Segura injan cerbyd: Cystadleuaeth creu baner ar gyfer ysgolion cynradd
Mae Llywodraeth Cymru yn annog athrawon ysgolion cynradd i drafod llygredd aer ac effaith segura injan cerbydau gyda’u dysgwyr.
Fel rhan o hyn, rydym yn gwahodd disgyblion i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu baner ar gyfer gatiau eich ysgol, i annog gyrwyr i ddiffodd eu peiriannau.
Gallech gynnal cystadleuaeth gyda'ch eco-bwyllgor, ar draws eich ysgol gyfan, neu ymuno ag eraill.
Dysgwch fwy a chymryd rhan
Mae canllaw byr i athrawon ar gael ar gyfer Blynyddoedd 3 i 6, ynghyd ag adnoddau i gefnogi trafodaethau. Darllenwch y canllaw i gael rhagor o wybodaeth, neu anfonwch e-bost at AirQualityPolicy@gov.wales os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Anfonwch eich dyluniad buddugol at AirQualityPolicy@gov.wales erbyn 29 Ionawr 2027 a bydd Llywodraeth Cymru yn argraffu’r faner i’ch ysgol gynradd ei harddangos.