Neidio i'r prif gynnwy
Beta

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i’w gwella.

Arwain er Tegwch: Rhaglen Arweinyddiaeth Wrth-Hiliol

Gwahoddir arweinwyr ysgolion ledled Cymru i ymuno â Rhaglen Arweinyddiaeth Wrth-Hiliol beilot, sy'n cefnogi arweinwyr i gynyddu ymdeimlad o berthyn yn eu hysgolion. Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb erbyn 11 Rhagfyr 2026.
27 Tachwedd 2026

Gwahoddir ysgolion ledled Cymru i ymuno â Rhaglen Arweinyddiaeth Wrth-Hiliol beilot. Dros ddau dymor, bydd arweinwyr ysgolion yn cydweithio i ddatblygu eu cymhwysedd diwylliannol, cryfhau ymarfer gwrth-hiliol, cynyddu llais y dysgwr a chreu gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy yn eu hysgolion.

Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?

Bydd dau arweinydd o bob ysgol sy’n cymryd rhan yn cyfranogi mewn chwe sesiwn:

  • tair sesiwn dysgu a datblygu ar-lein

  • tair sesiwn wyneb yn wyneb a gynhelir gan ysgolion ledled Cymru

  • ymholi cydweithredol, myfyrio, a dysgu gan gymheiriaid

  • dysgu gan ymarferwyr â phrofiad bywyd ac arbenigedd

  • gweithgaredd ymarferol yn yr ysgolion rhwng sesiynau

Beth fydd y rhaglen yn ei gyflawni?

Bydd y rhaglen yn cefnogi athrawon i:

  • adnabod, herio a mynd i’r afael â hiliaeth yn eu hysgolion

  • datblygu cymhwysedd diwylliannol ac ymgorffori dulliau gwrth-hiliol o fewn arweinyddiaeth, y cwricwlwm ac addysgeg

  • troi dysgu proffesiynol yn welliannau ymarferol a chynaliadwy yn eu hysgolion

  • cryfhau ymdeimlad o berthyn a gwella profiadau dysgwyr, yn arbennig ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd Mwyafrif Byd-eang

Bydd llais y dysgwr yn elfen ganolog. Bydd yr ysgolion yn myfyrio ar effaith eu gwaith drwy ddefnyddio llais y dysgwr, tystiolaeth ac ymholiadau’r ysgol, wrth gynhyrchu astudiaeth achos fer sy’n crynhoi eu dysgu, eu gweithredoedd a’u heffaith.

Pwy ddylai fynegi diddordeb?

Rydym yn croesawu ysgolion:

  • lle mae gwrth-hiliaeth yn flaenoriaeth arweinyddiaeth a gwella yn yr ysgol

  • lle gall dau arweinydd ymrwymo i bob un o’r chwe sesiwn

  • lle mae arweinwyr yn barod i fyfyrio’n feirniadol ar ymarfer presennol

  • lle gall yr ysgol wneud gweithgaredd gwella rhwng y sesiynau

  • lle mae ymrwymiad i wrando ar lais y dysgwr

  • cymuned ehangach yr ysgol yn gallu cyfrannu at y gwaith hwn

  • lle mae’r ysgol yn barod i rannu’r hyn a ddysgwyd a chefnogi gwerthusiad o’r rhaglen beilot

Datganiad o ddiddordeb

Nid yw cyflwyno datganiad o ddiddordeb yn cynrychioli ymrwymiad ffurfiol i gymryd rhan.

Darparwch ymateb byr sy’n amlinellu:

  • pam fod gan eich ysgol ddiddordeb yn y rhaglen?

  • beth ydych chi’n gobeithio ei ddatblygu neu ei newid?

  • unrhyw ddysgu proffesiynol blaenorol ar wrth-hiliaeth neu sy’n canolbwyntio ar degwch a wnaed gan arweinwyr?

  • sut bydd llais y dysgwr yn hysbysu eich gwaith?

  • cadarnhad y gallai dau arweinydd fynychu’r chwe sesiwn a chyfranogi mewn gweithgareddau yn eu hysgol

Dylech anfon datganiadau o ddiddordeb i mbe.gm@dysgu.llyw.cymru erbyn 5pm ar ddydd Gwener 11 Rhagfyr 2026.

Rhannu:

Y newyddion diweddaraf