Mae casineb ar-lein yn wahanol i fwlio ar-lein. Mae’n golygu postio a rhannu cynnwys casineb sy’n targedu unigolyn, grwp neu gymuned benodol neu sy’n defnyddio rhywbeth am eu hunaniaeth neu gefndir i farnu, cam-drin neu fychanu. Gall hyn fod oherwydd hil, crefydd, hunaniaeth drawsryweddol, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd. Os yw neges ar-lein yn targedu un o’r pethau fel hyn mewn ffordd negyddol, gellid ei ystyried yn gasineb ar-lein. Mae’r gyfraith yn y DU yn amddiffyn pobl rhag cael eu targedu oherwydd eu hunaniaeth.
Gall casineb ar-lein gynnwys:
bygythiadau
sarhau
cam-drin
dychryn
aflonyddu
bwlio
Nid yw pob neges gasineb yn drosedd gasineb. Dan gyfraith y DU, mae gan bobl hawl i ryddid mynegiant. Gallan nhw ddweud ac ysgrifennu pethau sarhaus heb dorri’r gyfraith. Ond hefyd, mae gan bobl hawl i fyw’n rhydd rhag casineb, felly os yw neges yn un casineb ond nid yw’n drosedd, gall yr heddlu ei adrodd yn ‘ddigwyddiad casineb’. Gall llawer o ddigwyddiadau casineb droi’n drosedd. Gall unigolyn sy’n postio negeseuon casineb gael ei arestio, ei erlyn a chael cofnod troseddol neu fynd i’r carchar.
Gall casineb ar-lein gynnwys:
iaith gasineb
anfon negeseuon at rywun ar bwrpas er mwyn achosi trallod neu orbryder (cyfathrebu malais)
aflonyddu
seiber-stelcian
bwlio ar-lein
annog rhywun i fod yn ymosodol
annog eraill i gasáu unigolyn neu grwp penodol o bobl
Mae rhai pethau y galli di eu gwneud i daclo casineb ar-lein.
Os yw rhywun yn postio negeseuon cas amdanat ti, adrodda i’r platfform, y gêm, yr ap neu’r wefan ble ddigwyddodd hynny. Galli di hefyd adrodd am bethau casineb rwyt ti’n eu gweld. Does dim rhaid iddyn nhw fod amdanat ti.
Os yw rhywun yn rhannu cynnwys casineb neu’n anfon pethau atat sy’n peri gofid i ti, galli di flocio a chlicio ‘unfollow’. Efallai na fydd siarad gyda nhw am eu negeseuon casineb yn ddiogel. Os wyt ti’n adnabod yr unigolyn o’r ysgol, grwp neu gymuned leol, galli di ddweud wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo yn yr ysgol, yn dy grwp lleol neu swyddog yr heddlu.
Mae casineb ar-lein yn peri gofid, ac mae’n normal os yw’n gwneud i ti deimlo’n flin, yn drist neu’n anniogel. Mae dy iechyd meddwl yn bwysig, ac os yw mynd i’r afael â negeseuon cas yn peri gofid i ti, cofia rwystro’r cyfrifon cas a cheisio cymorth a chefnogaeth drwy siarad gyda rhywun. Siarada ag oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel rhiant/gofalwr neu athro. Os nad wyt ti’n siwr sut i ddechrau sgwrs gyda rhywun, dyma rai awgrymiadau. Os wyt ti’n teimlo nad oes unrhyw un ar gael i siarad, galli di siarad gyda llinell gymorth ddienw fel Meic.
Beth am gadw sgrinluniau neu gopïau o negeseuon casineb, sylwadau neu negeseuon amdanat ti. Os wyt ti’n penderfynu adrodd yr ymddygiad casineb, gellid defnyddio’r rhain fel tystiolaeth.
Os wyt ti’n cael dy fygwth neu os yw trosedd eisoes wedi cael ei chyflawni, rho wybod i’r heddlu drwy ffonio 101. Os wyt ti’n teimlo dy fod di neu rywun arall mewn perygl brys, ffonia 999.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i dy helpu i ymdopi a gwella o effeithiau troseddau casineb. Mae rhywun ar gael i siarad 24/7 a fydd yn gwrando ac yn deall. Galli di adrodd am drosedd casineb drwy ffonio 03003031982, neu ddefnyddio’r swyddogaeth sgwrsio byw. Gall Cymorth i Ddioddefwyr hefyd adrodd am drosedd casineb i’r heddlu ar dy ran.
Mae algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio drwy gyfrifo cynnwys poblogaidd. Os yw llawer o bobl yn rhoi sylwadau ar neges, mae’r algorithm yn nodi ei fod yn gynnwys hynod boblogaidd ac yn ei wneud yn fwy gweladwy i bobl eraill yn eu ffrydiau ac mewn awgrymiadau o bethau yr hoffet ti eu gweld – hyd yn oed os yw pawb sy’n rhoi sylwadau yn dweud pa mor ddrwg a llawn casineb yw e! Hefyd, ni fydd herio negeseuon casineb dy hun yn ddiogel bob amser, felly efallai y bydd hi’n well peidio â dweud unrhyw beth.
Mae’n bwysig adrodd am gasineb fel bod modd ei ddileu a rhoi gwybod i bobl fel yr heddlu beth sy’n digwydd. Galli di hefyd helpu i orbwyso cynnwys casineb drwy rannu negeseuon ar dy gyfryngau cymdeithasol dy hun sydd i’r gwrthwyneb, megis negeseuon sy’n dathlu gwahaniaethau. Mae llawer o bobl enwog eisoes yn gwneud hyn. Os na alli di feddwl am rywbeth i rannu, chwilia am gyfrifon sydd eisoes yn rhannu cynnwys positif a rhanna’r negeseuon hynny.
Os yw’r person sy’n rhannu negeseuon casineb yn ffrind, ac os wyt ti’n teimlo’n ddiogel yn siarad gyda nhw, efallai yr hoffet ti roi gwybod bod y negeseuon yn llawn casineb neu’n gwahaniaethu. Efallai na fyddan nhw’n sylweddoli hyd yn oed. Galli di hyd yn oed ddangos y dudalen hon iddyn nhw.
Os ydych chi’n gweld rhywbeth cas neu sy'n peri loes ar-lein, rhowch wybod amdano a rhwystro’r sianel sy’n ei bostio. Ceisiwch beidio â chymryd rhan yn y ddadl, ond cymerwch sgrinlun a dweud wrth rywun.
Siaradwch ag oedolyn cyn gynted â phosibl, oherwydd er y gallai fod yn frawychus neu’n anodd, mae’n well siarad â rhywun yn hytrach na chadw popeth i chi eich hun. Os na wnewch chi rywbeth, rydych chi’n helpu’r un sy’n bwriadu lledaenu ei neges ymhellach.
Peidiwch byth â bod ofn riportio rhywbeth gan y gallai helpu eraill yn y tymor hir, yn enwedig y dioddefwr gan y gallai fod yn rhy ofnus i roi gwybod am y mater ei hun. Os ydych chi’n ansicr, siaradwch ag oedolyn i weld beth mae’n ei feddwl am riportio rhywun ac os yw’n cytuno, mae’n ddiogel.
Gwylia'r ffilm hon (Saesneg yn unig) gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, a chrëwyd yn dilyn y cam-drin ar-lein a anelwyd at bêl-droedwyr benywaidd a welwyd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y tymor 20/21.