Gellir addasu llawer o adnoddau Hwb i ddiwallu anghenion gwahanol ddysgwyr gan ddefnyddio offer sydd ar gael drwy Hwb. Gellir personoli adnoddau cydnaws, fel dogfennau PDF a Word, gan ddefnyddio offer gan gynnwys Adobe Express, Microsoft 365, Google Workspace a J2e.
Gallwch hefyd archwilio sesiynau 'Hwb yn cyflwyno' a gyflwynir gan arbenigwyr o'r llwyfannau hyn. Maent yn cynnig syniadau ac arweiniad ymarferol i'ch helpu i gael y gorau o offer Hwb ac i gyfoethogi profiadau dysgu.
Archwiliwch yr adnoddau sydd ar gael yn Hwb y gellir eu defnyddio i addasu adnoddau, cefnogi hygyrchedd a helpu i ddiwallu anghenion dysgwyr gwahanol.
Chwiliwch drwy sesiynau a gyflwynir gan arbenigwyr o Adobe, Microsoft, Google a phartneriaid eraill, sy'n rhannu syniadau ymarferol, enghreifftiau ac awgrymiadau i'ch helpu i gael y gorau o'r offer hyn.