Ffurflen casglu data plant Gwasanaeth SSCE Cymru bellach ar agor
Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu hannog i gwblhau ffurflen casglu data Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Addysg (SSCE) Cymru ar blant Gwasanaeth.
Mae’r ymarfer hwn yn helpu i greu darlun cenedlaethol a lleol cliriach o blant Gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys lle maent yn cael eu haddysgu ac unrhyw anghenion cymorth sy’n deillio o ffordd o fyw’r Lluoedd Arfog.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i lywio gwaith cynllunio, datblygu polisi a thargedu cymorth yn effeithiol ar gyfer dysgwyr o deuluoedd y Lluoedd Arfog. Bydd hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi plant gwasanaeth, gan gynnwys drwy ddeall eu profiadau a’u hanghenion yn well.
Mae cwblhau’r ffurflen casglu data hefyd yn ofyniad ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol sy’n dymuno cael mynediad at gyllid perthnasol i gefnogi plant gwasanaeth Cyllid.
Mae’r ffurflen casglu data ar gael ar wefan SSCE Cymru: Casglu data.