Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Helpwch i lunio cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru yn y dyfodol

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ymarferwyr i helpu i lywio cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru yn y dyfodol.
23 Tachwedd 2026

Rydym am ddeall yr heriau sy'n wynebu ysgolion a lleoliadau yn well, pa gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd, a lle y gallai fod cyfle i gryfhau'r canllawiau, yr adnoddau a'r gefnogaeth i ymarferwyr, dysgwyr a theuluoedd.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall yr anghenion cyfredol yn well, nodi rhwystrau a blaenoriaethau, a llywio trefniadau polisi a chymorth yn y dyfodol.

Cwblhewch yr arolwg

Rhowch eich barn trwy gwblhau ein harolwg byr. Dylai'r arolwg gymryd tua 5 i 10 munud i'w gwblhau ac mae'n agored i ymarferwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau cynradd, uwchradd, ysgolion pob oed, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion/lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol ledled Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 5pm, ddydd Gwener 4 Rhagfyr.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf