Mae newyddion ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol yn rhoi mynediad rhwydd inni at wybodaeth a chysylltiadau sydyn. Fodd bynnag, mae'r rhain yn aml yn fannau heb eu rheoleiddio lle mae gwybodaeth anwir neu gamarweiniol yn gallu:
lledaenu'n gyflym
achosi niwed mawr
Camwybodaeth yw'r enw ar hyn.
Mae llythrennedd yn y cyfryngau yn chwarae rhan hanfodol o ran gwella gallu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol. Mae'n eu gwneud yn fwy gwybodus a chraff o ran eu defnydd o'r newyddion a sylwi ar gamwybodaeth.
Mae camwybodaeth wedi'i dylunio i gael ei chredu ac nid yw bob amser yn hawdd gwahaniaethu. Mae gwahanol dermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.
Mae camwybodaeth yn wybodaeth anwir neu anghywir. Gall fod ar ffurf:
postiad ar y cyfryngau cymdeithasol
llun go iawn neu wedi'i olygu
clip fideo
memyn (meme)
stori newyddion
Gall camwybodaeth gael ei rhannu gan rywun heb iddyn nhw sylweddoli bod yr wybodaeth yn anwir neu'n anghywir.
Mae twyllwybodaeth yn debyg i gamwybodaeth ond mae'n cael ei chreu'n fwriadol er mwyn:
twyllo
camarwain
dylanwadu
Gallai hyn fod at ddibenion personol, gwleidyddol neu economaidd. Gall twyllwybodaeth fygwth ein gwerthoedd a'n hegwyddorion gan danseilio ein:
diogelwch
diogeledd
cymunedau
ymddiriedaeth
Defnyddir 'newyddion ffug' i ddisgrifio cynnwys anghywir neu gamarweiniol sy'n aml yn gynyrfiadol neu'n cyffwrdd â'r teimladau. Gall gynnwys camwybodaeth, twyllwybodaeth neu'r ddau fath.
Cynnwys yw abwyd clicio sydd wedi'i ddylunio i ddenu eich sylw a'ch annog i glicio ar ddolen sy'n mynd â chi i gynnwys ar-lein arall, er enghraifft:
erthygl
delwedd
fideo
Yn hytrach na chyflwyno ffeithiau gwrthrychol, mae abwyd clicio yn tynnu ar eich emosiynau a'ch chwilfrydedd.
Mae 'ffugiad dwfn' yn cyfeirio at lun, fideo neu sain sydd wedi'i newid yn ddigidol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI). Gall ffugiadau dwfn dwyllo pobl drwy bortreadu rhywbeth na ddigwyddodd mewn gwirionedd.
Mae gwybodaeth faleisus yn gyfystyr â gwneud y canlynol yn fwriadol:
cyhoeddi gwybodaeth breifat er budd personol neu breifat
camddefnyddio cynnwys dilys
Nid yw'r wybodaeth hon yn wybodaeth anwir o ran natur, ond mae'n ymwneud â gwybodaeth a ledaenir i achosi niwed.
Gall AI cynhyrchiol gynhyrchu yn gyflym gynnwys fel:
fideos ffugiad dwfn
delweddau ffugiad dwfn
sain ffugiad dwfn
gwybodaeth anwir
Mae hyn yn ei gwneud yn haws i actorion â bwriadau drwg gynhyrchu a lledaenu camwybodaeth fwy argyhoeddiadol ar raddfa fawr.
Mae cyfrifon bot ar y cyfryngau cymdeithasol yn broffiliau awtomataidd sydd wedi'u dylunio i ddynwared ymddygiad dynol. Mae'r cyfrifon hyn yn ymgysylltu â chynnwys, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol, trwy ei hoffi, ei rannu neu ei riportio.
Gall rhagfarn cadarnhau effeithio ar sut yr ydym yn dod o hyd i wybodaeth ac yn chwilio amdani. Efallai y byddwn yn chwilio am wybodaeth, yn dehongli gwybodaeth ac yn cofio gwybodaeth sy'n cyd-fynd â'n barn bresennol. Gall hyn arwain at ddealltwriaeth anghyflawn neu anghywir o faterion, digwyddiadau neu bynciau. Er enghraifft, pan fyddwn yn teimlo'n gryf am bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, efallai y byddwn yn ei 'hoffi' neu'n ei rannu heb wirio a yw'n wir.
Mae algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn personoli ffrydiau i ddangos cynnwys i ddefnyddwyr y maen nhw’n debygol o ymgysylltu ag ef. Gall hyn arwain at siambrau adlais, neu swigod hidlydd, lle rydych chi'n fwy tebygol o weld cynnwys sy'n cyd-fynd â'ch safbwyntiau presennol.
Ystyriwch a yw'r wybodaeth yn dod o ffynhonnell gredadwy. Meddyliwch pwy greodd y cynnwys a beth allai eu cymhellion fod. Ystyriwch bwrpas yr wybodaeth. Gwiriwch enw'r parth neu'r URL, gall ymddangos yn anarferol neu'n debyg i wefan adnabyddus a dibynadwy.
Mae camwybodaeth yn aml yn cael ei llunio mewn ffordd sy'n dal sylw ac yn annog pobl i ymgysylltu â hi. Gall y pennawd fod yn frawychus neu ennyn emosiwn. Ystyriwch a yw’r testun wedi'i ysgrifennu fel ffaith, barn neu barodi hyd yn oed. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr erthygl lawn, ac nid y pennawd yn unig.
Edrychwch ar gywirdeb y stori trwy gymharu ei chynnwys â ffynonellau eraill. Os na allwch gadarnhau'r wybodaeth yn rhywle arall, ystyriwch a yw'n debygol o fod yn wir. Gofynnwch am ail farn.
Mae Full Fact yn sefydliad gwirio ffeithiau annibynnol.
Mae Snopes yn wefan gwirio ffeithiau â'r nod o chwalu neu gadarnhau mythau trefol sydd wedi'u lledaenu'n eang.
Mae BBC Verify yn dwyn ynghyd arbenigwyr ym meysydd twyllwybodaeth, Open Source Intelligence (OSINT) a dilysu o bob rhan o'r BBC.
Mae FactCheck Channel 4 yn gwirio ffeithiau mewn areithiau, dadleuon ar y teledu, cyfweliadau yn y cyfryngau, erthyglau ar-lein, addewidion maniffesto a mwy.