Wrth fyfyrio ar y cwestiynau a nodwyd yn y cyflwyniad, dylai ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu gweledigaeth ar gyfer eu cwricwlwm. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ysgolion ac ymarferwyr ystyried y canlynol.
Beth y dylem ei ddysgu a pham?
Sut y dylem ei ddysgu?
Sut y bydd hyn yn cefnogi ein dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben?
Dylai hyn fod yn sgwrs barhaus ar gyfer yr ysgol gyfan a thu hwnt, gan ymgysylltu â'r rhieni/gofalwyr a'r gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, academia a gwasanaethau cyhoeddus. Dylai hyn gael ei lywio gan werthoedd ac ethos yr ysgol, yn ogystal â'i lleoliad a'i hamgylchedd. Fodd bynnag, dylai ddefnyddio dull sy’n gyson â’r dysgu a nodir yn y cwricwlwm cenedlaethol.
Dylai hefyd ystyried, fel rhan annatod o'r broses o gynllunio cwricwlwm, sut y bydd asesu yn cefnogi'r weledigaeth hon ar gyfer eu cwricwlwm a'r dysgu y bydd yn ei gefnogi. Dylai ddarparu'r rhesymeg y bydd yr ysgol yn cyfeirio ati wrth geisio deall pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau fydd yn helpu'r dysgwyr i ddatblygu, a pham.
Dylai fod gan ysgolion ac ymarferwyr weledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sy’n:
cyfrannu at allu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben ac i feithrin y sgiliau cyfannol sy'n sail i’r dibenion
helpu i ddatblygu ymdeimlad eu dysgwyr o hunaniaeth yng Nghymru
eang ac yn gytbwys
briodol ar gyfer eu dysgwyr, o ran eu hoedran, eu galluoedd a'u doniau
galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol ar hyd y continwwm dysgu
ymgorffori cyfleoedd i gymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol
ymgorffori asesu er mwyn i ddysgwyr wneud cynnydd
gwrando ar lais y dysgwr ac yn ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn dysgwyr
bodloni gofynion cwricwlwm
Dylai’r pedwar diben fod yn ddyhead ac yn nod terfynol ar gyfer y cwricwlwm a gynllunir gan ysgolion. Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol yw cefnogi ei dysgwyr i ddod yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Bydd ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ddatblygu yn:
ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n:
gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain ac yn chwilio am heriau ac yn eu mwynhau
datblygu corff o wybodaeth ac sydd â’r sgiliau sydd eu hangen i gysylltu’r wybodaeth honno a’i chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau
ymholgar ac yn mwynhau datrys problemau
gallu cyfathrebu’n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, drwy’r Gymraeg a’r Saesneg
gallu egluro’r syniadau a chysyniadau y maen nhw’n dysgu amdanyn nhw
gallu defnyddio rhif yn effeithiol mewn gwahanol gyd-destunau
deall sut i ddehongli data a chymhwyso cysyniadau mathemategol
defnyddio technolegau digidol yn greadigol i rannu gwybodaeth, dod o hyd iddi a’i dadansoddi
ymchwilio ac yn gwerthuso eu canfyddiadau’n feirniadol
ac sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n:
cysylltu ac yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau i greu syniadau a chynnyrch
meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau
adnabod cyfleoedd ac yn manteisio arnyn nhw
mentro’n bwyllog
arwain ac yn chwarae rolau gwahanol mewn timau’n effeithiol ac yn gyfrifol
mynegi syniadau ac emosiynau drwy wahanol gyfryngau
rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y bydd pobl eraill yn elwa
ac sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n:
canfod, yn gwerthuso ac yn defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio barn
trafod materion cyfoes ar sail eu gwybodaeth a'u gwerthoedd
deall ac yn arfer eu cyfrifoldebau a'u hawliau dynol a democrataidd
deall ac yn ystyried effaith eu gweithredoedd wrth ddewis a gweithredu
wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol
parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
dangos eu hymrwymiad i sicrhau cynaladwyedd y blaned
ac sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
yn unigolion iach, hyderus sydd:
â gwerthoedd sicr ac sy’n sefydlu eu credoau ysbrydol ac egwyddorol
yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, cadernid ac empathi
yn cymhwyso gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd
yn gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen i gadw’n ddiogel ac iach
yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol
yn gwneud penderfyniadau pwyllog ynghylch eu ffordd o fyw ac yn rheoli risg
â’r hyder sydd ei angen i gymryd rhan mewn perfformiadau
yn ffurfio cydberthnasau cadarnhaol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd
yn wynebu heriau ac yn eu goresgyn
â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallan nhw
ac sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Wrth ddatblygu eu gweledigaeth i'w cwricwlwm, dylai ysgolion ac ymarferwyr ystyried yr hyn y mae'r pedwar diben yn ei olygu ar gyfer eu dysgwyr a sut y bydd eu cwricwlwm yn cefnogi eu dysgwyr i'w gwireddu. Yna, dylai eu gweledigaeth – a'r pedwar diben yn ehangach – lywio'r broses o gynllunio’r cwricwlwm ac asesu. Bydd hyn yn cynnwys datblygu eu dull o wneud penderfyniadau am gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer yr ysgol gyfan.
Wrth i ysgolion ddatblygu eu gweledigaeth i gefnogi eu dysgwyr i gyflawni'r pedwar diben, dylai llais y dysgwr fod yn ganolog i'r gwaith hwn. Dylai mewnbwn dysgwyr fod yn ystyriaeth bwysig gydol y broses gynllunio.
Mae sgiliau cyfannol yn sail i’r pedwar diben a dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu. Wrth wraidd y sgiliau hyn y mae pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn cydnabod, yn defnyddio ac yn creu gwerth o wahanol fathau. Yn y cyd-destun hwn, mae gwerth yn golygu pwysigrwydd mewn ystod o gyd-destunau, gan gynnwys gwerth ariannol, diwylliannol, cymdeithasol ac o ran dysgu.
Nodir y sgiliau hyn isod.
Dylid rhoi lle i ddysgwyr fod yn chwilfrydig ac yn ymholgar, ac i greu llawer o syniadau. Dylen nhw gael eu cefnogi i gysylltu gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau, a gweld, archwilio a chyfiawnhau datrysiadau amgen. Dylen nhw allu adnabod cyfleoedd a chyfleu eu strategaethau. Dylai hyn gefnogi dysgwyr i greu gwerth o wahanol fathau.
Dylai dysgwyr gael eu cefnogi i ofyn cwestiynau ystyrlon, ac i werthuso gwybodaeth, tystiolaeth a sefyllfaoedd. Dylen nhw allu dadansoddi a chyfiawnhau datrysiadau posibl, gan adnabod materion a phroblemau posibl. Dylai dysgwyr ddod yn wrthrychol wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau, gan adnabod a datblygu dadleuon. Dylen nhw allu cynnig datrysiadau sy'n creu gwerth o wahanol fathau.
Dylai dysgwyr feithrin deallusrwydd ac ymwybyddiaeth emosiynol, gan ddod yn hyderus ac yn annibynnol. Dylen nhw gael cyfleoedd i arwain dadleuon a thrafodaethau, gan ddod yn ymwybodol o oblygiadau cymdeithasol, diwylliannol, egwyddorol a chyfreithiol eu dadleuon. Dylen nhw allu gwerthuso eu dysgu a'u camgymeriadau, gan adnabod meysydd i'w datblygu. Dylen nhw ddod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy, gan allu adnabod a chydnabod gwerth o wahanol fathau ac yna ddefnyddio'r gwerth hwnnw.
Lle y bo'n ddatblygiadol briodol, dylai dysgwyr allu gosod nodau, gwneud penderfyniadau a monitro canlyniadau interim. Dylen nhw allu myfyrio ac addasu, yn ogystal â rheoli amser, pobl ac adnoddau. Dylen nhw allu gwirio cywirdeb a chreu gwerth o wahanol fathau.
Drwy feithrin y sgiliau hyn, bydd dysgwyr yn gallu gweithio ar draws disgyblaethau, gan roi cyfleoedd iddyn nhw syntheseiddio a dadansoddi. Mae potensial penodol i arloesi wrth wneud a defnyddio cysylltiadau rhwng gwahanol ddisgyblaethau a Meysydd.
