Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Yr Astudiaeth Ryngwladol o Dueddiadau mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth (TIMSS) 2027

Bydd Cymru yn ymuno â TIMSS 2027, gan gyfrannu at dystiolaeth ryngwladol ar gyrhaeddiad dysgwyr Blwyddyn 5 mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
3 Tachwedd 2026

Astudiaeth ryngwladol yw TIMSS, sy'n asesu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion ym Mlwyddyn 5 o fathemateg a gwyddoniaeth.

Pwy fydd yn cymryd rhan

Bydd tua 150 o ysgolion cynradd a 4,500 o ddisgyblion Blwyddyn 5 ledled Cymru yn cymryd rhan. Bydd ysgolion yn cael eu dewis ar hap drwy broses samplu y cytunwyd arni yn rhyngwladol i sicrhau bod y canlyniadau yn cynrychioli dysgwyr ar draws Cymru.

Pam mae TIMSS yn bwysig

Mae TIMSS yn darparu tystiolaeth ryngwladol werthfawr ynghylch pa mor dda y mae dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio adnoddau dysgu proffesiynol, y broses o ddatblygu'r cwricwlwm ac arferion dosbarth, gan ategu'r ymdrechion i wella canlyniadau dysgwyr ledled Cymru.

Bydd canlyniadau ysgolion unigol yn cael eu cadw'n gyfrinachol, ac ni fyddant yn cael eu cyhoeddi na'u rhannu.

Dyddiadau pwysig

Cysylltir â'r ysgolion a ddewiswyd i gymryd rhan yn ystod mis Tachwedd 2026. Bydd yr asesiadau yn cael eu cynnal ar ddyddiad i'w gytuno â phob ysgol rhwng 17 Mai a 2 Gorffennaf 2027.

Bydd ysgolion sy'n cymryd rhan yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses gan Pearson, sydd wedi'u penodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr astudiaeth yng Nghymru.

P'un a yw ysgol yn cael ei dewis i gymryd rhan ai peidio, bydd y canlyniadau cenedlaethol yn darparu gwybodaeth bwysig i helpu i wella'r ddealltwriaeth o berfformiad dysgwyr mewn mathemateg a gwyddoniaeth ledled Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymru TIMSS 2027 Pearson.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf