Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae’r safonau digidol addysg yn darparu fframwaith clir sy’n seiliedig ar egwyddorion i helpu ysgolion i ddeall, rheoli a gwella eu hamgylchedd digidol.

Mae’r safonau’n cefnogi ysgolion i wneud penderfyniadau cynaliadwy ar sail gwybodaeth am eu seilwaith, eu systemau a’u gwasanaethau digidol. Gall ysgolion ddefnyddio’r safonau yn annibynnol neu gyda chefnogaeth gan eu partner cymorth technoleg addysg.

Mae’r safonau’n:

  • rhoi amlinelliad o’r egwyddorion craidd

  • esbonio pwrpas pob maes

  • gosod y gofynion sylfaenol

  • cynnig arweiniad o ran cynaliadwyedd hirdymor a chwricwlwm sy’n dod yn fwyfwy digidol

Fel rhan o’r dull cenedlaethol “unwaith i Gymru”, mae’r safonau’n helpu i ddarparu profiad digidol cyson, diogel ac y gellir ei ehangu ar draws pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Maent yn gosod llinell sylfaen genedlaethol ar gyfer ysgolion, gan eu helpu i nodi meysydd i’w gwella y gellir gweithio tuag atynt dros amser, gan gydnabod gwahaniaethau o ran adnoddau a chymorth. Hepgorwyd manylion technegol yn fwriadol, ac mae cyngor arbenigol yn cael ei ddarparu gan dimau awdurdodau lleol a phartneriaid cymorth technoleg addysg. Rhaid cynllunio, caffael a gosod yr holl seilwaith digidol yn broffesiynol.