Wrth feithrin y sgiliau hyn, dylai dysgwyr:
feithrin gwerthfawrogiad o ddatblygu cynaladwy a'r heriau sy'n wynebu dynoliaeth
meithrin ymwybyddiaeth o ddatblygiadau technolegol sy'n dod i'r amlwg
cael eu cefnogi a'u herio er mwyn iddyn nhw fod yn barod i fodloni'r galwadau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn sefyllfaoedd ansicr yn hyderus, wrth i gyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang arwain at heriau newydd a chyfleoedd i lwyddo
cael lle i ddatblygu syniadau creadigol a gwerthuso dewisiadau amgen mewn modd beirniadol. Mewn byd sy'n newid yn gyson, bydd hyblygrwydd a'r gallu i ddatblygu mwy o syniadau yn galluogi dysgwyr i ystyried ystod ehangach o datrysiadau amgen pan fydd pethau'n newid
meithrin eu gwydnwch a datblygu strategaethau a fydd yn eu helpu i reoli eu lles. Dylen nhw fod yn cael profiadau lle y gallan nhw ymateb yn gadarnhaol yn wyneb heriau, ansicrwydd neu fethiant
dysgu i weithio'n effeithiol gydag eraill, gan werthfawrogi'r gwahanol gyfraniadau y maen nhw eu hunain ac eraill yn eu gwneud. Dylen nhw hefyd ddechrau cydnabod cyfyngiadau eu gwaith eu hunain a chyfyngiadau pobl eraill wrth iddyn nhw feithrin dealltwriaeth o'r ffordd y mae gwahanol bobl yn chwarae gwahanol rolau mewn tîm
Yn hytrach na chynllunio ar gyfer y sgiliau hyn ar wahân, dylai’r ysgol gyfan ymroi i ymwneud ag ymgorffori'r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm. Felly, bydd datblygu ac atgyfnerthu'r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm yn gyfrifoldeb ar bob ymarferydd ym mhob Maes, a nid dim ond ymarferwyr sy’n arbenigo ym mathemateg, iaith a chyfrifiadureg.
Mae fersiynau wedi’u diweddaru o'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cyd-fynd â'r canllawiau hyn ac yn gyson â nhw. Maen nhw’n darparu canllawiau ategol i bob ymarferydd, ym mhob Maes, er mwyn sicrhau y cynigir cyfleoedd i feithrin y sgiliau mandadol hyn. Maen nhw’n cyflwyno dull gweithredu cyffredin, gan gefnogi ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd unigryw aml i ddatblygu, ymestyn a chymhwyso'r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn.
Mae egwyddorion cynnydd ar gyfer pob Maes i'w gweld yn:
Mae’r Fframwaith yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a'i hamrywiaeth, ei hieithoedd a'i gwerthoedd, hanes a thraddodiadau ei chymunedau a'i holl bobl.
Mae annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o angerdd a balchder yn eu hunain, eu cymunedau a'u gwlad yn ganolog i'r pedwar diben. Dylai dysgwyr gael eu trwytho yn nealltwriaeth o'r hunaniaethau, y tirluniau a'r gwahanol hanes sy'n dod at ei gilydd i ffurfio'u 'cynefin'. Bydd hyn nid yn unig yn eu galluogi i feithrin ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth a'u lles eu hunain, ond hefyd yn eu galluogi i feithrin dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill a chreu cysylltiadau â phobl, lleoedd a hanes mewn mannau eraill yng Nghymru a ledled y byd.
Mae'n bwysig bod hyn yn gynhwysol ac yn tynnu ar brofiadau, safbwyntiau a threftadaeth ddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae bod â hyder yn eu hunaniaeth yn helpu dysgwyr i werthfawrogi’r cyfraniad y gallan nhw ac eraill ei wneud yn eu cymunedau ac i ddatblygu ac archwilio eu hymatebion i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
Mae hefyd yn eu helpu i archwilio, creu cysylltiadau a meithrin dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol. Mae hyn hefyd yn cydnabod nad yw Cymru, fel unrhyw gymdeithas arall, yn unffurf, ond ei bod yn hytrach yn gyfuniad o werthoedd, safbwyntiau, diwylliannau a hanes sy'n cynnwys pawb sy'n byw yng Nghymru. Nid yw'r cynefin hwn yn un lleol yn unig; mae'n gosod sail ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol. Ceir rhagor o ganllawiau ar ddatblygu'r cyd-destun Cymreig mewn dysgu yn yr adran ar gyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae’r Fframwaith hefyd yn adlewyrchu ein cenedl ddwyieithog. Dylai fod llwybrau ar gael i bob dysgwr ddysgu Cymraeg a Saesneg er mwyn eu galluogi i fagu'r hyder i ddefnyddio’r ddwy iaith mewn bywyd bob dydd. Mae cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt (gan gynnwys ar blatfformau digidol) yn cefnogi dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus a gwerthfawrogi pa mor ddefnyddiol ydyw er mwyn cyfathrebu mewn Cymru ddwyieithog. Mae bod yn ddwyieithog (o leiaf) yn fwy na sgil cyfathrebu. Gall mynediad at y ddwy iaith helpu i agor y drws i lenyddiaeth, daearyddiaeth, democratiaeth, hanes a diwylliant cyfoethog ac unigryw Cymru. Mae meddu ar wybodaeth, profiad a dealltwriaeth o'r rhain yn cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion gweithredol a llwyddiannus yn y Gymru gyfoes.
