Yr asesiadau personol: nodiadau atgoffa a deunyddiau allweddol ar gyfer 2026 i 2027
Benaethiaid, cyn i’ch staff allu cael mynediad at system yr asesiadau personol, trefnu asesiadau newydd neu weld adroddiadau sy’n cefnogi dysgu, addysgu a chynllunio cynnydd, cofiwch fod rhaid ichi yn gyntaf dderbyn cytundeb y pennaeth ar gyfer y flwyddyn ysgol 2026 i 2027 ac adolygu swyddogaethau staff.
Er mwyn cyrchu adroddiadau ac amserlennu asesiadau personol, sicrhewch fod gwybodaeth am eich dysgwyr yn gyfredol yn eich system gwybodaeth reoli (MIS) a bod y cleient darparu Hwb yn cael ei redeg yn rheolaidd. Mae Llawlyfr Gweinyddu’r Asesiadau Personol ar gyfer 2026 i 2027 yn gosod y gofynion ar gyfer y flwyddyn ysgol hon. Cofiwch fod y Canllaw i Ddefnyddwyr o fewn system yr asesiadau personol yn manylu ar weinyddu’r asesiadau a chanllawiau ymarferol ar sut i wneud y defnydd gorau o’r system. Amserlennwch eich asesiadau’n gynnar i sicrhau’r dyddiadau sy’n well gennych.
Rhagor o wybodaeth ac arweiniad
Ymarferwyr
Gweminarau i helpu ymarferwyr i lywio system yr asesiadau personol ac i ddefnyddio adroddiadau yn effeithiol.
Canllawiau i Ymarferwyr ar ddefnyddio’r asesiadau personol i ddeall cynnydd eich dysgwyr a llywio’r camau dysgu nesaf.
Rhieni a gofalwyr
Dau fideo byr sy’n cyflwyno’r asesiadau personol ac yn esbonio’r adborth sy’n cael ei ddarparu.
Gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy’n esbonio’r asesiadau personol a’r adroddiadau adborth.
Cyfres o daflenniun dudalen i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall yr adroddiadau adborth a’r adroddiadau cynnydd.
Gwybodaeth gyswllt
Cofiwch fod desg gymorth yr asesiadau personol ar gael i’ch helpu chi gydag unrhyw ymholiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 5pm. E-bostiwch cymorth@asesiadaupersonol.cymru neu ffoniwch 029 2026 5099.