Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu

Mae Rhaglen Gymorth Genedlaethol Llywodraeth Cymru yn rhoi'r eglurder, yr arbenigedd a'r offer ymarferol i ysgolion a lleoliadau er mwyn creu cwricwlwm hyderus a chydlynol.
14 Hydref 2026

Yr hyn mae'r rhaglen yn ei gynnig

  • Disgwyliadau clir y gellir gweithredu arnynt trwy drosi canllawiau cenedlaethol yn gamau ymarferol y gallwch eu defnyddio ar unwaith

  • Tasgau â ffocws yn yr ysgol sy'n eich helpu i gymhwyso syniadau yn eich lleoliad eich hun a dyfnhau'r hyn a ddysgir

  • Dysgu proffesiynol cydweithredol trwy greu lle i rannu heriau, archwilio datrysiadau a meithrin dealltwriaeth ar y cyd.

Mynediad unigryw i'r athrofa ar gyfer:

  • cynllunio'r Cwricwlwm i Gymru: adnoddau parod i ymarferwyr, gan gynnwys esiamplau sy'n addas i ymarferwyr, modelau a thempledi parod i'w defnyddio, yn ogystal ag offer i gefnogi gwaith cynllunio cwricwlwm strwythuredig

  • hyfforddiant arbenigol: cymorth wedi'i dargedu er mwyn cryfhau prosesau gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r cwricwlwm, egluro eich bwriad, nodi blaenoriaethau ystyrlon a'r camau nesaf, a'ch helpu i oresgyn heriau yn hyderus.

Ymunwch â’r garfan nesaf

  • Carfan 10: Prynhawn Iau, 2pm i 4:30pm, yn dechrau 5 Tachwedd 2026

Cofrestru

Cofrestrwch un ymarferydd ac un uwch-arweinydd. Bydd pob lleoliad neu ysgol gofrestredig yn derbyn £1500 fesul ymarferydd ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus.

Gallwch gofrestru i ymuno â'r rhaglen drwy lenwi’r ffurflen Rhaglen Gymorth Gefnogaeth Genedlaethol ar gyfer Cynllunio Cwricwlwm a Threfniadau Asesu.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf