Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Ymgynghoriad ar ganllawiau Manylion cynnydd mathemateg a rhifedd

Hoffem gael eich barn ar ganllawiau arfaethedig ar gynnydd mewn mathemateg a rhifedd ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.
25 Tachwedd 2026

Fel rhan o'r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu i roi mwy o eglurder ynghylch beth y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd. Mae hefyd yn cefnogi ymarferwyr, athrawon ac arweinwyr i ddeall sut mae'r meddwl mathemategol yn datblygu drwy brofiadau dysgwyr.

Panel Arbenigol ar Rifedd

Mae'r canllawiau wedi'u llywio gan gyngor Panel Arbenigol ar Rifedd, sy'n cynnwys arbenigwyr o bob rhan o Gymru a'r DU sydd â phrofiad o addysgu, arweinyddiaeth addysgol, hyfforddiant athrawon ac ymchwil academaidd.

Mae'r Panel wedi ystyried tystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Estyn, Adnodd, Dysgu, darparwyr cymorth cenedlaethol a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu polisi ac arweiniad.

Dweud eich dweud

Bydd eich adborth yn helpu i sicrhau bod y canllawiau'n darparu'r eglurder y mae ymarferwyr wedi gofyn amdano ac yn adnodd defnyddiol ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm, addysgu a dysgu ledled Cymru.

Darllenwch ragor ar ein blog Addysg Cymru ac ymatebwch i'r ymgynghoriad drwy LLYW. Cymru erbyn 22 Chwefror 2027.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf