Canllaw cynhwysfawr i ffoneg i ysgolion yng Nghymru
Mae’r Canllaw i Ffoneg i Ysgolion yng Nghymru yn dwyn ynghyd y dystiolaeth ddiweddaraf ar ffoneg synthetig systematig (FfSS), â chyngor ymarferol i addysgwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg, Saesneg a dwyieithog. Mae’r canllaw wedi'i lunio mewn ymateb i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddysgu FfSS fel rhan o'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a'i nod yw helpu ysgolion i ddarparu dulliau addysgu ffoneg o ansawdd uchel yn hyderus.
Mae'r Canllaw llawn i Ysgolion ar gael ochr yn ochr â Chrynodeb i Athrawon a Chynorthwywyr Dysgu, fersiwn sy'n fyrrach ac yn haws troi ato'n gyflym, er mwyn cefnogi ymarferwyr yn eu gwaith addysgu. Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn cynnig dull cydlynol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer elfen allweddol o addysg llythrennedd.
Pam mae'r Canllaw yn bwysig
Mae darllen yn un o'r sylfeini pwysicaf ar gyfer llwyddiant addysgol ac mae FfSS yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi datblygiad dysgwyr. Mae’r Canllaw hefyd yn cefnogi ysgolion i addysgu ffoneg ar draws y ddwy iaith.
Mae'r canllaw newydd yn egluro'r wyddoniaeth sy'n sail i addysgu ffoneg, ac yn nodi sut y gall ysgolion roi FfSS ar waith yn effeithiol. Wedi’i ddatblygu ar gyfer system addysg ddwyieithog Cymru, mae’r canllaw yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn egluro sut y gall addysgu ddatblygu gwybodaeth bresennol dysgwyr pan fyddant yn dechrau darllen mewn iaith arall. Mae’r canllaw hefyd yn cynnig cyngor ar ddewis adnoddau ffoneg o ansawdd uchel.
Beth sydd yn y Canllaw
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys:
eglurhad clir o ffoneg a sut mae’n cyfrannu at sgiliau darllen a sillafu
canllaw ymarferol ar ddysgu FfSS yn y Gymraeg a’r Saesneg
cyngor ar asesu, gwirio cynnydd, ac addasu dulliau addysgu
cefnogaeth i ddysgwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys dysgwyr hŷn
arweiniad ar ddewis testunau ar gyfer ymarferion dadgodio a darllen ehangach
rhestr wirio i helpu ysgolion i werthuso rhaglenni ac adnoddau ffoneg
cymhariaeth o gyfatebiaethau llythyren-sain yn y Gymraeg a'r Saesneg
Mae’r Canllaw i Ffoneg i Ysgolion yng Nghymru, a’r Crynodeb cysylltiedig ar gyfer Athrawon a Chynorthwywyr Dysgu, ar gael ar wefan Prifysgol Bangor.