Llunio Dyfodol Cymru: un system gysylltiedig i bob dysgwr
Bydd yn gyfle i glywed gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, CAL:ON, Estyn, Dysgu ac eraill.
Bydd y cyrff sy’n derbyn ein grantiau rhaglen gymorth a'n rhanddeiliaid yn ein marchnadle, ac rydym wedi neilltuo digon o amser i chi rwydweithio â chydweithwyr o ysgolion ledled Cymru.
Archebwch eich lle
Mae’r nifer o leoedd mewn person yn gyfyngedig, felly rydym yn eich annog i archebu'n gynnar. Os na allwch fynychu, gallwch archebu lle i wylio’r digwyddiad trwy ffrwd fyw.
I gadarnhau eich lle, cwblhewch y ffurflen archebu erbyn 14 Tachwedd 2026.
Bydd agenda a manylion pellach yn cael eu rhannu gyda chi wythnos yn dechrau 9 Tachwedd 2026.