Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Dweud eich dweud ar ddefnyddioldeb y Fframwaith Dull Ysgol Gyfan

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r canllawiau Fframwaith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol a hoffem gael eich adborth.
19 Hydref 2026

Rydym yn gwahodd ymarferwyr a rhanddeiliaid i gwblhau arolwg byr ar ba mor ddefnyddiol yw'r ddogfen fframwaith bresennol wrth gefnogi lleoliadau addysg i weithredu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant.

Nid ydym yn adolygu nac yn newid egwyddorion y fframwaith. Yn hytrach, rydym am ddeall pa mor ddefnyddiol yw'r ddogfen bresennol yn ymarferol a sut y gellid ei gwneud yn fwy perthnasol, ymarferol a haws ei defnyddio.

Arolwg

Cwblhewch yr arolwg ar-lein trwy wefan SmartSurvey. Mae’r arolwg yn ddienw a dim ond ychydig funudau y dylai gymryd ichi ei gwblhau.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf