Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Adnoddau newydd i helpu dysgwyr i ddeall etifeddiaeth trychineb Aberfan

Mae adnoddau dysgu digidol newydd ar gael i gefnogi addysgu sensitif am drychineb Aberfan, gan helpu dysgwyr i ddeall ei heffaith barhaol tra'n anrhydeddu cof y rhai a gafodd ei heffeithio.
13 Hydref 2026

Wrth i Gymru nodi pen-blwydd trychineb Aberfan ym mis Hydref, mae adnoddau dysgu digidol newydd ar gael gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r adnoddau yn cynnig cyfle i ysgolion archwilio'r digwyddiad arwyddocaol hwn yn hanes Cymru gyda gofal a sensitifrwydd.

Amgueddfa Cymru

Drwy gyfrifon personol, ffotograffau, deunydd ffilm archif, gwaith celf a chofnodion hanesyddol, bydd dysgwyr yn dod i ddeall un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Cymru a'r etifeddiaeth y mae wedi'i gadael. Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr yng Nghamau cynnydd 3 a 4, mae'r adnodd hyblyg hwn yn cynnwys deunyddiau dysgu digidol, canllawiau i athrawon a chynnwys ar gyfer dysgu proffesiynol.

I gael mynediad at adnodd Amgueddfa Cymru, ewch i’r adran Adnoddau ar Hwb: Trychineb Aberfan.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r adnoddau hyn ar gyfer dysgwr yng Ngham cynnydd 4 ac maent yn defnyddio eitemau gwreiddiol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflwyno hanes Trychineb Aberfan.

I gael mynediad at adnodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewch i dudalen Trychineb Aberfan ar Hwb.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf