Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir am ei fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny. At ddefnydd y canlynol y mae yn bennaf:
arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar yng Nghymru
athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu'r rhai mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy'n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg gynnar
sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir nad ydyn nhw’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ond y mae'n ofynnol, o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, iddyn nhw ymarfer yn unol â gofynion statudol y cwricwlwm
Wrth gyflawni dyletswydd statudol Llywodraeth Cymru, mae'r cwricwlwm hwn yn bodloni'r gofynion canlynol:
mae’n galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y cwricwlwm
mae'n eang ac yn gytbwys
mae’n addas ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
mae'n darparu llwybr cynnydd priodol i bob dysgwr
Mae'r cwricwlwm hwn hefyd yn:
cwmpasu’r chwe maes dysgu a phrofiad
cwmpasu'r 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig
adlewyrchu egwyddorion cynnydd
cwmpasu elfennau gorfodol y cwricwlwm, gan gynnwys y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
Dylai lleoliadau sy'n dewis mabwysiadu'r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol er mwyn sicrhau cwricwlwm sy'n briodol yn ddatblygiadol ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf.
Er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau ymarferwyr wrth weithredu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu, rydym wedi datblygu 2 set o fodiwlau dysgu.
Mae'r adnodd dysgu proffesiynol: cefnogaeth dysgu sylfaen i ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau yn canolbwyntio ar:
dysgu yn yr awyr agored
datblygiad plant
cyfnodau pontio
arsylwi
chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae
dysgu dilys a phwrpasol
Mae'r adnodd dysgu proffesiynol: cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn canolbwyntio ar:
deall Cwricwlwm i Gymru a datblygiad cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir
deall y pum llwybr datblygu ac addysgeg
datblygiad sgematig: sylwi ar y patrymau ymddygiad ailadroddus mewn chwarae plant a’u cefnogi
arweinyddiaeth mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir
Os hoffech fersiwn testun plaen o’r ddogfen hon, cysylltwch â CwricwlwmiGymru@llyw.cymru