Byddwch yn barod am yr asesiadau personol
Er mwyn helpu lleddfu unrhyw bryder y gall dysgwyr ei deimlo am eu hasesiadau personol, mae’n bwysig bod athrawon yn eu hatgoffa mai bwriad yr asesiadau yw nodi sut i gefnogi eu dysgu a’u cynnydd orau.
Bydd sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio’r asesiadau ymgyfarwyddo yn gyntaf yn eu helpu i ddeall sut i lywlio’r system a’r mathau o gwestiynau y gallent eu gweld (er enghraifft llusgo a gollwng, dewis neu deipio).
Rhestrau gwirio ar gyfer dysgwyr ac athrawon
Mae gwybodaeth ymarferol am amserlennu a chyflwyno’r asesiadau, gan gynnwys rhestrau gwirio ar gyfer dysgwyr ac athrawon, ar gael yn y canllaw i ddefnyddwyr ar safle we’r asesiadau. Mae rhestr wirio’r athrawon yn rhestru’r camau i’w cymryd cyn ac yn ystod yr asesiadau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod chi’n mynd drwy restr wirio’r dysgwyr gyda’ch dysgwyr cyn iddynt wneud eu hasesiadau.
Mae rhestr wirio’r dysgwyr yn darparu trosolwg o’r hyn y gall dysgwyr ei ddisgwyl yn eu hasesiadau gan gynnwys sut mae’r asesiad yn addasu wrth ymateb i’w hatebion. Mae hefyd yn eu hatgoffa nad yw’n bosibl mynd nôl i wirio’r atebion.
Rhifedd
Ar gyfer y ddau asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol) a Rhifedd (Rhesymu), dylai fod papur a phensil neu feiro gan bob dysgwr. Dylai’r athrawon yn eu hannog i’w defnyddio i weithio eu hatebion allan.
Yn yr asesiad personol Rhifedd (Gweithdrefnol):
Ni chaniateir defnyddio cyfrifianellau nac offer eraill, gan gynnwys y rhai sydd ar y cyfrifiadur neu ar-lein.
Yn yr asesiadau personol Rhifedd (Rhesymu):
Caiff dysgwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3 ddefnyddio cyfrifiannell ac offer arall, a allai gynnwys trinolion, os ydynt fel arfer yn eu defnyddio yn y dosbarth.
Caiff dysgwyr ym Mlwyddyn 4 ac uwch ddefnyddio cyfrifiannell. Gallant hefyd ddefnyddio offer eraill, gan gynnwys trinolion (os yw’r athro neu’r athrawes yn barnu eu bod yn addas).
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial
Mae’r rhestrau gwirio’r athrawon a dysgwyr wedi’u diweddaru i egluro na chaniateir defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn ystod unrhyw asesiad personol. Cynghorir ysgolion i oruchwylio’r dysgwyr mor agos â phosibl yn ystod yr asesiadau. Mae’r canllaw i ddefnyddwyr wedi’i ddiweddaru i gynnwys cyngor cyffredinol ar gyfer ysgolion ar ddefnyddio DA yn yr asesiadau.
Mae nodyn atgoffa o’r pwyntiau uchod i’w weld yn y canllaw i ddefnyddwyr pan fyddwch yn mewngofnodi i system yr asesiadau personol.