun.

Dylai ein dull helpu dysgwyr i ddatblygu'r hyder, y gwydnwch a’r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen i lywio'r heriau hyn yn ddiogel, yn gyfrifol ac yn foesegol. Rydym eisiau i ddysgwyr nid yn unig ymateb i newid technolegol, ond hefyd ei lunio'n hyderus ac yn gyfrifol fel crewyr, arloeswyr a datryswyr problemau.

Datblygu arweinwyr a gweithlu sy’n fedrus, yn hyderus ac yn wydn yn y maes digidol

Mae system addysg sy'n hyderus yn ddigidol yn dibynnu ar arweinyddiaeth gref a gweithlu sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i ddefnyddio technoleg yn effeithiol.

Dylid cydnabod arweinyddiaeth ddigidol fel cyfrifoldeb a rennir ar draws cymuned yr ysgol, gan helpu i greu diwylliannau lle mae technoleg yn cefnogi canlyniadau dysgwyr, effeithiolrwydd ymarferwyr a gwelliant mewn ysgolion. Bydd arweinyddiaeth effeithiol yn sicrhau bod penderfyniadau am dechnoleg yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol ac yn cael eu llywio gan dystiolaeth ac angen.

Wrth i dechnoleg barhau i esblygu, mae angen cyfleoedd parhaus ar ymarferwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u harbenigedd. Dylai dysgu proffesiynol gefnogi ymarferwyr i integreiddio technolegau digidol yn effeithiol i addysgu, dysgu ac asesu tra'n eu helpu i ddeall datblygiadau sy'n dod i'r amlwg a'u goblygiadau i addysg. Mae hyn yn cynnwys datblygu hyder mewn addysgeg ddigidol, cymhwysedd digidol, deallusrwydd artiffisial, llythrennedd data a defnydd moesegol o dechnoleg.

Bydd mynediad at ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel sydd ar gael yn genedlaethol yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn galluogi'r gweithlu i ymateb yn hyderus i gyfleoedd a heriau yn y dyfodol.

Ni ddylai technoleg fod o fudd i ddysgwyr yn unig. Gall hefyd helpu ymarferwyr i weithio'n fwy effeithiol trwy leihau baich gweinyddol, gwella mynediad at wybodaeth, cefnogi cydweithredu a symleiddio prosesau arferol. Ar adeg pan mae ysgolion yn parhau i wynebu pwysau sylweddol, dylid defnyddio technoleg yn feddylgar i greu mwy o amser a gallu ar gyfer addysgu, cefnogi dysgwyr a pherthnasoedd proffesiynol. Bydd gwireddu'r manteision hyn yn gofyn am gefnogaeth barhaus, ymddiriedaeth broffesiynol a buddsoddiad yng ngallu’r gweithlu.

Bydd cynnal cynnydd yn gofyn am ddiwylliant o ddysgu a gwella parhaus, wedi'i gefnogi trwy gydweithio, dysgu proffesiynol, arbenigedd a rennir ac ymwneud ag ymchwil a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg. Bydd hyn yn helpu ymarferwyr ac arweinwyr i barhau i fod yn hyderus, yn hyblyg ac yn ymatebol i ddatblygiadau yn y dyfodol.

Darparu technoleg addysg arloesol, gwydn a chynaliadwy

Drwy ecosystem genedlaethol Hwb, mae Cymru wedi sefydlu sylfeini cadarn ar gyfer addysg ddigidol. Mae ecosystem Hwb yn darparu cynnig addysg ddigidol gydlynol a chysylltiedig trwy ystod o wasanaethau rhyng-gysylltiedig, gan gynnwys platfform gwe Hwb, offer a gwasanaethau digidol sy'n seiliedig ar y cwmwl, cysylltedd, seilwaith a dyfeisiau. Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn rhoi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr i'r gwasanaethau a'r technolegau digidol sy'n cefnogi addysgu, dysgu a gwella ysgolion.

Mae technoleg ddibynadwy, sicr a chynaliadwy yn darparu’r sylfaen i ddysgwyr ac ymarferwyr elwa ar addysgu digidol, dysgu a gwella ysgolion. Mae mynediad teg at seilwaith, cysylltedd, dyfeisiau, offer, gwasanaethau ac adnoddau o ansawdd uchel yn hanfodol os yw ysgolion am wireddu manteision llawn technoleg. Drwy fuddsoddiad parhaus a datblygu ecosystem Hwb ymhellach, byddwn yn parhau i ddarparu cynnig cenedlaethol cyson gan gefnogi ysgolion ar yr un pryd i ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.

Bydd cynnal a datblygu'r sylfeini hyn yn parhau i fod yn hanfodol wrth i dechnoleg barhau i esblygu. Mae angen seilwaith gwydn, cysylltedd dibynadwy, mesurau diogelu effeithiol, trefniadau seiberddiogelwch cadarn a mynediad at amgylcheddau digidol dibynadwy. Gall safonau cenedlaethol, dulliau a rennir a buddsoddiad cynaliadwy leihau cymhlethdod diangen, gwella cysondeb a helpu i sicrhau bod ysgolion yn parhau i elwa o ddarpariaeth ddigidol ddiogel, ddibynadwy a gwydn. Ar yr un pryd, dylai ysgolion gadw hyblygrwydd i ymateb i anghenion a blaenoriaethau lleol.

Dylai’r ddarpariaeth dechnoleg ymestyn y tu hwnt i seilwaith yn unig. Dylai mynediad at offer ac adnoddau digidol dwyieithog barhau i gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm, cynnydd dysgwyr a chynhwysiant. Mae gan dechnolegau digidol rôl bwysig wrth wella hygyrchedd, galluogi dulliau mwy personol o ddysgu a helpu i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), lle gall technoleg ddarparu cymorth wedi'i deilwra, gwella cyfathrebu, hyrwyddo annibyniaeth a helpu i sicrhau mynediad teg at gyfleoedd dysgu.

Trwy gael mynediad at offer a gwasanaethau digidol priodol, gallwn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar y cyfleoedd y mae technoleg yn eu cynnig a'u bod yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.

Wrth i dechnolegau newydd ddatblygu, dylai penderfyniadau barhau i gael eu llywio gan dystiolaeth, ymchwil ac arferion sy'n dod i'r amlwg. Bydd cydweithio ar draws y sector addysg yn helpu i sicrhau bod arloesedd yn cael ei gydbwyso â gwerth addysgol, diogelwch, preifatrwydd a moeseg. Trwy gynnal y cydbwysedd hwnnw, gallwn greu ecosystem ddigidol sy'n cefnogi arloesedd tra'n cadw ymddiriedaeth a hyder dysgwyr, ymarferwyr a chymunedau.


Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026