Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2026: dechreuwch y sgwrs yn eich ysgol
Anogwch ddysgwyr i siarad ag oedolyn dibynadwy os ydynt yn profi casineb neu ragfarn.
Cyngor ac adnoddau
Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru 'Herio bwlio ac aflonyddu' yn cynnwys cyngor ar ddelio â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn.
Mae'r dudalen 'casineb ar-lein' ar ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein Hwb yn cynnwys gwybodaeth i helpu i ddeall y mater hwn a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt.
Mae hyn yn cynnwys:
adnoddau ystafell ddosbarth sy'n archwilio effaith iaith casineb ar-lein
Rhoi gwybod am droseddau casineb
Gallwch adrodd troseddau casineb drwy True Vision i'r heddlu, neu i Canolfan Cymorth Casineb Cymru. Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn darparu cymorth, cyngor a chefnogaeth annibynnol, cyfrinachol i ddioddefwyr a thystion troseddau casineb yng Nghymru.
Gweler datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru yn galw ar bobl i sefyll yn erbyn casineb i gael rhagor o wybodaeth am ystadegau ac effaith troseddau casineb yng Nghymru.