Mae rhwydweithio di-wifr yn hollbwysig er mwyn cefnogi dysgu ac i alluogi profiadau digidol cyfoethog ar draws yr ysgol. Mae cysylltiad dibynadwy â gwasanaeth di-wifr yn caniatáu i ddysgu ac addysgu ddigwydd y tu hwnt i ystafelloedd TG traddodiadol, ac i gynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyffredin ac ardaloedd cydweithredol.
Rhaid i bwyntiau mynediad di-wifr (AP) gael eu gosod mewn lleoedd hawdd i’w cyrraedd, lle gellir gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn ddiogel. Rhaid i osodiadau gydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a rheoliadau adeiladu perthnasol. Dylai ysgolion sicrhau bod darpariaeth rhwydweithio di-wifr yn cefnogi eu huchelgeisiau dysgu digidol ac yn cael ei gynllunio fel rhan o ddull strategol, hirdymor.
I gael y cyngor diweddaraf ar ystyriaethau iechyd sy'n ymwneud â rhwydweithiau di-wifr, cyfeiriwch at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dylai rhwydwaith di-wifr yr ysgol gael ei reoli (gan gynnwys ei osod, ei leoli, ei ffurfweddu, ei fonitro, a’i gynnal) gan bartner cymorth technoleg addysg priodol, megis yr awdurdod lleol neu ddarparwr gwasanaeth technoleg addysg dynodedig. Mae’n rhaid i ysgolion gynnal rhwydwaith ddi-wifr sy’n gallu ymdopi â datblygiadau newydd a nifer gynyddol o ddyfeisiau dros amser.
Mae rheoli’r amgylchedd di-wifr yn effeithiol yn caniatáu i ni fonitro perfformiad yn barhaus, cyflwyno diweddariadau yn effeithlon, a datrys problemau yn gynt, gan gryfhau dibynadwyedd a diogelu.
Dylai cynllun digidol yr ysgol ystyried cylch oes pob cydran o’r rhwydwaith di-wifr. Dylid cynnwys darpariaethau cyllideb i gefnogi gwaith adnewyddu prydlon ac i sicrhau bod offer yn cael ei gefnogi ac yn ddiogel trwy gydol ei oes weithredol.
Dylai pwyntiau mynediad di-wifr gael eu gosod yn ofalus er mwyn darparu gwasanaeth di-wifr dibynadwy ym mhob ardal ddysgu ac addysgu allweddol, gan gynnwys mannau lle mae nifer fawr o ddyfeisiau yn gweithredu ar yr un pryd. Dylai ysgolion weithio gyda'u partner cymorth technoleg addysg i gynnal arolygon rheolaidd o’r gwasanaeth di-wifr er mwyn cyfyngu ar ymyriant ac i benderfynu ar y lleoliad, dwysedd, a chyfluniad gorau posibl o ran pwyntiau mynediad.
Rhaid gosod pob pwynt mynediad yn unol â chanllawiau'r gwneuthurwr a rhaid iddynt fod yn hygyrch ar gyfer gwaith cynnal a chadw a chefnogaeth.
Wrth eu gosod, rhaid cydymffurfio â’r safon seilwaith rhwydwaithr mwyn cynnal uniondeb, diogelwch, a pherfformiad ar draws yr amgylchedd rhwydweithio ehangach.
Rhaid gosod pwyntiau mynediad gyda’r nod o leihau ymyriant ffisegol a chynnal cysylltedd di-wifr sefydlog ar draws yr ysgol. Ni ddylid rhoi rhwystrau o gwmpas y pwyntiau mynediad, e.e. bocs neu gawell, na'u rhoi lle nad oes llif aer neu mewn lle sy’n cyfyngu ar y signal. Gall gosod pwyntiau mynediad mewn lleoedd cyfyngedig niweidio perfformiad, arwain at wasanaeth anghyson, a tharfu ar ddysgu ac addysgu.
Dylai pwyntiau mynediad sy’n cael eu gosod uwchben nenfydau ffug fod wedi’u hardystio a’u dylunio’n benodol ar gyfer lleoliad o’r fath. Bydd hyn yn sicrhau bod perfformiad signal, gofynion diogelwch a chanllawiau'r gwneuthurwr yn cael eu cynnal.
Rhaid adolygu lleoliadau’r pwyntiau mynediad yn rheolaidd, mewn partneriaeth â phartner cymorth technoleg addysg yr ysgol, er mwyn sicrhau nad yw newidiadau amgylcheddol, megis addasiadau i’r adeilad, offer newydd neu gynlluniau dodrefn, yn achosi ymyriant ffisegol newydd.
Dylai ysgolion gydweithio â'u partner cymorth technoleg addysg i sicrhau bod eu seilwaith di-wifr yn parhau i fod yn fodern a diogel, a’i fod yn cyd-fynd â safonau cyfredol y diwydiant. Dylai pob pwynt mynediad gefnogi protocolau di-wifr cyfredol a dylai barhau i allu bodloni gofynion dysgu digidol wrth iddynt esblygu.
Dylid cynllunio cylch ar gyfer adolygu cydrannau di-wifr, gan ystyried tueddiadau dyfeisiau, diweddariadau gan y gwneuthurwr, a gallu’r ceblau a seilwaith switsio sylfaenol wrth wneud gwelliannau.
Dylai ystâd ddi-wifr fodern ddarparu gwell diogelwch trwy fabwysiadu’r safonau amgryptio diweddaraf, a dylai roi gwell cefnogaeth i weithgareddau sydd yn defnyddio llawer o’r lled band a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a realiti estynedig a rhithwir. Mae cynnal y llif data gorau posibl a chyfyngu ar oedi yn galluogi profiadau dysgu digidol ymatebol ac o ansawdd uchel i ddysgwyr a staff.
Lle bo hynny’n briodol, dylid defnyddio technolegau Ansawdd Gwasanaeth (QoS) i flaenoriaethu gweithgareddau dysgu ac addysgu hanfodol, megis asesiadau digidol, yn ogystal â gwasanaethau busnes hanfodol, megis teleffoni. Er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o led band yn ystod y diwrnod ysgol, dylid trefnu diweddariadau dyfeisiau i gael eu gweithredu y tu allan i oriau addysgu a defnyddio storfa leol (caching) yn unol â Safon Rheoli Dyfeisiau F6.
Dylai cynlluniau cylch oes ar gyfer cydrannau di-wifr gael eu hymgorffori yn strategaeth ddigidol yr ysgol, gan sicrhau gwaith adnewyddu amserol a chydymffurfiaeth barhaus â safonau perthnasol eraill.
Dylai ysgolion sicrhau bod mynediad i rwydweithiau di-wifr yn cael ei ddarparu trwy ddilysiad seiliedig ar dystysgrif, lle mae hyn yn bosibl yn dechnegol ac yn briodol i seilwaith a chapasiti’r ysgol.
Mae dilysu seiliedig ar dystysgrifau, pan fydd y systemau presennol yn cefnogi hynny, yn cryfhau diogelwch rhwydwaith ac yn gwella amddiffyniad data personol a sensitif. Yn wahanol i ddulliau sy'n seiliedig ar gyfrineiriau, mae'r dull hwn yn dilysu dyfeisiau unigol, gan leihau'r risg o fynediad anawdurdodedig a chyfyngu ar effaith manylion mewngofnodi’n cael eu rhannu neu rai sydd yn anniogel. Mae hefyd yn cefnogi rheolaeth well a mwy cynaliadwy o fynediad di-wifr dros amser.
Mae dilysu ar sail tystysgrif yn cyd-fynd â disgwyliadau uchel o ran diogelu data, ac ar ôl ei sefydlu gall symleiddio’r gwaith o reoli mynediad mewn amgylcheddau addysgol modern. Pan gaiff ei weithredu, dylai partner cymorth technoleg addysg yr ysgol ffurfweddu a goruchwylio’r datrysiad er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn effeithiol a diogel, a’i fod yn parhau i gydymffurfio â gofynion diogelu a diogelwch gwybodaeth.
Mae Seilwaith Allwedd Gyhoeddus (PKI) yn cefnogi dilysu seiliedig ar dystysgrifau trwy alluogi i dystysgrifau digidol gael eu cyhoeddi a’u gwirio, ac i’w cylchoedd oes gael eu rheoli. Trwy PKI, gall ysgolion gyfyngu mynediad at y gwasanaeth di-wifr i ddyfeisiau dibynadwy sydd wedi’u gwirio, gan ddarparu'r sicrwydd cryptograffig sy’n angenrheidiol wrth fodloni disgwyliadau cenedlaethol.
Dylai ysgolion sicrhau bod eu rhwydweithiau di-wifr yn cael eu segmentu'n briodol i ddarparu mynediad diogel i ddefnyddwyr lleol, gwesteion a grwpiau gwasanaeth eraill. Dylid gweithredu rhwydwaith bwrpasol ar gyfer gwesteion er mwyn caniatáu i ymwelwyr gael mynediad i'r rhyngrwyd heb beryglu diogelwch y rhwydwaith ysgol sy’n cael ei ddefnyddio gan ddysgwyr a staff. Mae'r gwahaniad hwn yn helpu i gynnal uniondeb systemau gweithredol ac yn cefnogi amgylchedd dysgu digidol diogel.
Mae gweithredu rhwydwaith ardal leol rhithwir (VLAN) ar wahân ar gyfer gwesteion a dyfeisiau’r rhyngrwyd pethau (IoT), e.e. systemau teledu cylch cyfyng, synwyryddion amgylcheddol neu offer rheoli busnes, yn cryfhau diogelwch y rhwydwaith ac yn helpu i ddiogelu data sensitif. Mae segmentu sy'n seiliedig ar VLAN yn cefnogi gwaith monitro effeithiol, yn lleihau'r risg o fynediad heb awdurdod, ac yn sicrhau mai dim ond at y gwasanaethau sy'n briodol i'w rôl neu swyddogaeth y gall defnyddwyr a dyfeisiau gael mynediad.
Mae'r dull strwythuredig hwn o segmentu’r rhwydwaith yn cefnogi cydymffurfiaeth â gofynion diogelu data, yn gwella diogelwch cyffredinol ac yn sicrhau bod systemau addysgol, gweinyddol a sector cyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel ac yn weithredol.
Dylai mynediad at rwydweithiau di-wifr gydymffurfio â pholisi defnydd derbyniol yr ysgol (AUP) a'r holl bolisïau diogelu perthnasol. Rhaid i bob defnyddiwr ddilyn y polisi defnydd derbyniol, sy'n nodi defnydd priodol, diogel a chyfrifol o adnoddau digidol a gwasanaethau rhwydwaith.
Dylai ysgolion reoli mynediad di-wifr mewn ffordd sy'n cefnogi gofynion amddiffyn, diogelwch a diogelu data ehangach. Dylid ffurfweddu rheolaethau mynediad di-wifr, dulliau dilysu a chaniatâd defnyddwyr er mwyn sicrhau mai dim ond at adnoddau sy’n briodol i’w rôl y gall dysgwyr, staff ac ymwelwyr gael mynediad, yn unol â pholisïau sefydledig yr ysgol. Lle bo’n briodol, dylid gosod cyfyngiad amser ar fynediad er mwyn gallu cynnal adolygiadau rheolaidd o ganiatâd mynediad.
Mae rhagor o fanylion am fesurau hidlo, monitro a diogelu ar gael yn y safon hidlo cynnwys y we a diogelu ar-lein a’r canllawiau ar Canllawiau ar gynllunio a rheoli technoleg ddigidol mewn ysgolion.