Esboniadau ‘Educate Against Hate’ ar gael i ysgolion yng Nghymru
Mae'r adnoddau 'Educate Against Hate' wedi'u cynllunio i helpu ymarferwyr i feithrin eu dealltwriaeth o ystod o ideolegau niweidiol a dylanwadau ar-lein a all effeithio ar ddysgwyr.
Mae'r esboniadau yn darparu gwybodaeth hygyrch am naratifau niweidiol sy'n hyrwyddo:
misogynedd
damcaniaethau cynllwyn
terfysgaeth a thrais eithafol
Nod yr adnoddau yw cefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gynyddu ymwybyddiaeth o sut y gall naratifau niweidiol ddatblygu, yr effeithiau posibl ar les a pherthnasoedd, a'r arwyddion a all ddangos bod angen cymorth ar ddysgwr.
Gellir defnyddio'r esboniadau ochr yn ochr â dulliau diogelu a lles presennol sy’n helpu ysgolion i greu amgylcheddau diogel, cynhwysol lle gall dysgwyr ddatblygu sgiliau meddwl beirniadol ac adeiladu gwydnwch i ddylanwadau niweidiol.
Gweld yr esboniadau
Gallwch weld yr esboiadau dwyieithog ar wefan Educate Against Hate.