Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Pwrpas Hwb yw cefnogi gweithgareddau addysgu a dysgu yng Nghymru. Mae pob ysgol a gynhelir yng Nghymru bellach wedi derbyn manylion mewngofnodi Hwb ar gyfer staff a dysgwyr; gellir cael y rhain gan weinyddwr Hwb yr ysgol (cydlynydd TG yr ysgol fel arfer). Caiff cyfrifon Hwb eu creu yn ôl disgresiwn llwyr Llywodraeth Cymru.

Dim cyfrif gennych?

Dewiswch o'r canlynol i gael rhagor o wybodaeth am eich cymhwystra a'r camau i gael cyfrif Hwb.

Dw i'n:

Athro neu athrawes mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru

Mae pob athro ac athrawes mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn gymwys i gael cyfrif Hwb. Cysylltwch â gweinyddwr Hwb eich ysgol. Rhoddir mynediad drwy MIS yr ysgol.

Athro neu athrawes gyflenwi mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru

Mae gan bob athro ac athrawes gyflenwi hawl i gael cyfrif Hwb cludadwy ei hun (sy'n rhoi mynediad at Microsoft 365 a chyfeiriad e-bost Hwb personol). Mae'r cyfrifon hyn yn cael eu creu â llaw gan dîm Hwb. Cofrestrwch gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Mae cyfrifon Hwb ar gyfer athrawon cyflenwi ar gael i unigolion sydd wedi'u cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn y categori Athro Ysgol yn unig. Er mwyn cael cyfrif, dylech fod yn gweithio fel athro neu athrawes gyflenwi mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Drwy feddu ar gyfrif Hwb athro cyflenwi, rhaid i chi gytuno i gadw at Delerau ac Amodau Hwb. Rhaid i unrhyw weithgaredd a wnewch ar Hwb fod â diben addysgol ac ni ddylech ystyried unrhyw ran o'ch gweithgarwch yn breifat nac yn gyfrinachol. Bydd eich manylion llawn yn cael eu gwirio yn erbyn Cofrestr CGA.

Athro neu athrawes mewn ysgol annibynnol yng Nghymru

Nid yw ysgolion annibynnol yn gymwys i gael cyfrifon Hwb. Fodd bynnag, gallwch elwa ar y miloedd o adnoddau addysgu rhad ac am ddim sydd ar gael ar Hwb heb fewngofnodi.

Athro neu athrawes mewn ysgol y tu allan i Gymru

Nid yw ysgolion annibynnol yn gymwys i gael cyfrifon Hwb. Fodd bynnag, gallwch elwa ar filoedd o adnoddau addysgu rhad ac am ddim sydd ar gael ar Hwb heb fewngofnodi.

Llywodraethwr ysgol

Mae cyfrifon Hwb ar gael i lywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy weinyddwr Hwb yr ysgol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw hwn, cysylltwch â phennaeth yr ysgol.

Dysgwr

Oherwydd gofynion diogelu data, dim ond gan eu hathrawon y gall dysgwyr gael manylion mewngofnodi Hwb. Siaradwch â'ch athro neu athrawes er mwyn cael eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair Hwb.

Rhiant

Nid yw cyfrifon Hwb ar gael i rieni ar hyn o bryd. Gellir cael manylion mewngofnodi Hwb dysgwr gan ei athro neu athrawes.

Awdurdod lleol yng Nghymru

Cysylltwch â gweinyddwr Hwb eich sefydliad i ofyn am gyfrif. Os nad ydych yn siŵr pwy yw hwn, anfonwch e-bost at support@hwbcymru.net.

Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)

Os ydych yn dilyn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac yn dymuno cael mynediad cofrestredig i Hwb, cysylltwch â gweinyddwr Hwb eich prifysgol.