Drwy'r elfennau hyn bydd dysgwyr yn dod i ddeall beth yw bod yn ddinesydd digidol cydwybodol sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at y byd digidol o'u cwmpas ac sy'n gwerthuso'n feirniadol eu lle o fewn y byd digidol hwn. Byddan nhw'n barod am agweddau cadarnhaol a negyddol o fod yn ddinesydd digidol a byddan nhw'n datblygu strategaethau a dulliau i'w helpu wrth iddyn nhw ddatblygu'n gynhyrchwyr ac yn ddefnyddwyr annibynnol.
Drwy'r elfennau hyn bydd dysgwyr yn edrych ar ddulliau cyfathrebu electronig ac yn gwybod pa rai sydd fwyaf effeithiol. Bydd dysgwyr hefyd yn storio data ac yn defnyddio technegau cydweithio yn llwyddiannus.
Mae'r elfennau hyn yn ymdrin â'r broses cylchol o gynllunio (gan gynnwys chwilio am wybodaeth a dod o hyd iddi), creu, gwerthuso a mireinio cynnwys digidol. Er y gall y broses hon fod yn gymwys i feysydd eraill y fframwaith, mae'n arbennig o bwysig wrth greu a chynhyrchu cynnwys digidol. Mae hefyd yn hanfodol cydnabod, fodd bynnag, y gall cynhyrchu cynnwys digidol fod yn broses greadigol iawn ac nid yw'n fwriad llesteirio creadigrwydd o'r fath. Mae cynnwys digidol yn cynnwys cynhyrchu testun, graffeg, sain, fideo ac unrhyw gyfuniad o'r rhain at amrywiaeth o ddibenion. Felly, bydd hyn yn cynnwys amryfal weithgareddau ar draws sawl cyd-destun gwahanol.
Mae meddwl cyfrifiadurol yn gyfuniad o ymholi gwyddonol, datrys problemau a sgiliau meddwl. Cyn i ddysgwyr allu defnyddio cyfrifiaduron i ddatrys problem, rhaid iddyn nhw yn gyntaf ddeall y broblem a'r dulliau o'i datrys.
Drwy'r elfennau hyn bydd dysgwyr yn deall pwysigrwydd llythrennedd gwybodaeth a data, a byddan nhw'n archwilio agweddau ar gasglu, cynrychioli a dadansoddi. Bydd dysgywr yn edrych ar sut mae data a gwybodaeth yn cysylltu i mewn i'n byd digidol a bydd yn rhoi iddyn nhw sgiliau hanfodol ar gyfer y gweithle modern, deinameg.