Dylai'r weledigaeth a ddatblygwyd gan ysgolion lywio cynllun eu cwricwlwm.
Mae'r canllawiau hyn yn pennu y dylai cwricwlwm hefyd:
ddarparu dysgu eang, gan dynnu ystod o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau ynghyd ar draws ystod o gyd-destunau, testunau a gweithgareddau, gan greu cysylltiadau ar draws Meysydd
dros amser, darparu ar gyfer dysgu cynyddol ddwfn a soffistigedig
bod yn ddatblygiadol briodol ac ysgogi cynnydd dysgwyr
cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyried elfennau trawsgwricwlaidd, sy’n:
galluogi dysgwyr i ystyried cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
meithrin dealltwriaeth o addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith
meithrin dealltwriaeth o addysg hawliau dynol ac amrywiaeth
Mae pob elfen o'r canllawiau hyn o fewn y Meysydd wedi'i datblygu i gefnogi'r broses o ddewis cynnwys cwricwlwm, sef:
datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
disgrifiadau dysgu
egwyddorion cynnydd
Mae’r disgrifiadau dysgu yn rhoi canllawiau ar sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig ar eu taith ar hyd y continwwm dysgu. Caiff y rhain eu trefnu mewn pum cam cynnydd sy'n rhoi pwyntiau cyfeirio ar gyfer cyflymder y cynnydd hwnnw. Caiff y disgwyliadau hyn eu mynegi o safbwynt y dysgwr ac maen nhw’n eu fframio'n eang fel bod modd iddyn nhw gynnal y dysgu dros gyfres o flynyddoedd. Nid ydyn nhw wedi'u dylunio i fod yn dasgau, yn weithgareddau nac yn feini prawf asesu annibynnol. Er mai'r un yw'r continwwm dysgu i bob dysgwr, mae'n bosibl y byddan nhw’n gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol. O ganlyniad, dim ond cysylltiad bras sydd rhwng y camau cynnydd ac oedran. Yn fras, maen nhw’n cyfateb i ddisgwyliadau ar gyfer dysgwyr 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.
Mae'r disgrifiadau dysgu wedi'u llunio i gynnal y dysgu dros gyfnod o flynyddoedd ac mae hyn yn rhoi cwmpas i ymarferwyr eu defnyddio i ddewis cynnwys sy'n darparu dysgu eang a dwfn.
Dylai ymarferwyr ddefnyddio’r disgrifiadau dysgu i ddod ag ystod eang o brofiadau, gwybodaeth a sgiliau ynghyd. Dylid eu harchwilio drwy amrywiaeth o gyd-destunau, testunau a gweithgareddau a ddewisir yn ystod y broses o gynllunio cwricwlwm. Dylai hyn hefyd olygu creu cysylltiadau rhwng Meysydd fel sy'n briodol.
Dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i ymgysylltu â disgrifiadau dysgu mewn modd cynyddol ddwfn a soffistigedig dros gyfnod o amser. Dylai hyn helpu dysgwyr i gymhwyso'r disgrifiadau dysgu mewn cyd-destunau cynyddol heriol a chaniatáu ar gyfer gwyro, atgyfnerthu a myfyrio wrth i ddealltwriaeth a defnydd dysgwyr o'r dysgu allweddol ddatblygu a dod yn fwy soffistigedig dros amser, gan ysgogi meddwl, trafodaeth ac ymholi manwl.
Lle mae'r dysgu yn gorgyffwrdd, mae'r disgrifiadau dysgu wedi'u llunio i gael eu hystyried drwy ystod o wahanol safbwyntiau disgyblaethol gwahanol, a dylai ymarferwyr geisio cynnwys y safbwyntiau disgyblaethol hyn yn y dysgu. Wrth i'r dysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw gael mwy o gyfleoedd i arbenigo a dylai cyd-destunau disgyblaethol y disgrifiadau dysgu ddod yn gynyddol amlwg yng nghynllun y cwricwlwm. Mewn rhai Meysydd, daw disgyblaethau'n fwy amlwg yn y disgrifiadau dysgu eu hunain tuag at ddiwedd y continwwm, wrth i hanfod y dysgu mewn Maes ddod yn fwy arbenigol.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu i gefnogi dulliau sy'n tynnu gwahanol ddisgyblaethau ynghyd wrth gynllunio cwricwlwm – o fewn ac ar draws y Meysydd. Mae hyn yn rhoi profiad dysgu mwy cydlynol i ddysgwyr, wrth iddyn nhw geisio creu cysylltiadau ystyrlon rhwng y gwahanol bethau y maen nhw’n eu dysgu. Yn hyn o beth, gall cyfuno ystod o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn gwahanol Feysydd ganiatáu i ddysgwyr ystyried cynnwys cwricwlwm o ystod o safbwyntiau a disgyblaethau. Mae'r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig eu hunain a, lle y bo'n briodol, y disgrifiadau dysgu, wedi'u dylunio i hwyluso dull gweithredu o'r fath. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i gysylltu ac atgyfnerthu eu dysgu ar draws y gwahanol ddisgyblaethau.
Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylen nhw gael mwy o gyfleoedd i ymgysylltu â gwahanol ddisgyblaethau ac arbenigo ynddyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n cyrraedd y camau cynnydd diweddarach. Fodd bynnag, dylai hyn fod yn broses esblygol, gyda dysgwyr yn cael mwy o gyfleoedd i arbenigo yn raddol. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, dylai'r broses hon gael ei chefnogi gan addysgu sy'n arbenigol o ran disgyblaeth, a ddylai, ynghyd â'r dull amlddisgyblaethol o gynllunio cwricwlwm, baratoi dysgwyr sy'n bwriadu arbenigo ymhellach mewn addysg ôl-16. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen arbenigwyr i addysgu ac arbenigwyr i gynllunio.
Er y dylid cynnig cyfleoedd i ddysgwyr arbenigo, mae'n rhaid i'r cwricwlwm barhau'n eang ac yn gytbwys a dylai pob dysgwr barhau i fanteisio ar ddysgu o bob Maes drwy gydol ei amser mewn addysg orfodol. Disgwylir i ysgolion alluogi pob dysgwr i ddilyn ystod o gyrsiau astudio ac ennill cymwysterau addas ar ddiwedd addysg orfodol.