ARWAIN: rhaglen ddysgu broffesiynol newydd i benaethiaid profiadol yng Nghymru
Ystyr ARWAIN
Nid cymhwyster na chwrs arweinyddiaeth draddodiadol yw ARWAIN. Yn hytrach, mae'n cynnig cyfle unigryw i benaethiaid profiadol gamu'n ôl o ofynion gweithredol bob dydd, cydweithio â chyfoedion o bob rhan o Gymru, archwilio heriau addysgol cymhleth a chryfhau eu dylanwad ar draws y system addysg ehangach.
Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar 6 egwyddor allweddol:
Awen
Rhoi amser i fyfyrio
O wybodaeth i ddoethineb
Arweiniad
Dylanwad
Nerth drwy rwydweithiau
Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn tri phrofiad arweinyddiaeth preswyl yn ystod 2027, gyda chefnogaeth grwpiau dysgu arweinyddiaeth, hyfforddiant, her gan gyfoedion, ymholi cydweithredol a datrys problemau mewn cyd-destunau go iawn. Bydd pob cyfranogwr hefyd yn datblygu arteffact arweinyddiaeth ymarferol a fydd yn cyfrannu at wella addysg ledled Cymru.
Mae ARWAIN wedi'i anelu at benaethiaid profiadol sydd wedi bod yn eu swydd am o leiaf 3 blynedd, sydd â hanes cryf o sicrhau gwelliant ysgol, ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ac awydd i gyfrannu at ddyfodol addysg yng Nghymru.
Gwnewch gais nawr
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp ddydd Iau 19 Tachwedd.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais ar wefan Dysgu.