Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynnig hwyl addysgol am ddim i deuluoedd dros hanner tymor
Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ôl rhwng dydd Sadwrn 24 Hydref a dydd Sul 1 Tachwedd, gyda dros 60 o amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru yn cymryd rhan – y nifer uchaf yn hanes 12 mlynedd yr ŵyl.
Mae llawer o ddigwyddiadau am ddim neu am gost isel, gan gynnig ffordd hwyliog ac addysgol i deuluoedd dreulio hanner tymor gyda'i gilydd wrth ddarganfod straeon eu cymunedau lleol.
Gweithgareddau
Ymhlith y gweithgareddau yn ystod yr wythnos mae gweithdai adrodd straeon ac ysgrifennu creadigol, celf a chrefft, llwybrau a theithiau yn archwilio hanes lleol, a gwneud llusernau ac adeiladu blychau ystlumod.
Adnoddau dwyieithog am ddim
Mae gan yr ŵyl 2 adnodd dysgu dwyieithog am ddim, yr adnodd Hwyl a'r adnodd Calan Gaeaf. Maent yn archwilio traddodiadau Calan Gaeaf ac yn cynnwys gweithgareddau fel dysgu sut i ysgrifennu cynghanedd, a llawer mwy. Eleni hefyd, mae pwyslais gwyrddach i'r ŵyl, gan annog teuluoedd i ddathlu wrth leihau gwastraff.
Dywedodd Dr Ken Griffin, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru: "Mae'r ŵyl yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, gan gynnig gweithgareddau am ddim a hygyrch mewn cyfnod o bwysau ariannol. Yn anad dim, dyma'r amser perffaith i ddarganfod eich amgueddfa leol."
Digwyddiadau yn eich ardal chi
Mae'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a'r adnoddau am ddim ar gael ar wefan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru. Mae angen archebu lle ar gyfer rhai digwyddiadau.
Trefnir yr ŵyl gan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.