Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn ond yn berthnasol i wefan Hwb https://hwb.llyw.cymru/

Defnyddio'r wefan

Llywodraeth Cymru a’i chyflenwyr sy'n cynnal y wefan hon. Ein nod yw bod y wefan yn hygyrch i gymaint o bobl ag sy'n bosib. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau

  • nesáu hyd at 300% heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin

  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

  • gwe-lywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml ag sy'n bosibl i'w ddeall.

Dilynwch y ddolen am gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio, os oes gyda chi anabledd: AbilityNet

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes gan rai tudalennau ddolen 'neidio i'r prif gynnwys'

  • nid yw rhai dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin

  • nid oes gan rai delweddau destun amgen priodol

  • nid yw bylchau o fewn testun neu'r gallu i addasu maint testun yn gweithio'n gyson ar draws pob tudalen

Adborth a manylion cyswllt

Pe hoffech wneud cais i dderbyn yr wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â:

Byddwn yn ystyried eich cais ac fel arfer yn cysylltu â chi gyda'r penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith.

Adrodd am broblemau sy'n gysylltiedig â hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion uchod.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) 2018.

Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Lywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA, yn sgil yr hyn nad yw'n cydymffurfio, sydd wedi'u rhestru isod.

Cynnwys nad sy'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i amlinellu isod, ynghyd â manylion pa feini prawf llwyddiant a fethwyd a'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer cywiro’r problemau:

Baich anghymesur

Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch. Rydym yn gweithio i wella neu roi dogfennau newydd yn eu lle gyda chynnwys HTML hygyrch lle bo hynny'n bosibl. Byddai cywiro dogfennau sydd wedi cael eu hetifeddu yn waith anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai o'n hadnoddau digidol wedi cael eu creu gan offer trydydd parti megis Articulate. Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y cynnwys hwn mor hygyrch â phosibl, mae'n bosibl na fydd rhai elfennau rhyngweithiol a chyfryngau yn bodloni'r safonau hygyrchedd yn llawn ym mhob achos.

Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd y cynnwys hwn, lle bo hynny'n bosibl, wrth ddarparu fformatiau amgen neu gymorth ychwanegol.

Gall rhywfaint o gynnwys trydydd parti ychwanegol ac offer sydd wedi cael eu hymgorffori hefyd fod tu allan i'n rheolaeth uniongyrchol ac efallai na fyddant yn gwbl hygyrch.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd:

Rydym yn gweithio'n barhaus ar wella hygyrchedd ar draws y wefan. Ein blaenoriaethau presennol yw:

  • gwella'r defnydd o destun amgen ar gyfer delweddau

  • gwella'r gallu i we-lywio gyda bysellfwrdd ar draws cydrannau rhyngweithiol

  • lleihau defnydd o PDFs a'u disodli gyda chynnwys gwe hygyrch

Caiff hygyrchedd ei ystyried fel rhan o bob gwaith datblygu newydd ac wrth ddiweddaru cynnwys.

Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn

Lluniwyd a diweddarwyd y datganiad hwn ar 27ain Hydref 2026.

Defnyddiwyd y dulliau a'r offer canlynol wrth brofi:

Sut gwnaethon ni brofi'r wefan hon?

Profwyd y wefan ar 27ain Hydref 2026.

Defnyddiwyd yr offer a'r dulliau isod wrth brofi:

  • offer profi hygyrchedd awtomataidd

  • profion â llaw gan we-lywio gyda bysellfwrdd

  • profion darllenydd sgrîn (NVDA and VoiceOver)

Roedd y profion yn cynnwys sampl gynrychioliadol o dudalennau, gan gynnwys:

  • hafan

  • tudalennau chwilio a rhestru

  • tudalennau newyddion a digwyddiadau

  • tudalennau adnoddau

  • tudalennau cynnwys gwybodaeth

Rydym yn bwriadu cynnal arolygiadau hygyrchedd rheolaidd a diweddaru'r datganiad hwn yn flynyddol.