Platfform gwe newydd Hwb ar 27 Hydref: beth i'w ddisgwyl yn ystod hanner tymor
Er mwyn symud i'r platfform gwe newydd, bydd angen diweddaru rhai gwasanaethau Hwb yn ystod y gwyliau. Bryd hynny, efallai na fydd y platfform neu rai gwasanaethau gwe ar gael o bryd i’w gilydd.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi
Dylai ysgolion, lleoliadau a sefydliadau wybod y gallai rhai gwasanaethau gwe Hwb beidio â bod ar gael am gyfnodau byr, tra bydd y newid yn digwydd.
Rydym yn argymell eich bod chi’n gwneud y canlynol:
dweud wrth eich cydweithwyr y gallai rhai gwasanaethau gwe beidio â bod ar gael o bryd i’w gilydd
gwirio Hwb i gael y newyddion diweddaraf cyn ac ar ôl y newid
ni fydd hyn yn effeithio ar wasanaethau cwmwl e.e Microsoft, Google ac Apple
Rhagolwg o'r platfform Hwb newydd
Mae rhagolwg o'r platfform Hwb newydd ar gael nawr:
Camau i’w cymryd yn awr
Er mwyn helpu i sicrhau newid didrafferth, dilynwch y camau gweithredu yn ein canllawiau paratoi cyn gynted ag y gallwch.
Bydd y camau hyn yn helpu i sicrhau bod eich defnyddwyr yn gallu defnyddio’r platfform newydd pan fydd ar gael.
Rhwydweithiau Hwb
Diweddariad am Rwydweithiau Hwb
Rhestrau Chwarae Hwb
Diweddariad am Restrau Chwarae Hwb
Gallwch hefyd ddysgu sut i ail-greu rhestrau chwarae gan ddefnyddio Adobe Express:
Ail-greu Rhestrau Chwarae Hwb yn Adobe Express
Edrych ymlaen
Mae'r platfform Hwb newydd wedi'i greu i roi profiad mwy modern a hyblyg i ddefnyddwyr ledled Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd yn ystod y cyfnod pontio, a byddwn yn rhannu diweddariadau os bydd unrhyw newidiadau i argaeledd y gwasanaeth.