Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ysgolion o bob cwr o Gymru yn nodi Wythnos Gwrthfwlio

Ar 17 Tachwedd, daeth dysgwyr, ymarferwyr addysg a sefydliadau partner o bob cwr o Gymru at ei gilydd ar gyfer digwyddiad gwrthfwlio Llywodraeth Cymru.
18 Tachwedd 2026

Roedd y digwyddiad gwrthfwlio, a gynhaliwyd gan Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn gyfle i:

  • rannu arferion effeithiol

  • clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc

  • arddangos yr ystod o adnoddau a chymorth sydd ar gael i helpu ysgolion i atal ac ymateb i fwlio.

Agorodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan, y digwyddiad yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, gan dynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd i fynd i'r afael â bwlio. Cyfeiriwyd at:

  • ganllawiau diwygiedig 'Herio bwlio ac aflonyddu: hawliau, parch, cydraddoldeb' i ysgolion ac adnoddau ategol

  • camau penodol i fynd i'r afael â bwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys gwaith Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL), a datblygu'r gofyniad i roi gwybod am achosion

  • gwaith Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddarach yn y dydd, ymunodd cynrychiolwyr o'r Grŵp Ieuenctid â Praesidio Safeguarding, arbenigwyr diogelwch ar-lein a hwyluswyr y grŵp, i rannu safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc o fwlio ar-lein mewn sesiwn a oedd yn gwneud i rywun feddwl.

Ymhlith yr adnoddau a lansiwyd y diwrnod hwnnw roedd:

  • Dewis Parch: adnodd gwrthfwlio newydd gan Lywodraeth Cymru i ddysgwyr pob cam cynnydd, a ddatblygwyd drwy gydweithrediad rhwng Adnodd, AIMates, ImpactEd, Flatboy a BulliesOut.

  • C2CHAT: Dy Lais Ar Waith – animeiddiad a thaflen sy'n herio aflonyddu rhywiol ar-lein, a ddatblygwyd gyda phobl ifanc drwy brosiect ymchwil Prifysgol Abertawe a stiwdio gynhyrchu Sleeping Giant.

  • Pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2027: adnoddau Canolfan Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y DU ar gyfer dysgwyr 3 i 18 oed, sy'n archwilio lles digidol ac yn hyrwyddo arferion diogel a chyfrifol ar-lein.

Rhannodd Atebol y diweddaraf ar becyn cymorth gwrthfwlio newydd, sy'n cael ei ddatblygu i helpu ysgolion, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol i gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau.

Gosododd Dysgu y cyd-destun o ran dysgu proffesiynol ac annog y gwrandawyr i ystyried sut y gall ymarfer cynhwysol a theg wella lefelau lles, presenoldeb ac ymddygiad.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle pwysig i glywed yn uniongyrchol gan ysgolion. Rhannodd Ysgol Uwchradd David Hughes ac Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna eu profiadau ac enghreifftiau o sut y gall gweithredu mewn ffordd gynhwysol ar lefel ysgol gyfan wneud gwahaniaeth i ddysgwyr.

Cyflwynodd Ian Gwyn Hughes a Joe Allen wobrau i ddysgwyr ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gan atgyfnerthu'r arfer pwysig o ddarparu modelau rôl cadarnhaol a herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol.

Rhannodd Nigel Owens MBE, Noddwr BulliesOut, ei brofiadau ei hun mewn cyfraniad pwerus a phersonol, cyn cyhoeddi enillwyr Gwobrau Staff Gwrthfwlio mewn ysgolion eleni:

  • Enillydd ysgolion cynradd: Mrs Keegan, Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin

  • Enillydd ysgolion uwchradd: David Joliffe, Ysgol Aberconwy

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bob siaradwr, ysgol a sefydliad a gefnogodd y digwyddiad.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf