Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Rhan o Safonau digidol addysg

Gan fod ysgolion yn dibynnu mwy a mwy ar dechnolegau digidol, mae'n hanfodol bod eu rhwydweithiau, eu systemau a'u data yn ddiogel. Mae sicrhau bod rhwydweithiau a data yn cael eu diogelu’n effeithiol yn amddiffyn gwybodaeth sensitif, yn lleihau'r risg o ymosodiadau seiber ac yn cefnogi'r defnydd diogel a dibynadwy o offer digidol yn ystod dysgu, addysgu a gweithrediadau ysgol.

Mae'r safon hon yn nodi'r gofynion ar gyfer diogelu amgylchedd digidol yr ysgol. Mae'n cefnogi ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau diogelu data a diogelu, i leihau risgiau seiberd diogelwch ac i sicrhau parhad gwasanaethau addysg. Mae'n cyd-fynd â chanllawiau seiberddiogelwch cenedlaethol cydnabyddedig ac yn cwmpasu meysydd allweddol megis amddiffyniadau seiber, monitro rhwydweithiau, ymateb i ddigwyddiadau, rheoli dyfeisiau, rheoli mynediad defnyddwyr a defnyddio technolegau symudol yn ddiogel.

Mae'r gofynion hyn yn berthnasol i bob ysgol, waeth pa gefnogaeth a roddir i’w systemau digidol. Fel arfer, mae’r ysgolion sy'n cael eu gwasanaethau gan eu hawdurdod lleol yn elwa o gael mesurau diogelwch ehangach ac integredig, a dylent gael cadarnhad o’r rhain yn ystod adolygiadau gwasanaeth rheolaidd. Os nad yw ysgol yn defnyddio gwasanaethau eu hawdurdod lleol, dylent sicrhau eu bod nhw, neu eu partner cymorth technoleg addysg dewisol, yn gallu bodloni disgwyliadau’r safon hon.

Nid yw'r safon hon yn cynnwys manylion technegol dwfn, gan mai timau’r awdurdod lleol neu bartneriaid cymorth technoleg addysg cymeradwy ddylai gefnogi gweithrediad technegol. Dylai ysgolion geisio cymorth gan y partneriaid hyn pan fo angen mewnbwn technegol arbenigol.

AB1: mae gan ysgolion, mewn cydweithrediad â'u hawdurdod lleol, strategaeth ar gyfer rheoli diogelwch rhwydweithiau a data

Mae'r risg o ymosodiadau seiber sy’n targedu ysgolion wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gan ei gwneud yn hanfodol bwysig i ysgolion sefydlu strategaeth glir a strwythuredig ar gyfer rheoli diogelwch rhwydweithiau a data. Gall strategaeth sydd wedi'i diffinio'n dda sicrhau bod systemau'n cael eu diogelu, bod gwybodaeth sensitif yn parhau i fod yn ddiogel, a bod ysgolion yn bodloni eu rhwymedigaethau o dan ofynion diogelu a diogelwch data.

Dylai strategaeth effeithiol nodi sut y bydd yr ysgol yn monitro a phrofi ei rhwydwaith a'i seilwaith digidol, yn diogelu data critigol megis cofnodion dysgwyr a chofnodion ariannol, ac yn nodi pa fesurau sydd ar waith i atal bygythiadau seiber. Dylai hefyd ddiffinio dull yr ysgol o reoli ac ymateb i ddigwyddiadau diogelwch, gan sicrhau bod staff yn gwybod sut i weithredu'n gyflym ac yn briodol pan fydd risg. Rhaid sefydlu rolau a chyfrifoldebau clir ar gyfer cynnal diogelwch rhwydweithiau a data, er mwyn sicrhau dealltwriaeth o atebolrwydd ar draws y sefydliad.

Dylai ysgolion, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol, gadarnhau sut y cânt eu cynnwys o fewn strategaethau diogelwch rhwydweithiau a data ehangach ar lefel awdurdod, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â phrosesau diogelwch a monitro canolog. Os nad yw ysgol yn cael eu gwasanaethau digidol gan yr awdurdod lleol, dylent ddatblygu eu polisïau diogelwch eu hunain, ac ymgymryd ag archwiliadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y safon hon ac yn cynnal uniondeb eu hamgylchedd digidol.

AB2: dylai ysgolion fod â phrosesau effeithiol ar waith i reoli mynediad a breintiau defnyddwyr ar draws eu rhwydwaith

Mae rheoli mynediad i'r rhwydwaith ysgol yn hanfodol wrth sicrhau seiberddiogelwch cryf a diogelu gwybodaeth a systemau sensitif. Rhaid i ysgolion fod â phrosesau rheoli mynediad effeithiol ar waith er mwyn sicrhau mai dim ond at y systemau, y gwasanaethau, a'r data sy'n briodol i'w swydd y gall defnyddwyr gael mynediad, a bod y risg o fynediad anawdurdodedig yn cael ei leihau.

Dylai rheolaethau mynediad gynnwys cyfuniad o fesurau, er enghraifft caniatâd seiliedig ar rôl, arferion dilysu cryf, a chyfyngiadau priodol ar ble a sut y gall defnyddwyr gysylltu â'r rhwydwaith. Gall hyn gynnwys: defnyddio rheolaethau dilysu ychwanegol i gael mynediad pan fo mwy o risg; mynediad rhwydwaith mewn segmentau ar gyfer dysgwyr, staff a gwesteion; a chyfyngiadau sydd wedi'u cynllunio i leihau amlygiad i fygythiadau allanol.

Mae breintiau gweinyddol yn arwain at fwy o risg, a rhaid eu rheoli'n llym. Dylai ysgolion sicrhau mai dim ond eu partneriaid cymorth technoleg addysg neu aelodau staff dynodedig all gael mynediad gweinyddol at systemau a seilwaith rhwydwaith. Mae cyfyngu ar y breintiau hyn yn lleihau'r tebygolrwydd o feddalwedd yn cael ei gosod heb awdurdod a newidiadau damweiniol neu faleisus i wasanaethau hanfodol.

Rhaid gweithredu i gynnal trefniadau mynediad defnyddwyr a breintiau. Dylid cynnal adolygiadau rheolaidd o gyfrifon defnyddwyr a lefelau mynediad er mwyn sicrhau bod caniatâd yn parhau i fod yn briodol, bod mynediad yn cael ei ddileu ar unwaith pan nad oes ei angen mwyach, ac y gall unrhyw arwyddion o ddefnydd neu fynediad amhriodol gael ei adnabod a’i ddatrys yn brydlon.

AB3: ysgolion i fod â mesurau diogelwch rhwydwaith priodol i amddiffyn rhag bygythiadau allanol a mewnol

Mae rhwydweithiau ysgolion yn sylfaen sy’n cynnal gweithrediadau craidd ac yn darparu mynediad hanfodol at offer a gwasanaethau dysgu digidol. O ganlyniad, dylent gael eu diogelu gan gyfuniad o reolaethau diogelwch cadarn a threfniadau monitro effeithiol er mwyn lleihau risg, canfod bygythiadau yn gynnar, a chefnogi ymateb amserol.

Rhaid i ysgolion sicrhau bod mesurau diogelwch rhwydwaith priodol ar waith er mwyn amddiffyn rhag bygythiadau allanol, e.e. ymdrechion hacio, gwe-rwydo a maleiswedd, yn ogystal â risgiau mewnol sy'n deillio o ddyfeisiau anniogel, cyfryngau symudol anniogel neu weithredoedd damweiniol neu faleisus gan ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys defnyddio waliau tân wedi'u ffurfweddu'n dda i atal mynediad anawdurdodedig, amgryptio i amddiffyn data pan fo’n cael ei symud neu pan fo’n segur, a mesurau diogelu hunaniaeth megis dilysu aml-ffactor lle bo hynny'n briodol.

Mae monitro rhwydwaith effeithiol yn hanfodol er mwyn adnabod gweithgarwch amheus neu annormal yn gynnar a galluogi ymateb prydlon i leihau aflonyddwch, diogelu data sensitif a chynnal uniondeb rhwydwaith. Dylai monitro helpu i ganfod maleiswedd, ymdrechion hacio, gweithgareddau gwe-rwydo a risgiau sy'n deillio o ddyfeisiau heintiedig, cyfryngau symudol anniogel neu weithredoedd damweiniol neu faleisus gan ddefnyddwyr.

Mae monitro’r rhwydwaith hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth reoli a goruchwylio mynediad ar-lein gan ddysgwyr a staff, gan gefnogi rhwymedigaethau diogelu a helpu i sicrhau bod rheolaethau hidlo a mynediad yn parhau i fod yn briodol ac yn effeithiol.

Dylai ysgolion weithio gyda'u hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg i adolygu'r trefniadau diogelwch a monitro cyfredol a chadarnhau bod mecanweithiau rhybuddio ac adrodd addas ar waith. Rhaid i ysgolion sy'n rheoli eu technoleg addysg eu hunain sicrhau bod trefniadau monitro ac ymateb clir yn bodoli fel bod risgiau’n cael eu nodi, eu huwchgyfeirio, a'u datrys ar unwaith.

AB4: dylai ysgolion fod wedi sefydlu amddiffyniadau seiber ar draws yr holl galedwedd a dyfeisiau defnyddwyr sy'n eiddo i'r ysgol

Mae ysgolion yn defnyddio ystod eang o ddyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith, gan gynnwys: tabledi, gliniaduron a chyfrifiaduron desg; dyfeisiau clyfar yn yr ystafell ddosbarth; a dyfeisiau eraill sy'n eiddo i'r ysgol a all gysylltu neu ryngweithio â rhwydwaith yr ysgol. Er mwyn diogelu'r dyfeisiau hyn a'r data maen nhw'n eu prosesu, rhaid cymhwyso amddiffynfeydd seiber priodol yn gyson ar draws yr ystâd o ddyfeisiau sy’n cael eu rheoli.

Rhaid i bob dyfais sy'n eiddo i'r ysgol gael ei chofrestru dan drefniant cymeradwy i reoli dyfeisiau a'i chynnal yn unol â'r safon Rheoli Dyfeisiau. Mae rheolaeth ganolog yn galluogi polisïau diogelwch, diweddariadau a rheolaethau amddiffynnol i gael eu cymhwyso'n gyson, gan leihau'r risg y gallai gwendidau ar ddyfeisiau unigol gyfaddawdu'r rhwydwaith ehangach.

Gall bygythiadau seiber, megis maleiswedd, firysau, ysbïwedd a meddalwedd maleisus arall, amharu ar ddysgu ac addysgu, peryglu data sensitif ac arwain at dorri rhwymedigaethau diogelu ac amddiffyn data. Er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, rhaid i ysgolion sicrhau bod gan ddyfeisiau amddiffyniadau cadarn, cynhwysfawr sydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys cynnal datrysiadau gwrth-faleiswedd cyfredol a sicrhau bod mesurau amddiffynnol yn cael eu cymhwyso'n gyson ar draws pob dyfais sy'n eiddo i'r ysgol.

AB5: dylai ysgolion fod â strategaeth eglur i ymateb i ddigwyddiadau a’u rheoli

Bydd cynllun ymateb i ddigwyddiadau sydd wedi'i strwythuro'n dda yn sicrhau bod ysgolion yn gallu gweithredu'n gyflym ac yn effeithiol os bydd digwyddiad diogelwch rhwydwaith neu ddata. Dylai'r strategaeth nodi camau clir ar gyfer adnabod digwyddiad, ei gyfyngu, lliniaru'r risgiau a lleihau tarfu ar addysgu, dysgu a gweithrediadau hanfodol. Dylai gefnogi ymateb cydgysylltiedig sy'n caniatáu i'r ysgol adfer eu gwasanaeth arferol mor ddiogel ac mor effeithlon â phosibl.

Dylai’r holl weithdrefnau ymateb i ddigwyddiadau gael eu dogfennu'n llawn, eu diweddaru’n rheolaidd a'u storio mewn lleoliad sy'n hygyrch i'r staff a allai fod eu hangen. Dylid eu hadolygu'n rheolaidd, yn enwedig yn sgil unrhyw newid sylweddol, rhybudd diogelwch, neu ddigwyddiad go iawn, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir ac yn effeithiol. Rhaid i'r cynllun hefyd gael ei gyfleu'n glir er mwyn i staff perthnasol ddeall eu cyfrifoldebau, y llwybrau uwchgyfeirio, a phwy y dylent gysylltu â hwy pe bai digwyddiad.

Dylai ysgolion, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol, sicrhau bod eu trefniadau’n cyd-fynd â strategaeth ymateb i ddigwyddiadau ehangach yr awdurdod ac yn integreiddio â hi. Mae hyn yn cynnwys deall sut mae adrodd am ddigwyddiadau, sut mae penderfyniadau'n cael eu huwchgyfeirio, a sut y bydd cymorth technegol yn cael ei gydlynu. Dylai ysgolion a reolir yn annibynnol ddatblygu cynllun ysgol-benodol sydd yr un mor gadarn ac sydd wedi'i deilwra i'w cyd-destun. Dylai hyn gynnwys cytuno ar ddulliau gweithio gyda'u partneriaid cymorth technoleg addysg, gan sicrhau bod rolau, sianeli cyfathrebu a disgwyliadau ymateb yn cael eu diffinio'n glir.

AB6: dylai ysgolion sicrhau eu bod yn cynnal ffurfweddiad gwasanaeth ar gyfer pob dyfais a chymhwyso patsys a diweddariadau diogelwch cyn gynted ag y byddant ar gael

Mae diweddaru meddalwedd a systemau gweithredu yn rheolaidd yn hanfodol i gynnal diogelwch a sefydlogrwydd dyfeisiau ysgol. Mae datblygwyr yn rhyddhau diweddariadau i fynd i'r afael â gwendidau newydd, ac mae methu â gosod y patsys hyn yn amlygu systemau i ymosodiadau seiber posibl. Yn ogystal â chryfhau diogelwch, mae diweddariadau yn aml yn gwella perfformiad, sefydlogrwydd a chytunedd dyfeisiau â rhaglenni a gwasanaethau eraill.

Gall ysgolion sy'n defnyddio offer rheoli dyfeisiau symudol (MDM) neu ddatrysiadau optimeiddio cyflwyniad drefnu i’r diweddariadau ddigwydd y tu allan i oriau ysgol, gan leihau pwysau ar y rhwydwaith yn ystod amser addysgu ac osgoi tarfu diangen mewn ystafelloedd dosbarth. Os nad yw ysgol yn defnyddio MDM, mae'n bwysig iddyn nhw sefydlu gweithdrefnau diweddaru eglur sydd wedi'u diffinio'n dda, a'u bod yn eu dilyn yn gyson. Mae hyn yn sicrhau bod pob dyfais yn parhau i fod yn ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi, a’u bod yn cyd-fynd â chyfrifoldebau digidol a diogelu ehangach yr ysgol.

AB7: dylai ysgolion fod â pholisi clir ar gyfer gweithio symudol a rheoli dyfeisiau symudol

Er mwyn diogelu data a chynnal diogelwch rhwydwaith yr ysgol, mae’n hanfodol bod dyfeisiau symudol sy'n eiddo i'r ysgol yn cael eu rheoli’n effeithiol.

Dylai ysgolion sicrhau bod pob dyfais symudol yn cael ei chofrestru a'i rheoli gan ddatrysiad rheoli dyfeisiau, a hynny er mwyn cynnal gosodiadau diogelwch, cymhwyso diweddariadau, monitro dyfeisiau a chefnogi mynediad gweinyddol o bell. Mae'r mesurau hyn yn helpu i ddiogelu'r ddyfais ei hun yn ogystal ag unrhyw wybodaeth sensitif a all fod arni.

Dylai ysgolion hefyd sefydlu polisïau gweithio symudol eglur ac amlwg er mwyn sicrhau bod staff yn deall sut i ddefnyddio dyfeisiau’r ysgol yn ddiogel pan fyddan nhw’n gweithio oddi ar y safle. Dylai'r polisïau hyn fynd i'r afael â meysydd megis: amgryptio dyfeisiau, defnyddio cysylltiadau Wi-Fi diogel, diogelu hunaniaeth gan gynnwys defnyddio dilysu aml-ffactor, a’r gallu i ddileu o bell er mwyn diogelu data pe bai dyfais yn cael ei golli neu ei dwyn.

AB8: dylai ysgolion fod â pholisi clir ar gyfer rheoli a defnyddio cyfryngau storio symudol

Gall cyfryngau symudol beri risg diogelwch sylweddol i rwydwaith ysgol, gan gynnwys lledaenu maleiswedd a'r potensial i dorri diogelwch data os bydd dyfeisiau’n cael eu colli, eu dwyn neu eu defnyddio’n amhriodol. O ganlyniad, dylai ysgolion geisio lleihau'r defnydd o gyfryngau symudol lle bynnag y bo modd, a sicrhau bod eu defnydd yn cael ei gyfiawnhau a'i reoli'n dda.

Dylai ysgolion sefydlu canllawiau clir sy’n cael eu cyfleu'n dda a fydd yn llywodraethu pryd a sut y gellir defnyddio cofau USB a dyfeisiau storio symudol eraill. Dylai'r canllawiau hyn sicrhau bod data sensitif a gaiff ei storio ar gyfryngau symudol yn cael ei amgryptio, bod y defnydd yn cael ei gyfyngu trwy reolaethau mynediad priodol, ac na ellir cysylltu dyfeisiau â systemau ysgol oni bai eu bod wedi cael eu cymeradwyo. Pan fo dewisiadau mwy diogel ar gael, megis storio cwmwl dan reolaeth neu drefniadau gweithio all-lein cymeradwy, dylid defnyddio'r rhain yn hytrach na chyfryngau symudol.

Dylai ysgolion adolygu eu polisïau a'u harferion yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau diogelwch ehangach a safonau technegol eu hawdurdod lleol. Dylai disgwyliadau gan staff a dysgwyr fod yn glir ac yn gyson. Mae dull cymesur a chyson o reoli cyfryngau symudol yn helpu i ddiogelu data, cryfhau seiberddiogelwch ac yn lleihau'r tebygolrwydd o ddatgelu data’n ddamweiniol neu heb awdurdod.

AB9: dylai ysgolion fod yn ymwybodol o'u rolau a'u cyfrifoldebau seiberddiogelwch

Mae seiberddiogelwch yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rhannu ar draws cymuned yr ysgol. Rhaid i bob aelod o staff ddeall eu cyfraniad nhw at gynnal diogelwch data a systemau digidol, gan gynnwys dilyn arferion gorau wrth reoli cyfrineiriau, defnyddio dyfeisiau yn gyfrifol, a glynu at bolisïau a gweithdrefnau'r ysgol. Mae’r pethau a wnawn bob dydd, megis adnabod ymdrechion gwe-rwydo, dweud os byddwn yn sylwi ar weithgareddau amheus, a sicrhau bod gwybodaeth sensitif yn cael ei thrin yn briodol, yn cyfrannu'n sylweddol at sefyllfa ddiogelwch gyffredinol yr ysgol.

Mae uwch arweinwyr yn rhan annatod o osod disgwyliadau a chreu diwylliant sy’n ystyried bod seiberddiogelwch yn fater o bwys. Maen nhw’n gyfrifol am weithredu polisïau priodol, sicrhau cydymffurfiaeth, a darparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer ymarfer digidol diogel. Mae hefyd yn gyfrifoldeb ar arweinwyr i sicrhau bod partneriaid cymorth technoleg addysg yn bodloni’r safonau y cytunwyd arnynt ac yn gweithredu yn unol â pholisïau a gofynion rheoleiddiol yr ysgol.

Mae rhoi hyfforddiant wedi’i dargedu yn rheolaidd i staff yn hanfodol i gadw pawb yn wybodus, yn hyderus, ac yn barod i ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg. Gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau gwella ymwybyddiaeth, megis ymarferion efelychiadau gwe-rwydo, sy'n helpu staff i adnabod risgiau mewn ffordd realistig ac ymarferol. Trwy sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn deall eu cyfrifoldebau, gall ysgolion gryfhau eu hamddiffyniadau, lleihau risg a meithrin diwylliant o wyliadwriaeth ac atebolrwydd.


Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mawrth, 27 Hydref 2026