Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Adnoddau lles am ddim a chymorth gan Education Support

Darganfyddwch gymorth datblygu diwylliant, pecynnau cymorth lles ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu gweithdai am ddim, adnoddau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a gweminar arweinyddiaeth ar oruchwyliaeth.
26 Tachwedd 2026

Adborth y Gwasanaeth Datblygu Diwylliant

Darganfyddwch beth mae ysgolion yng Nghymru yn ei ddweud am ein Gwasanaeth Datblygu Diwylliant a chofrestrwch ar gyfer y rhaglen ariannol am ddim hon heddiw ar wefan Education Support.

Cymorth i Gynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu

Lawrlwythwch ein pecyn cymorth am ddim i'w rannu â Chynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yn eich ysgolion.

Rydym wedi recordio amrywiaeth o weithdai am ddim yn benodol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yng Nghymru ar YouTube. Rhannwch nhw gyda'ch tîm:

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Caiff Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ei nodi ar 10 Hydref bob blwyddyn. Rhannwch ein pecyn am ddim o adnoddau lles ar y gwefan Education Support â phob aelod o staff yn eich ysgol.

Gweminar goruchwylio gyda Twinkl

Ymunwch â Faye, ein cyfarwyddwr rhaglenni, ochr yn ochr â'r goruchwylwyr Lisa a Kemi, ar gyfer y weminar am ddim hon sy'n archwilio manteision goruchwyliaeth i arweinwyr ysgolion. Cofrestrwch drwy Eventbrite.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf