Nod yr adran hon o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith) yw helpu ysgolion a lleoliadau, yn ogystal ag eraill ym maes addysg sydd â diddordeb, i feithrin dealltwriaeth well o'r gyfraith mewn perthynas â’r Chwricwlwm i Gymru a'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw.
Yn ogystal â nodi sail gyfreithiol y canllawiau, mae'r adran hon hefyd yn rhoi gwybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol a chanllawiau statudol y mae'n rhaid i ysgolion neu leoliadau eu hystyried. Mae hefyd yn nodi ystyr y termau hyn. Er ei fod yn esbonio gwahanol ofynion cyfreithiol, mae adran hon y canllawiau hun yn anstatudol.
Wrth gyflwyno'r wybodaeth hon, mae'r adran hon o'r canllawiau hefyd yn ymwneud â nifer o agweddau penodol ar y cwricwlwm a'r canllawiau asesu yn y fframwaith ac yn cysylltu â nhw.
Os oes gofyniad ar ysgolion neu leoliadau i ystyried y canllawiau, esbonnir hyn hefyd yn adran berthnasol y canllawiau.
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith, a gofynion ehangach.
Mae adran 79 y Ddeddf yn diffinio ystyr ysgolion o'r fath, sef:
ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru
ysgol arbennig gymunedol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlwyd mewn ysbyty
ysgol feithrin a gynhelir nad yw'n ysgol arbennig
Gall crynodebau o’r cwricwlwm gefnogi ysgolion a lleoliadau i ymgysylltu a chyfathrebu â rhieni, gofalwyr a'u cymunedau ehangach. Dylai'r crynodebau cyhoeddedig gynnwys:
gwybodaeth am sut mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach yn cael eu cynnwys i lywio datblygiad parhaus y cwricwlwm
sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y Fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
gwybodaeth am sut mae'r lleoliad yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i drefniadau ar gyfer asesu
sut mae’r cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth gan rieni a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus
Dylid cyhoeddi crynodebau o’r cwricwlwm cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.
Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i benaethiaid a chyrff llywodraethu ddatgymhwyso dewis dysgwyr mewn rhai amgylchiadau.
Mae'n ofynnol i benaethiaid roi'r cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu ar waith mewn ffordd sy'n galluogi dysgwyr i arfer eu dewisiadau ar gyfer Blynyddoedd 10 a 11. Fodd bynnag, gallan nhw benderfynu peidio â chymhwyso'r dysgu a'r addysgu a ddewiswyd gan ddysgwr. Mae'r Ddeddf yn pennu'r seiliau lle y gall hyn fod yn gymwys yn achos penderfyniadau a wnaed cyn i ddysgwr ddechrau ym Mlwyddyn 10, a phenderfyniadau a wnaed ar ôl i ddysgwr ddechrau ym Mlwyddyn 10. Bydd hyn yn disodli'r cwricwlwm lleol yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (a gyflwynwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009). Felly, ni fydd y gofyniad lleol yn y cwricwlwm lleol i awdurdodau lleol gynnig o leiaf 25 o gyrsiau ar lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, y dylai o leiaf dri ohonyn nhw fod yn gyrsiau galwedigaethol, yn gymwys i'r garfan hon mwyach.
O ran dysgwyr nad ydyn nhw wedi dechrau ym Mlwyddyn 10 eto, gellir penderfynu datgymhwyso dewis dysgwr yn yr amgylchiadau canlynol:
nid yw'r dysgu na'r addysgu yn addas i'r dysgwr oherwydd lefel ei gyrhaeddiad addysgol
nid yw'n rhesymol ymarferol sicrhau dysgu ac addysgu ar gyfer y dysgwr oherwydd ei ddewisiadau dysgu eraill
byddai'r amser y byddai'r dysgwr yn ei dreulio'n teithio i'r man lle y byddai'r addysgu'n debygol o ddigwydd yn cael effaith andwyol ar addysg y dysgwr
byddai sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn arwain at wariant anghymesur
byddai sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn peri risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y dysgwr neu berson arall
O ran dysgwyr sydd wedi dechrau ym Mlwyddyn 10 neu’n hwyrach, mae'r seiliau a nodir isod yn fwy cyfyngedig. Y rheswm dros hyn yw y bydd yr effaith ar y dysgwr yn fwy pan fydd eisoes wedi dechrau ar y llwybr dysgu ac addysgu a ddewiswyd ganddo. Mewn amgylchiadau o'r fath, dim ond yn yr achosion canlynol y gellir penderfynu datgymhwyso dewis dysgwr:
byddai parhau i sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn arwain at wariant anghymesur
byddai parhau i sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn peri risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y dysgwr neu berson arall
Os penderfynir datgymhwyso dewis dysgwr, rhaid i'r pennaeth sicrhau dysgu ac addysgu o hyd ar gyfer y dysgwr ym mhob un o'r meysydd yn ogystal â'r elfennau mandadol. Fodd bynnag, ni fydd angen cynnig dewis arall i'r dysgwr o ran ei ddysgu a'i addysgu.
Nid oes unrhyw ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r dysgwr am ganlyniad adolygiad nac apêl os bydd y pennaeth o'r farn nad oes ganddo'r gallu i ddeall yr wybodaeth a fyddai'n cael ei rhoi, neu (yn achos canlyniad adolygiad) yr hyn y byddai'n ei olygu i arfer yr hawl i apelio.
Mae'r rhain yn faterion y dylai ysgolion eu hystyried wrth roi eu cwricwlwm ar waith o ddydd i ddydd.
Mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso eithriadau at ofynion y cwricwlwm i ddysgwyr ag ADY. Gall awdurdodau lleol ddatgymhwyso neu addasu'r gofynion o ran rhoi'r cwricwlwm ar waith ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â chynlluniau datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol o dan y Ddeddf Plant a Theuluoedd yn achos plant sy'n byw yn Lloegr. Dylid amlinellu'r broses o ddatgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm yng nghynllun datblygu unigol y dysgwr, neu yn achos dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac yn cael eu haddysgu yng Nghymru, yn eu cynlluniau addysg, iechyd a gofal.
Ceir pwer ar wahân ac ychwanegol yn adran 42 y Ddeddf i benaethiaid wneud eithriadau dros dro er mwyn datgymhwyso, neu gymhwyso gydag addasiadau, bob un neu rai o ofynion y cwricwlwm yn y Ddeddf. Ceir y ddarpariaeth honno yn Rheoliadau Addysg (Eithriadau Dros Dro ar gyfer Disgyblion a Phlant Unigol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Eithriadau Dros Dro”).
Parhad yw hyn o ddarpariaethau presennol eithaf tebyg ar ganiatáu eithriadau dros dro o ofynion y cwricwlwm pan fo'r amgylchiadau yn gofyn am hynny, er enghraifft os bydd dysgwr yn cael ei drin ar gyfer salwch acíwt ac na ellir yn rhesymol ddisgwyl iddo fodloni gofynion cwricwlwm yr ysgol. O dan amgylchiadau o'r fath, mae'n hanfodol bod gan benaethiaid yr hawl i eithrio dysgwyr dros dro o’r cwricwlwm cyfan neu ran ohono heb orfod defnyddio proses ragnodol na beichus. Byddai'r dysgwr yn parhau i fod yn ddysgwr yn yr ysgol ond byddai wedi'i eithrio o ofynion y cwricwlwm am gyfnod penodol.
Mae darpariaethau yn y Ddeddf a'r Rheoliadau Eithriadau Dros Dro yn darparu mesurau diogelu er mwyn sicrhau y gall dysgwyr a rhieni a gofalwyr gymryd rhan yn y broses a'i bod yn ofynnol i gyrff llywodraethau gytuno ar unrhyw barhad i gyfnod yr eithriadau.
O dan y Rheoliadau Eithriadau Dros Dro, caiff dysgwyr a rhieni a gofalwyr ofyn i bennaeth wneud penderfyniad, neu amrywio neu ddirymu penderfyniad ac mae'n ofynnol i'r pennaeth ymateb i gais o'r fath o fewn pythefnos.
Gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i ysgolion (o dan adran 38 y Ddeddf) i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwaith datblygu ac arbrofion. Gall cyfarwyddyd o'r fath addasu neu ddatgymhwyso dyletswyddau i roi'r cwricwlwm ar waith am gyfnod penodol a bennir yn y cyfarwyddyd, fel y gellir gwneud y gwaith datblygu neu'r arbrawf. Felly, gellid defnyddio cyfarwyddyd i alluogi ysgolion i gymryd rhan mewn rhaglen beilot ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm. Ceir amodau penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o'r fath, sy'n sicrhau bod y dysgwyr y mae'r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt yn parhau i gael budd o gwricwlwm addas.
Mae Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Lleoliadau Lluosog”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi ac adolygu cynlluniau mewn perthynas â'r dysgu a'r addysgu sydd i'w darparu ar gyfer dysgwyr unigol sy'n dilyn Cwricwlwm i Gymru ac sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg. Er enghraifft, gall dysgwr fod wedi'i gofrestru ar yr un pryd mewn ysgol a gynhelir ac mewn uned cyfeirio disgyblion neu ysgol a gynhelir arall.
Mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol priodol baratoi cynllun yn nodi sut y bydd yn sicrhau'r canlynol:
y dysgu a'r addysgu sydd i'w darparu ar gyfer y dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau asesu a fydd yn gymwys i'r dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau ar gyfer hysbysu rhieni a gofalwyr am gynnydd y dysgwr
Pan mae dysgwr yn blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn.
Pan nad yw dysgwr yn blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
Diben y darpariaethau hyn yw sicrhau bod dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad yn cael y cwricwlwm llawn, priodol iddynt. Mae'r manteision yn cynnwys galluogi dysgwyr addysg heblaw yn yr ysgol i drosglwyddo'n haws yn ôl i addysg brif ffrwd, pan fo'n hynny'n briodol i'w hanghenion, a lleihau'r amwysedd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddarparu dysgu ac addysgu pan fo dysgwr wedi'i gofrestru mewn mwy nag un darparwr.
Rhaid i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol sicrhau bod cwricwla ysgolion a gynhelir ar gyfer addysg ôl-orfodol yn:
eang ac yn gytbwys
hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol dysgwyr a chymdeithas
paratoi dysgwyr ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau yn ddiweddarach yn eu bywydau
Rhaid i bennaeth sicrhau bod darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gael i'r dysgwyr hynny mewn addysg ôl-orfodol sy'n ei dymuno. Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i gorff llywodraethu sicrhau y caiff y ddarpariaeth hon ei darparu ar gais.
Yn yr un modd, rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu sicrhau bod darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gael i'r dysgwyr hynny mewn addysg ôl-orfodol sy'n ei dymuno. Rhaid i ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg o'r fath adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd y prif grefyddau eraill (heblaw am Gristnogaeth) yng Nghymru. Rhaid i'r dysgu a'r addysgu hefyd adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol (megis anffyddiaeth).
Nid yw'r darpariaethau crefydd, gwerthoedd a moeseg yn atal ysgol rhag ei gwneud yn ofynnol i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth fynychu dosbarthiadau crefydd, gwerthoedd a moeseg. Nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n gwneud hyn rhag darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg orfodol i'w dysgwyr chweched dosbarth sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol; mater i'r ysgol yw pennu cynnwys darpariaeth o'r fath o hyd.
Daw'r gofynion hyn i rym o fis Medi 2027.
Lle y bo'n berthnasol, mae'n ofynnol i ysgolion a gynhelir hefyd ystyried gofynion cwricwla lleol sy'n bodoli eisoes mewn perthynas â dysgwyr rhwng 16 a 18 oed a nodir yn adrannau 33A i 33O o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (nid yw'r Ddeddf yn newid y gofynion hyn).
O ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth y bu'n rhaid ei diwygio. Mae darnau penodol o ddeddfwriaeth wedi cael eu hadolygu a'u dirymu gyda rheoliadau newydd yn cael eu gwneud er mwyn cyflwyno rheoliadau i adlewyrchu gofynion Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir o ganlyniad i'r Ddeddf.
Mae darparu ar gyfer pontio effeithiol yn dal i fod yn bwysig o fewn Cwricwlwm i Gymru er mwyn sicrhau parhad dysgu a chynnydd priodol sy'n parhau ac yn cael ei gefnogi i ddysgwyr rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
Mae Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 (“Rheoliadau Trosglwyddo 2006”) yn darparu ar gyfer trosglwyddo o dan drefniadau a wnaed cyn Cwricwlwm i Gymru. Mae Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2022 (“Rheoliadau Trosglwyddo 2022) a'r Gofyniad i Lunio Cynlluniau Pontio a Chanllawiau 2022 (“Canllawiau Pontio”) yn nodi gofynion ar gyfer trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd o dan Cwricwlwm i Gymru ac yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Trosglwyddo 2006.
Mae'r Pontio a nodir yn adran asesu’r canllawiau Fframwaith hyn yn rhai statudol ac fe'u cyhoeddir o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002.
Mae gofynion sy’n ymwneud ag asesiadau darllen a rhifedd cenedlaethol ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 yn Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024, sy’n gosod dyletswyddau ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i gynnal yr asesiadau hyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013, a ddiddymwyd ym mis Medi 2024 yn amodol ar ddarpariaethau deddfwriaethol trosiannol.
Yn unol â diben ffurfiannol yr asesiadau hyn, nid oes gofyniad i gorff llywodraethu rannu canlyniadau asesiadau darllen a rhifedd ysgol gyda’r awdurdod lleol.
Mae'r gofynion ar gyfer rhoi gwybodaeth i rieni am gynnydd a chyrhaeddiad dysgwr o fewn trefniadau a wnaed cyn cyfnod Cwricwlwm i Gymru wedi'u nodi yn Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011.
Mae Rheoliadau Darparu Gwybodaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022 (“Rheoliadau Darparu Gwybodaeth 2022) yn gosod dyletswyddau ar benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir, i roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr a dysgwyr sy'n oedolion am gynnydd dysgwr yn unol â chwricwlwm yr ysgol neu'r lleoliad a manylion ei anghenion er mwyn gwneud cynnydd yn y dyfodol a sut y gall gael ei gefnogi gan yr ysgol neu'r lleoliad a'r rhiant. Caiff y Rheoliadau hyn eu cyflwyno'n raddol fel rhan o'r broses o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru ac, yn y pen draw, byddant yn dirymu Rheoliadau 2011. Mae'r rheoliadau hyn yn mynd y tu hwnt i'r continwwm 3-16 am eu bod yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion ac adroddiadau i ddisgyblion sy'n ymadael â'r ysgol sydd heibio i oedran gorfodol ysgol.
Mae darparu gwybodaeth bob tymor yn canolbwyntio ar nodi dysgu allweddol a chynnydd allweddol gan y dysgwr gydol y tymor a nodi ei anghenion i wneud cynnydd yn y dyfodol. Fodd bynnag, bydd yn parhau i fod yn bwysig bod rhieni, gofalwyr a dysgwyr sy'n oedolion yn deall cynnydd cyffredinol dysgwr dros flwyddyn. Er y gall diweddariadau ar gynnydd bob tymor wella ymgysylltu a dealltwriaeth o gynnydd ac anghenion allweddol dysgwr, mae'n parhau i fod yn bwysig bod gan rieni a gofalwyr ddarlun o gynnydd cyffredinol y dysgwr mewn perthynas â phob rhan o'r cwricwlwm.
Mae Rheoliad 10 o Reoliadau Darparu Gwybodaeth 2022 yn gosod cyfyngiadau penodol ar gynnwys gwybodaeth benodol sy'n cael ei darparu i rieni a dysgwyr sy'n oedolion. I grynhoi, mae'r cyfyngiadau hynny fel y'u nodir isod.
Ni ddylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys gwybodaeth:
sy'n tarddu o neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw berson heblaw:
un o gyflogeion yr awdurdod addysg sy'n cynnal yr ysgol
yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ymarferydd neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau)
swyddog lles addysg
y person sy'n gofyn am y datgeliad, neu
i'r graddau y byddai'n datgelu, neu y byddai'n galluogi rhywun i ddarganfod, pwy yw trydydd person sy'n ffynhonnell yr wybodaeth neu sy'n berson y mae'r wybodaeth honno yn berthnasol iddo
i'r graddau y byddai datgeliad (ym marn y pennaeth) yn debygol o achosi niwed i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol y dysgwr y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo neu unrhyw berson arall, neu i'r graddau y mae (ym marn y pennaeth) yn berthnasol i'r cwestiwn a yw'r dysgwr y mae'n ymwneud ag ef yn blentyn sy'n cael ei gam-drin neu wedi cael ei gam-drin neu sydd mewn perygl o gael ei gam-drin
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer lleoliadau. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb, crefydd, gwerthoedd a moeseg, addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, a gofynion ehangach.
Mae adran 80 y Ddeddf yn diffinio ystyr lleoliadau o'r fath.
Nid oes unrhyw ddyletswydd ar leoliadau i gynllunio cwricwlwm. Yn lle hynny, mae'r Ddeddf (adran 13) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm sy'n addas i'w ddefnyddio mewn lleoliadau. Rhaid i'r cwricwlwm hwnnw gydymffurfio â gofynion Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys yr elfennau gorfodol. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r cwricwlwm hwn yn barhaus a'i ddiwygio yn ôl yr angen. Mae’r cwricwlwm hwn wedi'i gyhoeddi ar Hwb.
Er y gall fod yn fuddiol iddynt wneud hynny, nid yw'n ofynnol i leoliadau ddefnyddio'r cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; gallant ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain.
O ran cynnwys crynodebau cyhoeddedig o'r cwricwlwm, dylent gynnwys:
sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y Fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
gwybodaeth am sut mae'r lleoliad yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i drefniadau ar gyfer asesu
sut mae’r cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth gan rieni a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus
Dylid cyhoeddi crynodebau o’r cwricwlwm cyn dechrau’r flwyddyn academaidd. Mae enghreifftiau i’w gweld yn y pecyn ymgysylltu ar gyfer lleoliadau.
Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran y ffordd y mae lleoliadau yn mabwysiadu eu cwricwlwm, ond dylen nhw allu dangos sut maen nhw wedi gwneud hyn.
Mae'r rhain yn faterion y dylai lleoliadau eu hystyried wrth roi eu cwricwlwm ar waith o ddydd i ddydd.
Mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso eithriadau at ofynion y cwricwlwm i ddysgwyr ag ADY. Gall awdurdodau lleol ddatgymhwyso neu addasu'r gofynion o ran rhoi'r cwricwlwm ar waith, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â chynlluniau datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu sydd ag anghenion addysgol arbennig o dan y Ddeddf Plant a Theuluoedd yn achos plant sy'n byw yn Lloegr. Dylid amlinellu'r broses o ddatgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm yng nghynllun datblygu unigol y dysgwr, neu yn achos dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac yn cael eu haddysgu yng Nghymru, yn eu cynlluniau addysg, iechyd a gofal.
Ceir pwer ar wahân ac ychwanegol yn adran 42 y Ddeddf i ddarparwyr wneud eithriadau dros dro i'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith er mwyn datgymhwyso, neu gymhwyso gydag addasiadau, bob un neu rai o ofynion y cwricwlwm yn Neddf 2021.
Mae hyn yn barhad ar ddarpariaethau eithaf tebyg presennol, sydd ond yn gymwys i ysgolion a gynhelir ar hyn o bryd, yn ymwneud â chaniatáu eithriadau dros dro rhag gofynion y cwricwlwm pan fo'r amgylchiadau yn gofyn am hynny, er enghraifft os bydd dysgwr yn cael ei drin ar gyfer salwch acíwt ac na ellir yn rhesymol ddisgwyl iddo fodloni gofynion cwricwlwm y lleoliad. O dan amgylchiadau o'r fath, mae'n hanfodol bod gan y lleoliad ddisgresiwn i eithrio dysgwyr dros dro rhag y cwricwlwm cyfan neu ran ohono heb orfod defnyddio proses ragnodol na beichus. Byddai'r dysgwr yn parhau i fod yn ddysgwr yn y lleoliad ond byddai wedi'i eithrio rhag gofynion y cwricwlwm am gyfnod penodol.
Mae darpariaethau yn Neddf 2021 a'r Rheoliadau Eithriadau Dros Dro yn darparu mesurau diogelu er mwyn sicrhau y gall dysgwyr a rhieni neu ofalwyr gymryd rhan yn y broses.
O dan y Rheoliadau Eithriadau Dros Dro, caiff dysgwyr a rhieni neu ofalwyr ofyn i leoliad wneud penderfyniad, neu amrywio neu ddirymu penderfyniad ac mae'n ofynnol i'r lleoliad ymateb i gais o'r fath o fewn pythefnos.
Gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i leoliadau (o dan adran 38 y Ddeddf) i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwaith datblygu neu arbrofion. Gall cyfarwyddyd o'r fath addasu neu ddatgymhwyso dyletswyddau i roi'r cwricwlwm ar waith am gyfnod penodol a bennir yn y cyfarwyddyd, fel y gellir gwneud y gwaith datblygu neu'r arbrawf. Felly, gellid defnyddio cyfarwyddyd i alluogi lleoliadau i gymryd rhan mewn rhaglen beilot ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm. Ceir amodau penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o'r fath, sy'n sicrhau bod y dysgwyr y mae'r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt yn parhau i gael budd o gwricwlwm addas.
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau isod sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith, a gofynion ehangach.
Mae adran 81 y Ddeddf yn diffinio ystyr unedau cyfeirio disgyblion.
O ran cynnwys crynodebau cyhoeddedig o'r cwricwlwm, mae'n bosibl y caiff canllawiau manylach eu cyhoeddi maes o law. Am y tro, argymhellwn y dylai crynodebau o'r fath gynnwys:
sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
gwybodaeth am sut mae'r uned cyfeirio disgyblion yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu
sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth gan rieni a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus
Dylai dysgwyr hyd at Flwyddyn 9 sydd wedi'u cofrestru ar yr un pryd mewn ysgol brif ffrwd ac uned cyfeirio disgyblion gwblhau asesiadau personol mewn darllen a rhifedd. Pennaeth yr ysgol brif ffrwd lle mae'r dysgwr wedi'i gofrestru sy'n gyfrifol am sicrhau bod asesiadau yn cael eu cynnal a gall drefnu i'r dysgwr gwblhau'r asesiadau personol yn y naill leoliad neu'r llall.
Mae'r Rheoliadau Lleoliadau Lluosog yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi ac adolygu cynlluniau mewn perthynas â'r dysgu a'r addysgu sydd i'w darparu ar gyfer dysgwyr unigol sy'n dilyn Cwricwlwm i Gymru sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg. Er enghraifft, gall dysgwr fod wedi'i gofrestru ar yr un pryd mewn ysgol a gynhelir ac uned cyfeirio disgyblion.
Bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol priodol baratoi cynllun yn nodi sut y bydd yn sicrhau'r canlynol:
yr addysgu a'r dysgu sydd i'w darparu ar gyfer y dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau asesu a fydd yn gymwys i'r dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau ar gyfer hysbysu rhieni neu ofalwyr am gynnydd y dysgwr
At ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran plentyn:
pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn
pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn
Diben y darpariaethau hyn yw sicrhau bod dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad yn cael y cwricwlwm llawn fel y bo'n briodol iddynt. Mae'r manteision yn cynnwys darparu ar gyfer galluogi dysgwyr addysg heblaw yn yr ysgol i drosglwyddo'n haws yn ôl i addysg brif ffrwd, pan fo'n hynny'n briodol i anghenion y dysgwr, a lleihau'r amwysedd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddarparu dysgu ac addysgu pan fo dysgwr wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad.
O ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth y bu'n rhaid ei diwygio. Mae darnau penodol o ddeddfwriaeth wedi cael eu hadolygu a'u dirymu gyda rheoliadau newydd yn cael eu gwneud er mwyn cyflwyno rheoliadau i adlewyrchu gofynion Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion o ganlyniad i'r Ddeddf.
Mae'r gofynion ar gyfer rhoi gwybodaeth i rieni a gofalwyr am gynnydd a chyrhaeddiad dysgwr o fewn trefniadau a wnaed cyn Cwricwlwm i Gymru wedi'u hamlinellu yn Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011.
Mae Rheoliadau Darparu Gwybodaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022 (Rheoliadau Darparu Gwybodaeth 2022) yn gosod dyletswyddau ar athrawon sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion i roi gwybodaeth i rieni, gofalwyr a dysgwyr sy'n oedolion am gynnydd dysgwr yn unol â chwricwlwm y lleoliad a manylion ei anghenion i’r dyfodol er mwyn gwneud cynnydd a sut y gall gael ei gefnogi gan y lleoliad a'r rhiant neur gofalwr. Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu cyflwyno'n raddol fel rhan o'r broses o gyflwyno Cwricwlwm i Gymru ac, yn y pen draw, byddant yn dirymu Rheoliadau 2011 ym mis 2028. Mae'r rheoliadau hyn yn mynd y tu hwnt i'r continwwm 3-16 am eu bod yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion ac adroddiadau i ddisgyblion sy'n ymadael â'r ysgol sydd heibio i oedran gorfodol ysgol.
Mae darparu gwybodaeth bob tymor yn canolbwyntio ar nodi dysgu a chynnydd allweddol ac anghenion allweddol i wneud cynnydd. Fodd bynnag, bydd yn parhau i fod yn bwysig bod rhieni, gofalwyr a dysgwyr sy'n oedolion yn deall cynnydd cyffredinol dysgwr dros flwyddyn. Er y gall diweddariadau ar gynnydd bob tymor wella ymgysylltu a dealltwriaeth o gynnydd ac anghenion allweddol dysgwr, mae'n parhau i fod yn bwysig bod gan rieni a gofalwyr ddarlun o gynnydd cyffredinol y dysgwr mewn perthynas â phob rhan o'r cwricwlwm.
Mae Rheoliad 10 o Reoliadau Darparu Gwybodaeth 2022 yn gosod cyfyngiadau penodol ar gynnwys gwybodaeth benodol sy'n cael ei darparu i rieni a gofalwyr, a dysgwyr sy'n oedolion. I grynhoi, mae'r cyfyngiadau hynny fel y'u nodir isod.
Ni ddylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys gwybodaeth:
sy'n tarddu o neu a roddwyd gan neu ar ran unrhyw berson heblaw:
un o gyflogeion yr awdurdod addysg sy'n cynnal yr ysgol;
yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ymarferydd neu gyflogai arall yn yr ysgol (gan gynnwys seicolegydd addysgol a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan gontract am wasanaethau)
swyddog lles addysg
y person sy'n gofyn am y datgeliad, neu
i'r graddau y byddai'n datgelu, neu y byddai'n galluogi rhywun i ddarganfod, pwy yw trydydd person sy'n ffynhonnell yr wybodaeth neu sy'n berson y mae'r wybodaeth honno yn berthnasol iddo
i'r graddau y byddai datgeliad (ym marn y pennaeth) yn debygol o achosi niwed i iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu gyflwr emosiynol y dysgwr y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddo neu unrhyw berson arall, neu i'r graddau y mae (ym marn y pennaeth) yn berthnasol i'r cwestiwn a yw'r dysgwr y mae'n ymwneud ag ef yn blentyn sy'n cael ei gam-drin neu wedi cael ei gam-drin neu sydd mewn perygl o gael ei gam-drin
Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, neu unedau cyfeirio disgyblion. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau isod sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith, a gofynion ehangach.
Diffinnir addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).
Mae'r Rheoliadau Lleoliadau Lluosog yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi ac adolygu cynlluniau mewn perthynas â'r dysgu a'r addysgu sydd i'w darparu ar gyfer dysgwyr unigol sy'n dilyn Cwricwlwm i Gymru sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad addysg. Er enghraifft, gall dysgwr fod wedi'i gofrestru ar yr un pryd mewn ysgol a gynhelir ac â darparwr addysg heblaw yn yr ysgol nad yw'n uned cyfeirio disgyblion.
Bydd yn ofynnol i'r awdurdod lleol priodol baratoi cynllun yn nodi sut y bydd yn sicrhau'r canlynol:
yr addysgu a'r dysgu sydd i'w darparu ar gyfer y dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau asesu a fydd yn gymwys i'r dysgwr ym mhob ysgol neu leoliad
y trefniadau ar gyfer hysbysu rhieni neu ofalwyr am gynnydd y dysgwr
At ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran plentyn:
pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn
pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn
Diben y darpariaethau hyn yw sicrhau bod plant sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad yn cael y cwricwlwm llawn fel y bo'n briodol iddynt. Mae'r manteision yn cynnwys darparu ar gyfer galluogi dysgwyr addysg heblaw yn yr ysgol i drosglwyddo'n haws yn ôl i addysg brif ffrwd, pan fo'n hynny'n briodol i anghenion y dysgwr, a lleihau'r amwysedd o ran pwy sy'n gyfrifol am ddarparu dysgu ac addysgu pan fo dysgwr wedi'i gofrestru mewn mwy nag un lleoliad.
Mae adran addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghanllawiau’r fframwaith hefyd yn cynnwys canllawiau ar ddatblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn cwricwlwm a'i rhoi ar waith. Mae'r canllawiau hyn yn ganllawiau statudol ac fe'u cyhoeddir o dan adran 71 y Ddeddf. Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am gynllunio a datblygu cwricwlwm ddarllen ac ystyried y canllawiau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm.
O dan y Ddeddf, mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer y canlynol:
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
person sy’n darparu addysgu a dysgu i blentyn y tu allan i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion (addysg heblaw yn yr ysgol)
awdurdod lleol yng Nghymru
Caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei chyflawni orau mewn partneriaeth ag ystod eang o bobl a sefydliadau. Felly, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i fusnesau; cymunedau; sefydliadau elusennol a gwirfoddol yn y sector cyhoeddus a rhai eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o fod yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr.
Er enghraifft, gallai ysgolion ddysgu am densiynau, anghytundeb neu ddadleuon presennol mewn cymdeithas, neu gallan nhw edrych ar safbwyntiau gwahanol o fewn credoau ar faterion. Mae datblygu'r blwraliaeth hon yn bwysig er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus sy'n ymwybodol o ystod o safbwyntiau, gwerthoedd a chredoau gwahanol ac yn sensitif iddyn nhw. Mae hyn yn eu helpu i ymgysylltu â thensiynau posibl ac ymdrin â nhw.
Mae dealltwriaeth dda o safbwyntiau dysgwyr, gwerthoedd maen nhw’n eu meithrin a’u cefndiroedd yn ganolog i ddatblygu'r blwraliaeth hon. Gall cydberthnasau cadarnhaol â chymunedau ehangach helpu i greu cyd-destun adeiladol ar gyfer ystyried agweddau a thensiynau mewn ffordd sensitif.
Mae hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i holl waith Llywodraeth Cymru, yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswydd i ystyried CCUHP ym mhopeth a wna.
Gall ysgolion a lleoliadau hefyd gysylltu'r hyn a ddysgir â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
Caiff ysgolion a lleoliadau eu hannog hefyd i gysylltu dysgu'n effeithiol, lle y bo hynny'n briodol, â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (2010); a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015).
Mae darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu i ysgolion gymryd camau cadarnhaol, lle y gellir dangos eu bod yn rhai cymesur, i fynd i'r afael ag anfanteision penodol sy'n effeithio ar un grwp oherwydd nodwedd warchodedig. Dylid ystyried hyn wrth gynllunio a chyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Dylai ysgolion ystyried cyfansoddiad eu dysgwyr eu hunain, gan gynnwys eu rhywedd a'u hystod oedran, ac ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig penodol (sy'n golygu eu bod yn wynebu mwy o risg o bosibl). Dylai ysgolion ystyried yr hyn y gallant ei wneud i feithrin proses gyfathrebu ac ymddygiad iach, llawn parch rhwng dysgwyr, a chynnig amgylchedd sy'n herio cyfyngiadau canfyddedig yn seiliedig ar rywedd neu unrhyw nodwedd arall, gan gynnwys drwy feysydd cwricwlwm ac fel rhan o ddull ysgol gyfan.
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyffwrdd â llawer o fywydau. Mae yna oblygiadau difrifol iawn i ddysgwyr, fel dioddefwyr eu hunain, mewn cartrefi lle y ceir cam-drin domestig. Gall effeithio ar eu diogelwch, eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u lles yn gyffredinol. Mae'n effeithio ar gydberthnasau â'u teulu a chyfoedion, a'r potensial i fwynhau cydberthnasau iach, hapus a llawn parch yn y dyfodol; a gall effeithio ar gyrhaeddiad addysgol nawr ac yn y dyfodol.
Bydd yna ddysgwyr a staff mewn ysgolion ar hyn o bryd sy'n dioddef, neu'n wynebu risg o ddefnyddio ymddygiad camdriniol yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu sydd wedi eu dioddef neu eu defnyddio yn y gorffennol. Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn gyfrifol am sicrhau bod eu dysgwyr a’u staff yn ddiogel ac yn iach.
Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle i Gymru arwain y ffordd o ran gwaith ataliol. Mae ysgolion a lleoliadau yn cynnig amgylchedd lle y gellir meithrin agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb rhywiol a chydberthnasau iach a llawn parch drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.
Mae’n hollbwysig mabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu sy’n cynnwys addysg ataliol yn yr ysgol ac sydd hefyd yn cynnwys y gymuned ehangach.
Datblygwyd Canllaw Arferion Da ar gyfer Dull Addysg Gyfan Llywodraeth Cymru o Ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru ar y cyd â Cymorth i Ferched Cymru. Bwriedir iddo fod yn becyn cymorth ymarferol a defnyddiol ar gyfer cymhwyso egwyddorion dull addysg gyfan o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n cydnabod pwysigrwydd lleoliadau addysgol fel amgylcheddau lle gellir meithrin agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb rhywiol a chydberthnasau iach a llawn parch.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ymarferol i lywodraethwyr ysgolion ar yr angen i ddatblygu polisi ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; sut i adnabod arwyddion o gam-drin a ble i gael cymorth iddyn nhw eu hunain, eu cydweithwyr neu eu dysgwyr.
Mae cyngor ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA) ar gael hefyd yng nghrynodeb deddfwriaeth o'r Fframwaith.
O fewn y Ddeddf, mae'r newidiadau deddfwriaethol isod wedi cael eu gwneud mewn perthynas ag addysg grefyddol.
Mae'r newid enw yn adlewyrchu cwmpas estynedig addysg grefyddol (addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg) a sicrhau ei bod yn glir yn y ddeddfwriaeth ei hun y dylai'r pwnc gynnwys safbwyntiau athronyddol anghrefyddol. Mae'r ddarpariaeth yn y Ddeddf yn gysylltiedig â'r term “argyhoeddiadau athronyddol” o fewn ystyr Erthygl 2 Protocol 1 i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (E2P1). Hynny yw, mae'n rhaid i addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg a ddarperir yn unol â'r Ddeddf gydymffurfio ag E2P1 yn yr ystyr bod yn rhaid cynnwys addysgu am argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr E2P1.
Mae'r Ddeddf yn gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw faes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg adlewyrchu credoau crefyddol yn ogystal â chredoau anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr E2P1. Mae hyn yn cynnwys credoau fel dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth. Dim ond enghreifftiau o'r math o gredoau sydd o fewn cwmpas crefydd, gwerthoedd a moeseg yw'r rhain, yn hytrach na rhestr hollgynhwysfawr. Mae'r newidiadau hyn yn nodi'n glir beth sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn perthynas ag addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg blwraliaethol.
Wrth ystyried crefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, mae'n ddefnyddiol cyfeirio at argymhelliad Cyngor Ewrop 2008 ar ddimensiwn argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol o fewn addysg sy'n nodi:
“Religious and non-religious convictions are diverse and complex phenomena; they are not monolithic. In addition, people hold religious and non-religious convictions to varying degrees, and for different reasons; for some such convictions are central and may be a matter of choice, for others they are subsidiary and may be a matter of historical circumstances. The dimension of religions and non-religious convictions within intercultural education should therefore reflect such diversity and complexity at a local, regional and international level.”
(Cyngor Ewrop 2008a, atodiad; paragraff 3).
Signposts: policy and practice for teaching about religions and non-religious worldviews in intercultural education (Cyngor Ewrop, 2014, t.67).
Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at ‘argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol’ ac nid ‘argyhoeddiadau athronyddol’, a hynny am fod yr adran sy'n cyfeirio at 'grefyddau' eisoes yn cyfeirio at argyhoeddiadau athronyddol crefyddol.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i grefydd, gwerthoedd a moeseg yn y maes llafur cytunedig gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Mae'r llysoedd wedi penderfynu nad yw hyn yn gyfystyr â'r termau ‘safbwyntiau’ a ‘syniadau’ pan gaiff ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. Mae'n dynodi safbwyntiau sy'n cyrraedd lefel benodol o rym, difrifoldeb, cydlyniant a phwysigrwydd (Valsamis v. Greece, §§ 25 a 27).
Isod ceir rhai enghreifftiau lle mae'r llysoedd wedi penderfynu mai argyhoeddiad athronyddol yw cred o fewn ystyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Dylid cofio mai dim ond enghreifftiau yw'r rhain, ac nid rhestr hollgynhwysfawr.
Penderfynwyd mai argyhoeddiadau athronyddol yw anffyddiaeth, agnosticiaeth a sgeptigaeth (R (Williamson) v Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth [2005] AC 246, paragraffau 24 a 75).
Penderfynwyd bod heddychiaeth yn argyhoeddiad athronyddol (Arrowsmith v. the United Kingdom, Commission report, § 69).
Penderfynwyd bod gwrthwynebiad ar sail egwyddor i wasanaeth milwrol yn argyhoeddiad athronyddol (Bayatyan v. Armenia [GC]).
Penderfynwyd bod figaniaeth a gwrthwynebu defnyddio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid neu a brofir ar anifeiliaid yn argyhoeddiad athronyddol ( v. the United Kingdom, Commission decision).
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i elfen maes llafur cytunedig crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynllunio i gynnwys elfen orfodol crefydd, gwerthoedd a moeseg. Eglurir ystyr hynny yn adran 375A o Ddeddf 1996 sy'n nodi bod traddodiadau crefyddol yn golygu traddodiadau Cristnogol yng Nghymru sy'n rhai Cristnogol yn bennaf ond sydd hefyd yn ystyried dysgeidiaeth ac arferion crefyddol prif grefyddau eraill yng Nghymru. Yn gryno, rhaid cynnwys amrywiaeth o grefyddau gwahanol a safbwyntiau anghrefyddol. Yn y cyd-destun hwn, rhoddir i'r term “crefydd” yn y cyd-destun hwn ei ystyr gonfensiynol neu gyffredin fel y'i deellir fel arfer. Ystyriwn fod gan grefydd y nodweddion canlynol:
mae'r dilynwyr yn credu mewn bod goruchaf (mae'r cysyniad o fod goruchaf yn cynnwys y cysyniad hirsefydlog o un Duw Cristnogol, ond nid yw wedi'i gyfyngu i hynny)
mae'r dilynwyr yn addoli'r bod goruchaf hwnnw, hynny yw maent yn cymryd rhan mewn gweithredoedd neu arferion lle maent yn mynegi eu cred yn y bod goruchaf ac yn dangos parch ato neu barchedig ofn ohono
mae'r sefydliad yn hyrwyddo'r grefydd honno drwy ei weithgareddau
Isod ceir rhai enghreifftiau lle mae'r llysoedd wedi penderfynu mai argyhoeddiad athronyddol yw cred o fewn ystyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Enghreifftiau yn unig o rai crefyddau yw'r rhain, ac nid rhestr hollgynhwysfawr.
Alefiaeth (Cumhuriyetçi Egitim ve Kültür Merkezi Vakfi v; Izzettin Dogan ac Eraill v Twrci).
Bwdhaeth (Jakóbski v. Gwlad Pwyl).
y gwahanol enwadau Cristnogol ymhlith llawer o awdurdodau eraill (Svyato-Mykhaylivska Parafiya v Wcrain; Savez crkava “Rijec života” ac Eraill v Croatia).
Y gwahanol ffurfiau ar Hindwaeth, gan gynnwys mudiad Hare Krishna (Kovalkovs v Latvia (dec.); Genov v Bwlgaria).
Yr amrywiol ffurfiau ar Islam (Hassan and Tchaouch v. Bwlgaria [GC]; Leyla Sahin v. Twrci [GC]), gan gynnwys Ahmadiaeth (Metodiev ac Eraill v. Bwlgaria).
Iddewiaeth (Cha’are Shalom Ve Tsedek v. Ffrainc [GC]; Francesco Sessa v. Yr Eidal).
Sikhaeth (Phull v. Ffrainc (Dec.); Jasvir Singh v. Ffrainc).
Tystion Jehofa (Religionsgemeinschaft der Zeugen Jehovas ac Eraill v. Awstria; Tystion Jehofa Moscow ac Eraill v. Rwsia).
Yn achos ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cwmpasu crefydd, gwerthoedd a moeseg fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. (Y “maes llafur cytunedig” yng nghyd-destun yr Atodlen yw'r maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 375A o Ddeddf 1996 i'w ddefnyddio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.) Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg hon fod ar gael i bob dysgwr.
I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cwmpasu crefydd, gwerthoedd a moeseg fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig.
Fodd bynnag, yn achos yr ysgolion hyn, ceir gofyniad ychwanegol a fydd ond yn gymwys os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
Y cam cyntaf wrth benderfynu a yw'r gofyniad ychwanegol hwn yn berthnasol yw ystyried a yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd ag unrhyw ddarpariaeth yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg. Os nad oes darpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, y cam nesaf fydd ystyried a yw'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â daliadau'r grefydd neu'r enwad a nodwyd mewn perthynas â'r ysgol drwy orchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Dim ond os nad yw'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â'r weithred ymddiriedolaeth neu'r daliadau perthnasol y bydd y gofyniad ychwanegol yn berthnasol. Os bydd y gofyniad ychwanegol hwn yn berthnasol, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithgareddau dysgu ac addysgu a ddarperir i'r dysgwyr gael eu cynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. Fodd bynnag, ceir eithriad i'r gofyniad cyffredinol hwn sy'n galluogi rhieni a gofalwyr i ofyn i'r ysgol, yn lle hynny, roi'r ddarpariaeth ychwanegol i'w plentyn sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad. Os gwneir cais o'r fath, rhaid cydymffurfio ag ef.
I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ddarparu ar gyfer dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad (“crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol”). Nid oes rhaid i'r agwedd hon ar addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynllunio yn unol â'r maes llafur cytunedig.
Unwaith eto, ceir gofyniad ychwanegol. I ysgolion o'r math hwn, dim ond os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd (hynny yw, sy'n cyd-fynd â'r weithred ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefydd neu enwad yr ysgol) yn cyd-fynd â'r maes llafur cytunedig y bydd y gofyniad ychwanegol yn berthnasol. Yn yr achos hwn, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod gan ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol ddwy ffurf ar addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg, sef: ei chrefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol a'i chrefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol (hynny yw, a gynlluniwyd yn unol â'r maes llafur cytunedig).
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithgareddau dysgu ac addysgu a gynhelir ar gyfer dysgwyr fod yn rhai y mae'r ddarpariaeth ar eu cyfer yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ei chrefydd neu ei henwad. Ond, unwaith eto, ceir eithriad i'r gofyniad cyffredinol hwn sy'n galluogi rhieni a gofalwyr i ofyn i'r ysgol, yn lle hynny, roi'r ddarpariaeth ychwanegol i'w plentyn a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig. Os gwneir cais o'r fath, rhaid cydymffurfio ag ef.
Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau athronyddol anghrefyddol yn yr un modd ag y maen nhw’n caniatáu penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau crefyddol.
Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu ar y personau priodol i'w penodi. Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch penodiad yn dibynnu ar benderfyniad yr awdurdod lleol perthnasol y byddai cynrychiolydd o’r fath yn helpu i sicrhau bod traddodiadau perthnasol yr ardal yn cael eu hadlewyrchu’n briodol. Caiff Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol eu hailenwi'n Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg.
Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y grwp yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad neu argyhoeddiad yn ei ardal leol yn fras (gweler yr isadran newydd (6A) a (6B) o adran 390 a fewnosodwyd gan baragraff 9(8) o'r Atodlen.
Er mai i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed y mae’r Fframwaith yn berthnasol, mae'r canllawiau hyn wedi'u cynnwys yma er mwyn bod yn gyflawn.
Nid yw crefydd, gwerthoedd a moeseg ôl-16 yn orfodol mwyach yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf. Yn unol ag adran 61 y Ddeddf, gall pob dysgwr dros 16 oed bellach ddewis cael addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg. Yn y gorffennol, roedd yn ofynnol i bob dysgwr chweched dosbarth astudio addysg grefyddol. Os bydd dysgwr yn dewis cael addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg, yna bydd yn rhaid i'r ysgol ddarparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol. Mae'r dull gweithredu hwn yn gyson â'r egwyddor y dylai dysgwyr sy'n ddigon aeddfed allu gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'u dysgu eu hunain.
Os bydd dysgwr yn gofyn am addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol ag adran 6 y Ddeddf, rhaid i'r addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynllunio mewn ffordd sydd:
yn adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
Gweler y paragraffau uchod am esboniad o'r termau.
Nid yw adran 61 y Ddeddf yn atal ysgol rhag ei gwneud yn ofynnol i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth fynychu dosbarthiadau crefydd, gwerthoedd a moeseg gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n gwneud hyn rhag darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg orfodol i'w dysgwyr chweched dosbarth sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol (“crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol”). Mae cynnwys addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol o'r fath yn parhau i fod yn fater i'r ysgol.
Mae'r adran hon wedi'i bwriadu ar gyfer awdurdodau lleol, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig er mwyn egluro eu rolau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn Cwricwlwm i Gymru a'r maes llafur cytunedig o dan y Ddeddf.
Mae'r newidiadau deddfwriaethol yn y Ddeddf mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog fel a ganlyn.
Mae'r Ddeddf yn nodi'n glir bod yn rhaid i unrhyw faes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg adlewyrchu credoau crefyddol ac anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr E2P1.
Darpariaeth ar gyfer penodi personau sy'n cynrychioli pobl ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn yr un modd ag y maen nhw’n caniatáu penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau crefyddol.
Dyma'r unig newidiadau deddfwriaethol yn y Ddeddf sy'n ymwneud â rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig. Nid yw'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r holl rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol eraill a oedd ganddynt eisoes wedi newid.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am hyn yn y Crynodeb deddfwriaethol hwn yn y Fframwaith.
Nid yw'r Ddeddf yn pennu erbyn pa ddyddiad y bydd yn rhaid i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig gyntaf baratoi ac argymell maes llafur cytunedig. Rhaid i'r awdurdod lleol fabwysiadu maes llafur newydd yn lle'r maes llafur cytunedig presennol i'w ddefnyddio mewn ysgolion a lleoliadau sy'n rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Felly, bydd angen i Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig gael eu sefydlu mewn da bryd i gyflwyno maes llafur cytunedig yn unol â'r broses o roi Cwricwlwm i Gymru ar waith yn 2022. Yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am weinyddu hyn.
Ni fwriedir i'r maes llafur cytunedig fod yn gynllun gwaith. Yn hytrach, bwriedir iddo fod yn ganllaw ac yn bwynt cyfeirio defnyddiol i ysgolion er mwyn eu helpu i gynllunio cwricwlwm priodol a pherthnasol ar gyfer eu dysgwyr sy'n cynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn Maes y Dyniaethau. Mae dull y Fframwaith yn seiliedig ar egwyddor sybsidiaredd ac, fel y cyfryw, dylai pob maes llafur cytunedig gydnabod ac adlewyrchu ymreolaeth pob ysgol a lleoliad wrth gyflawni eu cwricwla eu hunain. Un o fwriadau'r canllawiau statudol hyn ar grefydd, gwerthoedd a moeseg yw taro'r cydbwysedd cywir rhwng pwyslais canolog y Fframwaith a'r gofynion o ran gwneud penderfyniadau lleol ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, fel y nodir mewn meysydd llafur cytunedig ledled Cymru. Felly, mae'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg wedi'u hysgrifennu fel sail i'r maes llafur cytunedig. Os bydd awdurdod lleol yn dymuno mabwysiadu neu addasu'r canllawiau hyn fel ei faes llafur cytunedig, caiff wneud hynny. Yn y pen draw, mater i'r darparwr fydd sicrhau y caiff addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol ei darparu'n blwraliaethol.
Dylai meysydd llafur cytunedig gydnabod, er y dylai pob ysgol addysgu eu dysgwyr am y prif grefyddau a'u traddodiadau yng Nghymru, fod credoau eraill (gan gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth) bellach yn rhan gydnabyddedig o fywyd mewn ardaloedd lleol yng Nghymru a thu hwnt. Adlewyrchir hyn yn y Ddeddf sy'n nodi'r canlynol am y maes llafur cytunedig:
rhaid iddo adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
rhaid iddo hefyd adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i sefydlu'r gydberthynas rhwng y maes llafur cytunedig a’r Fframwaith. Rhaid i awdurdodau lleol, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig ystyried y Fframwaith, sy'n cynnwys canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg, wrth ddatblygu a mabwysiadu maes llafur cytunedig. Y maes llafur cytunedig yw'r pwynt cyfeirio cyntaf ar gyfer darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion a lleoliadau, felly mae'n hanfodol bod y maes llafur cytunedig yn cydnabod ac yn adlewyrchu dull y Fframwaith a'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn taro cydbwysedd a bod yn gydlynus ym mhob rhan o Gwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg yn galluogi Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i sefydlu'r gydberthynas hon rhwng y maes llafur cytunedig a’r Fframwaith ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, a hynny'n hyderus. Mae hyn yn cynnwys canllawiau er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod ehangder a dyfnder priodol o fewn crefydd, gwerthoedd a moeseg gan gydnabod egwyddor sybsidiaredd ar yr un pryd.
Corff statudol a ddaw ynghyd i baratoi ac argymell neu ailystyried maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'r awdurdod lleol ei fabwysiadu yw Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am alw'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd, sy'n golygu bod dyletswydd arno i ddarparu cyllid a chymorth ar gyfer ei gwaith. Mae'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn gorff cyfreithiol ar wahân i Gyngor Ymgynghorol Sefydlog. Fodd bynnag, mae iddi'r un strwythur grwpiau â'r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog:
Grwp A – grwp o bersonau i gynrychioli: enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill a'u henwadau; argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru, wrth benodi personau o'r fath, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod nifer yr aelodau a benodir i'r pwyllgor i gynrychioli crefydd, enwad neu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, cyn belled ag y bo'n gyson â chyflawni swyddogaethau'r pwyllgor yn effeithlon, yn adlewyrchu cryfder y grefydd, yr enwad neu'r argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol hwnnw yn yr ardal
Grwp B – grwp o bersonau i gynrychioli'r cymdeithasau hynny sy'n cynrychioli athrawon a ddylai, ym marn yr awdurdod, gael eu cynrychioli, gan ystyried amgylchiadau'r ardal
Grwp C – grwp o bersonau i gynrychioli'r awdurdod
Nid oes darpariaeth gyfreithiol i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig gynnwys aelodau cyfetholedig, ond gall geisio'r cyngor y tybia ei fod yn briodol gan y rhai hynny y tybia eu bod yn briodol, er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg effeithiol yn ardal y Gynhadledd.
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chefnogi Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig ac mae'n rhaid i'r Gynhadledd:
paratoi maes llafur ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'w fabwysiadu gan awdurdod addysg lleol a all gynnig darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o'r canlynol:
ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol
dysgwyr
sicrhau bod y maes llafur yn adlewyrchu'r ffaith:
mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru
sicrhau bod unrhyw is-bwyllgorau a benodir gan y gynhadledd yn cynnwys o leiaf un aelod o bob un o'r pwyllgorau sy'n rhan o'r gynhadledd
rhoi un bleidlais yn unig i bob un o'r pwyllgorau sy'n rhan o'r gynhadledd, ar unrhyw gwestiwn y bydd y gynhadledd neu unrhyw un o'i his-bwyllgorau yn penderfynu arno
ceisio cytundeb unfrydol ar faes llafur ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'r awdurdod addysg lleol ei fabwysiadu
Yn yr un modd â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog, rhaid i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig hefyd gyfarfod yn gyhoeddus a chael ei chadeirio gan rywun a benodir gan yr awdurdod lleol, neu gael caniatâd i ddewis ei Chadeirydd ei hun.
Pryd bynnag y bydd awdurdod lleol o'r farn (ar sail sylwadau a wneir iddo neu fel arall) y dylid ailystyried y maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am alw'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd at y diben hwnnw. Dylid ailystyried y maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn pob pum mlynedd.
A gaiff argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol eu cynrychioli'n briodol?
A fyddai'n ddefnyddiol nodi grwpiau ffydd a chred a gaiff eu cynrychioli'n lleol yn y maes llafur cytunedig?
A fyddai'n briodol cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i ysgolion a lleoliadau am y grwpiau ffydd a chred hyn a sut i gysylltu â hwy?
A fyddai'n ddefnyddiol cynnwys deunydd ac adnoddau enghreifftiol i ategu'r maes llafur y cytunir arno'n lleol?
Sut y gellir hwyluso cydweithio rhwng y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ac ysgolion yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau y caiff maes llafur cytunedig priodol ei lunio ar gyfer eich ardal?
A oes unrhyw grwpiau neu sefydliadau eraill yng Nghymru a allai helpu'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i ddatblygu'r maes llafur y cytunir arno'n lleol ar gyfer eich ardal?
Sut y caiff y maes llafur y cytunir arno'n lleol ei hyrwyddo i ysgolion a lleoliadau a phartïon eraill â diddordeb yn eich ardal?
Sut y bydd eich Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddarparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n ystyried y maes llafur y cytunwyd arno'n lleol?
Yn ogystal â'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, a oes angen i ysgolion a lleoliadau yn eich ardal gael unrhyw beth arall i'w helpu i gynllunio'r cwricwlwm ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ffyrdd sy'n cynnal egwyddor sybsidiaredd? Er enghraifft:
cyngor ar gysylltiadau â Meysydd eraill
awgrymiadau ar gyfer addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg ddewisol ôl-16
rhestr termau
cyngor ar ymdrin â materion sensitif o fewn crefydd, gwerthoedd a moeseg
enghreifftiau o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg feirniadol, wrthrychol a phlwraliaethol
O fis Medi 2022, ni fydd gan rieni hawl i dynnu dysgwyr yn ôl o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg hyd at Flwyddyn 6, gan gynnwys y flwyddyn ysgol honno, gan y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith ym mhob ysgol a lleoliad cynradd o'r dyddiad hwn ymlaen.
Rhoddir y canllawiau isod er mwyn helpu Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog i gynghori ysgolion a lleoliadau uwchradd ar ddiddymu'r hawl i dynnu'n ôl o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn gywir ac yn briodol fesul cam ar gyfer dysgwyr o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11 o fis Medi 2022.
O ran dysgwyr Blwyddyn 7, bydd gan ddarparwyr hyblygrwydd i ‘optio i mewn’ i Gwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, neu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 gyda'i gilydd ym mis Medi 2023. Rhoddir canllawiau ar ‘optio i mewn’ yn Y daith i weithredu'r cwricwlwm.
Yn ystod cyfnod cyflwyno'r cwricwlwm, pan fydd ysgol neu leoliad uwchradd yn ‘mabwysiadu'r’ Fframwaith ar gyfer grwp blwyddyn penodol, ni fydd hawl i dynnu dysgwyr yn ôl yn y grwp blwyddyn hwnnw o'r flwyddyn academaidd honno ymlaen. Felly, ar gyfer yr ysgolion a'r lleoliadau uwchradd hynny na fyddant yn optio i mewn i'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, bydd yr hawl i dynnu'n ôl yn parhau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 yn ystod Blwyddyn academaidd 2022 i 2023, ond daw i ben ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.
O fis Medi 2023, ni fydd hawl i dynnu dysgwyr Blwyddyn 7 nac 8 yn ôl, gan y bydd pob darparwr wedi rhoi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith ar gyfer y dysgwyr hynny. Ar ôl hynny, bydd y broses o roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam yn parhau, a chaiff yr hawl i dynnu'n ôl ei diddymu ar gyfer:
dysgwyr Blwyddyn 9 ym mis Medi 2024
dysgwyr Blwyddyn 10 ym mis Medi 2025
dysgwyr Blwyddyn 11 ym mis Medi 2026
Ceir canllawiau ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol neu leoliad i ymgorffori addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (addysg a phrofiadau byd gwaith) yn adran ar gynllunio cwricwlwm y canllawiau Fframwaith hyn, yn ogystal ag ar gyfer pob Maes.
Mae'r canllawiau ar gyfer addysg a phrofiadau byd gwaith yn statudol a chânt eu cyhoeddi o dan adran 71 y Ddeddf. Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am gynllunio a datblygu addysg a phrofiadau byd gwaith ddarllen ac ystyried y canllawiau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm.
O dan y Ddeddf, mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer:
pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
person sy’n darparu dysgu ac addysgu i blentyn y tu allan i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion
awdurdod lleol yng Nghymru
Fel yr amlinellir yn adran 50 y Ddeddf, nid yw'n ofynnol i addysg heblaw yn yr ysgol gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob Maes. Fodd bynnag rhaid iddynt gynnwys Maes iechyd a lles, a chynnwys y Meysydd eraill dim ond i’r graddau sy’n rhesymol bosibl ac sy’n briodol. Dylai’r lleoliadau hyn ddarllen adran ar addysg a phrofiadau byd gwaith y canllawiau hyn, ac yn benodol y Maes iechyd a lles ynglyn â sut i roi cyd-destun i addysg a phrofiadau byd gwaith o fewn y cwricwlwm. Dylai’r athro sy’n gyfrifol, y pwyllgorau rheoli a’r awdurdodau lleol ddarllen canllawiau eraill ar gynllunio cwricwlwm ar gyfer y lleoliadau hyn.
Gall y canllawiau addysg a phrofiadau byd gwaith fod yn ddefnyddiol ar gyfer y rheini sy’n rhan o’r gwaith cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm, megis:
uwch-arweinwyr
cydlynwyr neu arweinwyr addysg a phrofiadau byd gwaith
cydlynwyr lleoliadau gwaith
pob ymarferydd mewn ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau, megis sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch
y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
Caiff addysg a phrofiadau byd gwaith eu cyflawni orau mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau. Er nad yw'n statudol iddyn nhw, gallai fod yn ddefnyddiol i’r bobl a’r sefydliadau canlynol sydd â diddordeb mewn addysg a phrofiadau byd gwaith nodi’r canllawiau hyn:
busnesau, cymunedau, sefydliadau elusennol a gwirfoddol a rhai eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau
anogwyr dysgu
tiwtoriaid personol
Gyrfa Cymru
rhieni a gofalwyr
Ceir amrywiaeth o ofynion deddfwriaethol y gall fod angen i leoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth reoli eu sefydliadau. Ni fwriedir i'r adran hon fanylu ar y rhain, ond yn hytrach mae'n fan cyfeirio i'r gofynion deddfwriaethol hynny sydd â goblygiadau o ran y cwricwlwm ac asesu.
Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) yn gosod unrhyw ddyletswyddau penodol ar ysgolion. Fodd bynnag, mae'n ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol a chenedlaethol (ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill) sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae angen i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, ymhlith eraill, fynd i'r afael â hyn drwy bennu amcanion sydd wedi'u cynllunio i gynyddu eu cyfraniad at gyflawni pob un o'r saith nod lles i'r eithaf, a chymryd pob cam rhesymol i arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r nodau hynny.
Mae Deddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymhwyso egwyddor datblygu cynaladwy, sy'n cynnwys mabwysiadu ffyrdd o weithio a fydd yn helpu i sicrhau datblygu cynaladwy pellach.
Un o amcanion lles Gweinidogion Cymru yw: ‘cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial’. Mae ein dull o ddiwygio'r cwricwlwm yn cyfrannu at gyflawni'r amcan hwnnw, a thrwy hynny, yn cynyddu ein cyfraniad at y nodau lles i'r eithaf. Mae hefyd yn adlewyrchu egwyddor datblygu cynaladwy a'r ffyrdd o weithio.
Rydym yn annog ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, i ystyried sut y gallan nhw ymgorffori'r ffyrdd o weithio a chyfrannu at y nodau lles wrth gynllunio, mabwysiadu a rhoi eu cwricwlwm ar waith, a chynnwys dysgwyr, rhieni a gofalwyr a'u cymunedau ehangach, busnesau a phartneriaid yn y broses honno.
Hawliau dynol yw'r rhyddid a'r amddiffyn y mae gan bawb yr hawl iddynt. Mae gan ddysgwyr hawliau dynol penodol sydd wedi'u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, gan gynnwys protocolau dewisol. Yng Nghymru, mae hawliau plant yn hawl sylfaenol, nid yn rhywbeth ychwanegol dewisol. Mae'r rhain wedi'u hymgorffori o dan y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Ceir rhagor o ganllawiau ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn adran Hawliau dynol y Fframwaith.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella'r gwaith o gynllunio a chyflwyno darpariaeth dysgu ychwanegol, drwy nodi anghenion yn gynnar mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rhoi cymorth a threfniadau monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
Mae'r fframwaith cyfreithiol a sefydlwyd gan y Ddeddf hon yn chwarae rôl hanfodol i alluogi'r cwricwlwm i greu ysgolion cryf a chynhwysol sy'n ymrwymedig i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a lles.
Mae'r Fframwaith yn ceisio caniatáu ehangu dysgu, gan sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni eu potensial llawn.
Nod y system ADY a'r Fframwaith yw creu system addysg gynhwysol a theg yng Nghymru. Mae darpariaethau'r Ddeddf yn rhoi'r egwyddor hon ar waith drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, lle bynnag y bo'n bosibl, bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd.