Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2027 ar gael nawr
Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2027 ar 9 Chwefror 2027 ac mae'n nodi 20 mlynedd o ddathliadau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn y DU. Y thema eleni yw "Myfyrio ar dechnoleg: archwilio lles digidol a'n perthynas â thechnoleg". Mae'n annog plant a phobl ifanc i feddwl am effaith technoleg ar eu bywydau, eu llesiant a'u profiadau dyddiol ar-lein.
Er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau i gymryd rhan, mae Canolfan Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ystod o becynnau a gweithgareddau addysgol am ddim sydd wedi'u cynllunio i helpu dysgwyr i drafod y thema eleni a datblygu perthynas gadarnhaol, gwybodus â thechnoleg.
Mae'r pecynnau ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau oedran:
Pecynnau addysg Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2026 i blant 3 i 7 oed
Pecynnau addysg Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2026 i blant 7 i 11 oed
Pecynnau addysg Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2026 i blant 11 i 14 oed
Pecynnau addysg Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2026 i blant 14 i 18 oed
Mae'r adnoddau yn darparu gweithgareddau diddorol, awgrymiadau i ennyn trafodaeth a deunyddiau ar gyfer gwersi sy'n annog dysgwyr i feddwl am eu defnydd o dechnoleg, ystyried ei effaith ar lesiant, ac edrych ar ffyrdd ymarferol o wneud y gorau o'u hamser ar-lein.