Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Trosolwg

Ystyr iaith casineb ar-lein yw cynnwys sy'n targedu nodweddion gwarchodedig. Mae 'nodweddion gwarchodedig' yn agweddau ar hunaniaeth person, gan gynnwys:

  • hil

  • oedran

  • rhyw

  • anabledd

  • crefydd

  • hunaniaeth drawsryweddol

  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae'r nodweddion hyn wedi cael eu diogelu rhag gwahaniaethu. Mae iaith casineb ar-lein yn cynnwys ysgogi, lledaenu neu hyrwyddo casineb neu wahaniaethu oherwydd bod gan yr unigolyn y nodweddion hyn.

Beth i'w wneud os ydych chi'n destun casineb ar-lein neu yn gweld achosion o hynny

Warning

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, wedi bod yn destun casineb ar-lein, gallwch roi gwybod am hyn i'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth. Gallwch wneud hynny ar-lein neu dros y ffôn ar 0300 30 31 982. Mae gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu cymorth emosiynol i ddioddefwyr. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddwyieithog.

Gall casineb ar-lein sy'n annog trais all-lein hefyd roi diogelwch pobl mewn perygl. Mae digwyddiadau sy'n ymwneud â phobl ifanc, naill ai fel dioddefwyr neu droseddwyr, yn faterion diogelu difrifol. Dylid rhoi gwybod amdanyn nhw bob amser i berson diogelu dynodedig yr ysgol, yn unol â gweithdrefnau'r ysgol.

Y cymhellion y tu ôl i gasineb ar-lein

Mae casineb ar-lein yn aml yn dod yn sgil ofni pobl sy'n wahanol. Gall hyn fod oherwydd anwybodaeth, neu gred person eu bod yn well neu'n 'normal' a bod unrhyw un sy'n wahanol iddyn nhw yn israddol.

Gall pobl sy'n creu ac yn rhannu cynnwys casineb ar-lein fod yn targedu unigolyn penodol neu'n anelu eu casineb at grŵp cyfan. Mae sawl rheswm pam y gall pobl rannu safbwyntiau dadleuol ar-lein. Efallai y byddan nhw’n gweld hynny fel 'gêm' neu'n awyddus i ddechrau ffrae, gan y gall cynnwys atgas yn aml ennyn emosiynau cryf. Efallai y bydd eraill yn gweld cynnwys casineb yn ddoniol, oherwydd nad ydyn nhw’n gwerthfawrogi'r effaith y gall eu cam-drin ei chael.

Effeithiau casineb ar-lein

Mae casineb ar-lein yn aml yn defnyddio geiriau neu ddelweddau sarhaus, negyddol i wneud i berson neu grŵp swnio yn israddol i eraill mewn cymdeithas. Gall cael eich targedu gan y math hwn o ymddygiad beri gofid mawr.

Gall gael effaith ddifrifol ar:

  • iechyd meddwl

  • hyder

  • ymdeimlad o hunan-werth

Mae'n bwysig cofio bod posibl i gynnwys sy'n cael ei bostio ar-lein gael effaith ar yr unigolyn a'i bostiodd yn y dyfodol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os cafodd ei bostio trwy gamgymeriad, neu heb ddealltwriaeth lawn. Bob tro rydych chi'n postio ar-lein rydych chi'n gadael ôl troed digidol.

Dylanwad ar y cyfryngau

Gall cyfryngau cymdeithasol, safleoedd newyddion ar-lein a fforymau eraill weithiau ddod yn fannau lle mae casineb yn cael ei fynegi a'i amlygu. Mae rhywfaint o gynnwys ar y llwyfannau hyn wedi'i greu i fwydo camwybodaeth ac i atgyfnerthu stereoteipiau.

Gall camwybodaeth helpu i feithrin casineb ar-lein. Gall hyn o bosibl ddylanwadu ar unigolion i weithredu mewn ffyrdd atgas neu hyd yn oed dreisgar tuag at bobl neu grwpiau penodol.

Mae safleoedd newyddion ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wedi ei gwneud hi'n hawdd i bobl gysylltu â'i gilydd i rannu digwyddiadau cyfredol a barn. Er y gall hyn fod yn beth cadarnhaol, mae rhai pobl yn eu defnyddio i greu a rhannu cynnwys sy'n camarwain y cyhoedd neu sy'n atgyfnerthu stereoteipiau presennol. Gall camwybodaeth fod yn un o'r prif bethau i sbarduno casineb ar-lein.

Effaith deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol

Er y gellir defnyddio AI cynhyrchiol i frwydro yn erbyn iaith casineb ar-lein trwy dynnu sylw at gynnwys niweidiol, gellir ei gamddefnyddio hefyd er mwyn:

  • creu cynnwys sy'n gwahaniaethu

  • amlygu a chynyddu cyrhaeddiad negeseuon niweidiol


Cyhoeddwyd gyntaf
Dydd Llun, 27 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf
Dydd Mercher, 26 Tachwedd 2025