Rydyn ni am ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae’r Siarter Iaith i bawb a gall pob aelod o gymuned yr ysgol gymryd rhan, cyngor yr ysgol, dysgwyr, y gweithlu, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol berchnogaeth lawn ar eu Siarter Iaith. Gyda’n gilydd fe wnawn ni gynyddu defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.
Mae’r Siarter Iaith ar waith mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ledled Cymru. Yn ogystal mae rhaglenni eraill ar gyfer dysgwyr:
oedran uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg
sydd yn dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg (Cymraeg Campus)
oedran uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg (Cymraeg bob dydd)
Mae’r holiadur yn rhoi cyfle i ddysgwyr nodi sut maent yn defnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd gwahanol. Mae hefyd yn nodi eu hagweddau tuag at y Gymraeg. Bydd ysgolion yn defnyddio’r canlyniadau ar gyfer llunio cynllun gweithredu fydd yn cael ei greu i ymateb i’r gofynion a’r heriau sydd wedi eu hamlygu yn yr ymatebion.
Bydd y cynllun gweithredu yn gosod cyfres o dargedau i holl gymuned yr ysgol yn cynnwys:
dysgwyr
gweithlu
llywodraethwyr
rhieni neu ofalwyr
Bydd cyfnod o weithredu yn dilyn creu’r cynllun ac ar ddiwedd y cyfnod bydd pob dysgwr yn cwblhau’r holiadur unwaith eto. Ar sail y dystiolaeth a gesglir, mae’r ysgol yn olrhain cynnydd yn ystod y cyfnod.
Dyma’r dolenni ar gyfer holl holiaduron Siarter Iaith. Bydd angen i bawb fewngofnodi i’w cyfrifon Hwb er mwyn cael mynediad i’r holiadur. Cofiwch fewngofnodi i’r holiadur cywir ar gyfer eich ysgol a’ch blwyddyn chi.
Siarter Iaith Cynradd
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Cynradd Cymraeg Haf 2026 (ysgol gyfan)
Siarter Iaith Uwchradd
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd Cymraeg / Dwy ffrwd Haf 2026: blwyddyn 7
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd Cymraeg / Dwy ffrwd Haf 2026: blwyddyn 8
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd Cymraeg / Dwy ffrwd Haf 2026: blwyddyn 9
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd Cymraeg / Dwy ffrwd Haf 2026: blwyddyn 10
Holiadur Siarter Iaith Ysgolion Uwchradd Cymraeg / Dwy ffrwd Haf 2026: blwyddyn 11
Cymraeg Campus Cynradd
Cymraeg Campus Uwchradd
Holiadur Cymraeg Campus Uwchradd/Secondary Haf/Summer 2026: blwyddyn/year 7
Holiadur Cymraeg Campus Uwchradd/Secondary Haf/Summer 2026: blwyddyn/year 8
Holiadur Cymraeg Campus Uwchradd/Secondary Haf/Summer 2026: blwyddyn/year 9
Holiadur Cymraeg Campus Uwchradd/Secondary Haf/Summer 2026: blwyddyn/year 10
Holiadur Cymraeg Campus Uwchradd/Secondary Haf/Summer 2026: blwyddyn/year 11
Yn ystod 2019 i 2020 comisiynwyd gwerthusiad o’r Siarter Iaith er mwyn asesu sut mae’r Siarter Iaith, ynghyd â rhaglenni eraill cysylltiedig sy’n cefnogi defnydd anffurfiol o’r Gymraeg ymysg dysgwyr ysgol, yn cael ei gweithredu.
Fframwaith cenedlaethol ar gyfer y Siarter Iaith
Bwriad y ddogfen yw rhoi fframwaith cenedlaethol i raglen y Siarter Iaith er mwyn cynorthwyo ymarferwyr a rhanddeiliaid gyda chynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.
Mae nifer o adnoddau y Siarter Iaith wedi eu cadw yn y ddau rwydwaith Siarter Iaith sydd ar Hwb.
Er mwyn cael mynediad i’r rhwydweithiau hyn, mae rhaid bod yn aelod ohonynt.