Ar ôl i ddysgwyr gwblhau eu hasesiadau, bydd gan ysgolion fynediad at amrywiaeth o adroddiadau ac adborth ar eu:
sgiliau
cynnydd
sgoriau safonedig ar sail oedran
Gall ysgolion ddefnyddio’r wybodaeth hon i helpu i gynllunio dysgu ac addysgu.
Gosodir y gofynion ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn llawlyfr gweinyddu’r asesiadau personol.
Bydd angen mewngofnodi i Hwb i gael mynediad at yr asesiadau. Ar ôl mewngofnodi, dewiswch yr eicon asesiadau personol ar eich dangosfwrdd.
Mae'r fideo hwn yn dangos sut i fewngofnodi i Hwb a chael mynediad at y wefan asesiadau personol.
Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mae asesiadau personol darllen a rhifedd yn fandadol i'w defnyddio ym Mlynyddoedd 2 i 9. Mae llawlyfr gweinyddu’r asesiadau personol yn amlinellu’r gofynion ar gyfer eleni.
Mae’n nodi bod:
ysgolion yn gallu amserlennu asesiadau personol ar adeg y maent yn ei hystyried yn fwyaf buddiol i gefnogi addysgu, dysgu a chynnydd
yn rhaid i ddysgwyr wneud pob asesiad unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd (gall ysgolion hefyd gynnal yr asesiadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd)
Gofynnir i athrawon sicrhau bod eu holl ddysgwyr yn defnyddio'r asesiadau ymgyfarwyddo ar Hwb. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar y mathau o gwestiynau cyn cymryd yr asesiadau.
Mae’r canllaw i ddefnyddwyr ar y wefan asesu yn darparu gwybodaeth ymarferol fanwl am:
amserlennu a chyflwyno'r asesiadau (gan gynnwys rhestrau gwirio)
cael gafael ar adroddiadau
Mae'r asesiadau personol yn addasol. Mae hyn yn golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb dysgwr i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob dysgwr. Bydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau drwy ddeall:
yr hyn y gallant ei wneud
yr hyn efallai y mae angen iddynt ei wella
eu camau nesaf posibl
Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau dysgwyr unigol, grwpiau a dosbarthiadau cyfan.
Nid oes unrhyw 'gyfnod asesu' ar gyfer asesiadau personol. Mae amseru yn ôl disgresiwn yr ysgol.
Gall y dysgwyr sefyll yr asesiadau personol naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol. Nid oes angen nifer fawr o ddyfeisiau ar ysgolion.
Mae sgoriau safonedig ar sail oedran a sgoriau cynnydd yr asesiadau hynny sy’n cael eu gwneud o fis Medi 2023 ymlaen yn ystyried yr ‘amser dysgu’ a gafwyd yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn cefnogi a gwella dealltwriaeth o gynnydd y dysgwyr o dan y Cwricwlwm i Gymru.
O fis Medi 2023 ymlaen, caiff sgoriau’r asesiadau eu cyfrifo’n unol â phroses ailsafoni, sy’n defnyddio dysgwyr 2022 i 2023 fel y garfan gyfeirio.
Mae cymorth ac arweiniad ar gael ar wefan yr asesiadau. Ar ôl cael mynediad at y wefan, cliciwch 'Help' i gael mynediad at:
fideos
canllaw i ddefnyddwyr
deunyddiau hyfforddi
asesiadau ymgyfarwyddo
I gael cymorth ar yr asesiadau personol, cysylltwch â:
y Ddesg Gymorth Asesiadau (ar gyfer ysgolion yn unig) ar 029 2026 5099 rhwng 8am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener
I gael cymorth ar reoli cyfrifon defnyddwyr Hwb yr ysgol, cysylltwch â hwb@llyw.cymru neu 0300 0252525.
Mae gweminarau ar gyfer athrawon ar gael ar system yr asesiadau personol.
Mae’r astudiaethau achos hyn yn amlygu’r defnydd o asesiadau personol i dargedu a gwella canlyniadau’r dysgwyr.
Mae gwybodaeth i rieni a gofalwyr hefyd ar gael.