Enwebu cydweithwyr addysg ar gyfer Gwobr Dewi Sant
Cydnabod y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth
Rydym yn annog gweithlu addysg Cymru i enwebu cydweithwyr ar gyfer cydnabyddiaeth mewn 2 gategori gwobr: Er Lles ein Plant a Gwasanaethu’r Cyhoedd.
Er Lles ein Plant
Mae'r wobr hon yn cydnabod unigolyn, grŵp neu sefydliad sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i wella bywydau plant yng Nghymru. Gallai hyn gynnwys y rhai sy'n gweithio ym maes addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, chwaraeon, y celfyddydau neu'r sector gwirfoddol, neu unrhyw un y mae eu hymroddiad, eu harloesedd neu'u heiriolaeth wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i fywydau plant.
Gwasanaethu’r Cyhoedd
Mae'r wobr hon yn cydnabod unigolyn neu dîm sy'n gweithio ar y rheng flaen o wasanaethau cyhoeddus a sydd wedi mynd y tu hwnt i ddarparu gwasanaeth eithriadol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ar draws iechyd, addysg, gofal cymdeithasol, gwasanaethau brys a phob gwasanaeth cyhoeddus rheng flaen arall.
Cyflwyno enwebiad
Enwebwch nawr a darganfyddwch fwy ar LLYW.CYMRU.
Mae'r enwebiadau'n cau ar 4 Rhagfyr 2026.