Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Nod yr asesiadau hyn yw:

  • rhoi adborth i athrawon ar gryfderau plant a meysydd i’w datblygu ymhellach

  • helpu athrawon i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer dysgu eich plentyn

Bydd ysgolion yn penderfynu pryd a sut i rannu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd plant gyda rhieni a gofalwyr. Bydd hyn yn cynnwys yr adborth o asesiadau personol. Anogir ysgolion i rannu’r wybodaeth â rhieni a gofalwyr tra bod yr wybodaeth yn gyfredol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu aros tan yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol. Er enghraifft, gallai’r athro neu’r athrawes rannu’r wybodaeth mewn noson rieni i drafod cynnydd eich plentyn yn seiliedig ar:

  • adborth o un neu fwy o asesiadau

  • sylwadau’r athro neu’r athrawes o addysgu eich plentyn

Trosolwg

Asesiadau personol: Cyflwyniad i rieni a gofalwyr

Asesiadau personol: esbonio’r adborth i ddysgwyr

Gwneir yr asesiadau personol ar-lein ac maent yn addasol. Mae hyn yn golygu y caiff y cwestiynau eu dewis ar sail ymateb plentyn i'r cwestiynau blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu sydd wedi'i deilwra ar gyfer pob plentyn. Bydd yn helpu pob plentyn i ddatblygu ei sgiliau drwy ddeall:

  • yr hyn y gallant ei wneud

  • yr hyn y mae angen iddynt ei wella

  • ei gamau nesaf

Mae'r asesiadau yn rhoi gwybodaeth i ysgolion am sgiliau:

  • plant unigol

  • grwpiau o blant

  • dosbarthiadau cyfan

Nid oes unrhyw adeg benodol o’r flwyddyn wedi’i phennu ar gyfer asesiadau personol na ‘chyfnod asesu’. Mae’r amseriad yn cael ei benderfynu gan yr ysgol.

Gall y plant gwneud yr asesiadau naill ai mewn grwpiau bach neu grwpiau mawr, yn dibynnu ar ddewisiadau a chyfleusterau'r ysgol.

Mae rhaid i blant wneud yr asesiadau unwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Gall ysgolion hefyd ddefnyddio'r asesiad unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn academaidd.


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Sadwrn, 1 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 14 Hydref 2026