Mae llawer o bethau gwych am y cyfryngau cymdeithasol, apiau a gemau; i'r rhan fwyaf ohonon ni, fyddai bywyd ddim yr un peth hebddyn nhw. Ond weithiau mae pethau'n gallu mynd o chwith, a gallech chi deimlo eich bod mewn sefyllfa anniogel neu annymunol.
Rydyn ni i gyd yn awyddus i wneud yn siwr bod ein profiad ar-lein yn gadarnhaol, felly nod yr ardal hon yw eich helpu i wneud synnwyr o rai o'r pethau efallai y bydd angen i chi ddelio â nhw. Mae'r tudalennau gwybodaeth hefyd yn cynnwys cyngor ar beth i'w wneud a ble i fynd am help os byddwch chi'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar-lein.
Cofiwch fod hawliau gennych chi, a bod yr hawliau hyn yn berthnasol i'r byd digidol hefyd!
Ystyr swyno trwy dwyll, neu ddynwared, ydy pan fydd rhywun yn creu proffil ar-lein sy'n esgus bod yn rhywun arall. Efallai eu bod nhw’n esgus bod yn rhywun sy’n bodoli go iawn, neu efallai eu bod yn creu hunaniaeth ffug.
Ystyr lles digidol ydy sut mae mynd ar-lein yn gwneud i ni deimlo. Mae’n bwysig ein bod yn sylwi ar sut rydyn ni’n teimlo pan fyddwn ni ar-lein oherwydd gall yr emosiynau hyn effeithio ar rannau eraill o’n bywydau.
Gall y rhyngrwyd fod yn adnodd gwych ar gyfer dysgu pethau newydd neu rannu gwybodaeth, ond dydy popeth rydych chi’n ei weld ar-lein ddim yn ddibynadwy.
Gwybodaeth i bobl ifanc ddeall beth yw AI a rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt.
Mae sgyrsiau grŵp yn ffordd gyflym a hawdd i chi anfon negeseuon at lawer o bobl ar yr un pryd, yn ogystal â rhannu cynnwys fel lluniau, fideos a dolenni.
Mae llawer o bethau gwych ar-lein, ond mae yna hefyd risgiau ynghlwm wrth fod ar-lein.
Ffrydio byw ydy cynnwys fideo sy’n cael ei bostio ar y rhyngrwyd fel y mae’n digwydd.
Mae hysbysebion ar gael mewn llawer o lefydd, ar-lein ac all-lein.
Eich ‘delwedd corff’ yw sut rydych chi’n meddwl ac yn teimlo amdanoch chi eich hun yn gorfforol, a sut rydych chi’n meddwl bod pobl eraill yn eich gweld chi.
Bwlio ar-lein (a elwir weithiau’n seiberfwlio) yw unrhyw ymddygiad sy’n defnyddio technoleg a dyfeisiau i dargedu neu ypsetio rhywun yn fwriadol.
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chwarae gêm ar-lein. Mae’r dulliau poblogaidd yn cynnwys defnyddio consol, dyfais symudol neu gyfrifiadur.
Meithrin perthynas amhriodol yw pan fydd rhywun yn dod yn ffrindiau â phlentyn neu unigolyn ifanc, ac yn meithrin perthynas â nhw, oherwydd eu bod nhw eisiau eu twyllo neu roi pwysau arnynt i wneud rhywbeth rhywiol, neu rywbeth a allai eu brifo neu eu niweidio.
Casineb ar-lein yw postio a rhannu cynnwys casineb sy’n targedu unigolyn, grŵp neu gymuned benodol.
Yn aml, mae enwogion neu bobl sydd â dilynwyr niferus ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu galw’n ‘ddylanwadwyr’.
Eithafiaeth yw pan mae gan rywun gredoau cryf (fel arfer am wleidyddiaeth, crefydd neu faterion cymdeithasol) nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn credu sy’n dderbyniol neu resymol.
Mae eich enw da neu ddrwg ar-lein yn cael ei ffurfio gan y cynnwys rydych chi’n ei rannu, a’ch ymddygiad ar-lein.
Aflonyddu rhywiol ar-lein yw unrhyw fath o ymddygiad rhywiol digroeso wedi’i dargedu atat ti sy’n digwydd ar-lein.
Amser o flaen sgrin yw faint o amser sy’n cael ei dreulio’n defnyddio unrhyw ddyfais gyda sgrin fel ffonau clyfar, tabledi, cyfrifiaduron neu gonsolau gemau.
Lluniau noeth yw lluniau neu fideos noeth neu hanner noeth (dillad isaf) a rennir yn breifat neu eu postio ar-lein.
Galli di ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau, cwrdd â phobl newydd, gwylio fideos a chwarae gemau.