Astudiaeth ymchwil genedlaethol ar beth mae disgyblion ysgol uwchradd yn ei feddwl am ddysgu, presenoldeb a lles
Mae Astudiaeth Aml-Garfan WISERD (WMCS), dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, yn gwahodd ysgolion uwchradd ledled Cymru i gymryd rhan yn yr astudiaeth ymchwil genedlaethol hon sy'n edrych ar brofiadau pobl ifanc o dyfu i fyny a mynd i’r ysgol yng Nghymru.
Mae pob ysgol sy'n cymryd rhan yn cael adroddiad pwrpasol sy'n rhoi dadansoddiad manwl o ymatebion ei disgyblion ei hun, ynghyd â data cymharu cenedlaethol.
Archwiliwch:
agweddau at ddysgu
rhesymau dros absenoldeb
lles disgyblion
ethos ac ymdeimlad o berthyn yn yr ysgol
ynghyd â safbwyntiau ar faterion ehangach megis DA a chydraddoldeb
Cewch weld sut mae profiadau eich disgyblion yn cymharu â phrofiadau pobl ifanc ledled Cymru, canfod meysydd o gryfder a chyfleoedd i ddatblygu a chefnogi eich hunanwerthusiad a chynllunio gwelliannau.
Mae pob ymateb yn ddienw, ni fydd ysgolion sy'n cymryd rhan cael eu datgelu ar unrhyw adeg. Gallwn gadw eich adroddiad at ddibenion mewnol, neu ei rannu ag arolygwyr, staff, myfyrwyr, rhieni a llywodraethwyr.
Er nad oes unrhyw rwymedigaeth arnoch chi i gymryd rhan fwy nag unwaith, mae'r astudiaeth yn astudiaeth parhaus, sy'n rhoi'r cyfle i chi gadw golwg ar newidiadau dros amser ac asesu effaith strategaethau newydd.
Cymerwch ran neu dysgwch fwy
Mae cymryd rhan yn syml. Mae'r arolwg yn digwydd rhwng mis Chwefror 2027 tan ddiwedd tymor y gwanwyn. Bydd disgyblion yn treulio 20 munud yn llenwi holiadur ar-lein mewn ystafell ddosbarth o dan oruchwyliaeth.
Rydyn ni’n cynnig y ddolen, y ffurflenni cydsynio optio allan i rieni a gwarcheidwad a'r holl wybodaeth a chymorth sydd ei angen arnoch chi.
Ymunwch â'n sesiwn ar-lein ar gyfer ysgolion uwchradd am 3:30yp ar 7 Rhagfyr 2026. Byddwch chi’n clywed am ein canfyddiadau diweddaraf, dod i wybod beth allai eich ysgol ei ennill drwy gymryd rhan, gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau yn uniongyrchol i'r tîm ymchwil.
I gofrestru ar gyfer y sesiwn, gofyn am ragor o wybodaeth neu fynegi diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni drwy ebostio WMCS@caerdydd.ac.uk.