Rhifau Unigryw y Dysgwyr: data arholiadau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, y Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr, a CBAC i wella'r ffordd y mae data canlyniadau arholiadau yn cael eu rhannu. Rydym yn blaenoriaethu rhannu data canlyniadau unigol drwy'r Gwasanaeth Cofnodion Dysgwyr ar gyfer y cymwysterau TGAU newydd.
Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod y broses o drosglwyddo data dysgwyr yn gywir yn hollol ddibynnol ar Rifau Unigryw y Dysgwyr dilys. Felly, rydym yn gofyn i ganolfannau gynnal gwiriadau cadarn i sicrhau bod y Rhifau yn gywir, cyn cofrestru dysgwyr ar gyfer arholiadau.
Beth yw Rhifau Unigryw y Dysgwyr
Mae Rhif Unigryw y Dysgwr yn gyfeirnod 10 digid a roddir i unigolion 13 oed a hŷn sy'n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant yng Nghymru (a'r DU). Mae'n gysylltiedig â Chofnod Dysgu Personol y dysgwr, sy'n cynnwys ei gymwysterau a'i lwyddiannau. Mae'r rhif yn unigryw ac yn aros gyda'r dysgwr trwy gydol ei daith drwy addysg a hyfforddiant.
Rhagor o wybodaeth
Mae canllawiau pellach ar ddefnyddio a chael Rhifau Unigryw y Dysgwyr ar gael ar dudalen Schools in Wales: how to create a ULN (gov.uk) (Saesneg yn unig).