Mae datblygu rhwyddineb a gallu dysgwyr i weithio mewn dwy iaith hefyd yn cynnig sail gadarn i ddysgwyr ymgysylltu â'r gwahanol ieithoedd y byddan nhw’n dod i gysylltiad â nhw, gan ddatblygu dysgu mewn ieithoedd eraill wrth iddyn nhw wneud cynnydd. Dylai ysgolion ddarparu amgylcheddau iaith cyfoethog i ddysgwyr, a dylai tasgau darllen, gwrando, siarad ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm fod yn ddatblygiadol briodol.
Mae'r Siarter Iaith yn fframwaith cenedlaethol i bob lleoliad ac ysgol sy'n darparu sail holistaidd ar gyfer cynllunio profiadau ar draws y cwricwlwm er mwyn cynyddu defnydd dysgwyr o'r Gymraeg a magu eu hyder yn yr iaith o oedran ifanc.
Mae asesu yn rhan annatod o'r broses ddysgu, gydag ymarferwyr yn gweithio gyda dysgwyr er mwyn helpu i adnabod eu cryfderau, meysydd iddyn nhw eu datblygu a'u camau dysgu nesaf. Wrth ddylunio trefniadau asesu fel rhan o gwricwlwm ysgol, dylid dilyn yr egwyddorion arweiniol canlynol.
Diben asesu yw cefnogi cynnydd pob dysgwr unigol mewn perthynas â'r continwwm 3 i 16.
Mae dysgwyr wrth wraidd y broses asesu a dylen nhw gael eu cefnogi i gymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu.
Mae asesu yn broses barhaus sy’n rhan naturiol o ddysgu ac addysgu.
Mae dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, wedi'i meithrin drwy ddeialog proffesiynol, yn rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cwricwlwm a gwella dysgu ac addysgu.
Dylai dysgu ar draws ehangder y cwricwlwm fanteisio ar ystod eang o ddulliau asesu, gan greu darlun holistiaidd o ddatblygiad dysgwr.
Mae ymgysylltiad rhwng y dysgwyr, eu rhieni/gofalwyr a'r ymarferwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd a lles.
Diben cyffredinol asesu yw cefnogi pob dysgwyr i wneud cynnydd. Wrth gynllunio, a darparu profiadau dysgu, dylai ysgolion ac ymarferwyr fod yn glir ynghylch rôl benodol pob asesiad a gynhelir ac at ba ddiben y defnyddir y ddealltwriaeth a geir yn sgil yr asesiad, a pham. Yn hyn o beth, mae asesu yn chwarae tair prif rôl wrth gefnogi cynnydd dysgwyr.
Dylai'r broses asesu ganolbwyntio ar adnabod cryfderau pob dysgwr unigol, ei gyflawniadau, ei meysydd i'w datblygu a, lle y bo'n briodol, dylai ystyried unrhyw rwystrau i ddysgu. Dylai ymarferwyr ddefnyddio'r ddealltwriaeth hon, mewn trafodaeth â'r dysgwr, i benderfynu ar y camau nesaf sydd eu hangen er mwyn datblygu'r dysgu, gan gynnwys unrhyw heriau ychwanegol neu unrhyw gymorth sydd ei angen. Dylid cyflawni hyn drwy ymgorffori asesu fel rhan o'i ymarfer mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb y dysgwr ac sy'n golygu ei fod yn rhan naturiol o ddysgu ac addysgu. Mae hyn yn galluogi'r ymarferydd i ymateb i anghenion unigol yr holl ddysgwyr yn ei ystafell ddosbarth yn barhaus.
Dylai'r broses asesu helpu ymarferwyr i adnabod y cynnydd a wneir gan ddysgwyr unigol, gan gofnodi hyn lle y bo'n briodol, er mwyn deall ei daith dros wahanol gyfnodau o amser ac mewn amrywiaeth o ffyrdd, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Mae hyn yn cynnwys meithrin dealltwriaeth o ‘sut’ y mae dysgwr wedi dysgu, yn ogystal â'r ‘hyn’ y mae wedi'i ddysgu ac yn gallu ei ddangos. Dylai myfyrio ar gynnydd dysgwr dros amser alluogi ymarferwyr i roi adborth a helpu i gynllunio ei ddysgu yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw ymyriadau, unrhyw gymorth ychwanegol neu her y gall fod eu hangen. Dylai hyn gynnwys y camau nesaf uniongyrchol a'r amcanion a'r nodau tymor-hwy y dylai'r dysgwr weithio tuag atyn nhw er mwyn ei helpu i barhau i symud ymlaen o ran ei ddysgu. Gellir defnyddio hyn hefyd fel sail ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni/gofalwyr.
Dylai'r broses asesu hefyd alluogi ymarferwyr ac arweinwyr yn yr ysgol i ddeall a yw gwahanol grwpiau o ddysgwyr yn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Dylid defnyddio hyn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yng nghwricwlwm yr ysgol a'r dull addysgu dyddiol, gan gynnwys ystyried sut y mae anghenion dysgwyr fel unigolion wedi cael eu diwallu.
I gael rhagor o fanylion, gweler Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu.
Dylai cwricwlwm ysgol godi dyheadau pob dysgwr. Dylai ystyried sut y caiff pob dysgwr ei gefnogi i gyflawni'r pedwar diben ac i wneud cynnydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i bob dysgwr chwarae rhan weithredol yn ei gymuned a'r gymdeithas ehangach, a ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth.
Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr wrth gynllunio eu cwricwlwm eu hunain, gan ystyried cyfle teg wrth roi cymorth ac ymyriadau ar waith neu wneud addasiadau rhesymol.
Datblygwyd y canllawiau hyn i gynnwys pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Bwriedir iddyn nhw hefyd gefnogi ysgolion i ddylunio cwricwla ysgol cynhwysol. Bydd dysgwr yn gwneud cynnydd ar hyd yr un continwwm dysgu o fewn pob Maes, o 3 i 16 oed. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddan nhw’n symud ar hyd y continwwm ar wahanol gyflymder – gan ganiatáu ar gyfer gwyro, ailadrodd a myfyrio wrth i ddealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau pob dysgwr ddatblygu dros amser. Gall ysgolion ac ymarferwyr arfer eu disgresiwn wrth gynllunio ar gyfer cynnydd, gan roi sylw dyledus i bob dysgwr yn eu lleoliad neu ysgol.
Mae rhoi ystyriaeth i ddysgwyr ag ADY yn hollbwysig yn hyn o beth a datblygwyd y canllawiau hyn gydag ymarferwyr ADY a gweithwyr proffesiynol arbenigol. Felly, dylen nhw gefnogi'r broses o gynllunio ar gyfer cynnydd i ddysgwyr ag ADY. Lle mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at ferfau penodol fel 'siarad', 'symud' neu 'greu', dylid eu dehongli yn unol ag anghenion y dysgwyr.
Dylai ysgolion gydnabod pwysigrwydd datblygiad proffesiynol i staff sy'n gyfrifol am ddysgwyr ag ADY ac sy'n gweithio gyda nhw. Dylid sicrhau bod cyfleoedd i ysgolion gydweithredu ag asiantaethau perthnasol a gweithwyr proffesiynol ehangach wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.
Dylai cwricwlwm ysgol hefyd ymestyn a herio dysgwyr mwy abl a thalentog a'u galluogi i symud ar hyd y continwwm dysgu ar gyflymder sy'n briodol iddyn nhw.
Rhan hanfodol o godi dyheadau i bob dysgwr a mynd i'r afael â bylchau o ran cyrhaeddiad yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i gyflawni'r pedwar diben drwy gwricwlwm eang a chytbwys gyda’r fframwaith cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys bylchau y mae cefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwahanol yn dylanwadu arnyn nhw, ond gallan nhw hefyd fod yn ehangach o lawer. Dylai hyn gael ei gefnogi gan ddarpariaeth sy'n ymateb i anghenion ac amgylchiadau penodol dysgwyr. Yn benodol, dylai hyn ystyried pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau y gall fod eu hangen ar ddysgwyr na fydden nhw fel arall yn cael cyfle i elwa arnyn nhw. Mae deall cynnydd grwp hefyd yn ffocws pwysig ar gyfer ysgolion er mwyn sicrhau bod eu cwricwlwm yn codi safonau ac yn helpu i wella cyflawniad i bawb. Nid yw'n ymwneud ag adroddiadau allanol, ond yn hytrach, mae'n ymwneud â sicrhau bod ysgolion ac ymarferwyr yn deall yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wybod am eu dysgwyr, a pha asiantaethau eraill y mae angen iddyn nhw weithio gyda nhw, er mwyn iddyn nhw oll wireddu eu llawn botensial, a nodi her a chymorth penodol y gall fod eu hangen ar grwpiau penodol.